5 LLYFR I DDARLLEN GYDA’R PLANT CYN AMSER GWELY…


Mae amser gwely yn amser pwysig iawn – ac yn gyfle gwych i ddarllen stori!


5. Sgleinio’r Lleuad gan Caryl Lewis
Lluniau gan Valériane Leblond

Layout 1

Gwaith Byrti a Bwbw yw sgleinio’r lleuad. Pam mae Pwnîc yn dweud wrth y ddau am beidio gwneud hynny? O diar, bydd y byd i gyd yn dywyll! Yna, mae rhywbeth hudolus iawn yn digwydd…

Cyfrol hardd, clawr caled gyda chymeriadau annwyl yn adlais o Le Petit Prince gan Antoine de Saint-Exupéry a dwy foeswers bwysig iawn.

Addas ar gyfer 4-7 oed.


4. Coeden Cadi gan Bethan Gwanas
Lluniau gan Janet Samuel

coeden-cadi-bethan-gwanas

Mae Cadi’n hoffi dringo coed. Un diwrnod, daw gwynt OFNADWY o gryf nes bod Cadi’n methu’n lân â dal ei gafael. Mae’n cael ei saethu drwy’r awyr gan sgrechian… ac yn glanio yng Ngwlad yr Enfys.

Yno, mae’n cwrdd â Dicsi’r Picsi, Caio a’r Frenhines, a nifer o bobol fach ddoniol. Ond mae Cadi’n gorfod dysgu gwers bwysig yn y wlad liwgar, hudol uwchben y cymylau.

A fydd hi eisiau dringo coed byth eto?

Dyma stori wreiddiol ar gyfer plant sydd wedi gwirioni ar hud a lledrith ac mae’r foeswers fach yma yn llawn cymeriadau lliwgar a digwyddiadau difyr y gall plant uniaethu â nhw.

Addas ar gyfer 5-8 oed.


3. Beth am Stori? 10 Stori Fer i Blant

beth-am-stori

Dyma gasgliad o 10 stori fer – rhai hen a rhai newydd! Beth am dilyn antur Siôn Corn a’r afr, dilyn Cadi i balas y dywysoges a mynd ar daith anturus gyda Bleddyn mewn balwn? Wel, dewch!

‘Straeon yw’r pethau mwyaf hyfryd a hudolus yn y byd’ wedi’r cwbl!

Addas ar gyfer plant 7 i 9 oed.


2. Dafydd a Dad gan Manon Steffan Ros
Lluniau gan Jac Jones

dafydd-a-dad-manon-steffan-ros-jac-jones

Mae hi’n ddiwrnod braf. Beth fydd Dafydd a Dad yn ei wneud heddiw, tybed? Chwarae pêl-droed? Chwarae clai? “Dad? Gawn ni fynd i roi ein traed yn yr afon? Gawn ni?”

Stori hyfryd am berthynas Dafydd a’i dad prysur. Llyfr arbennig i’w ddarllen gyda’r plant amser gwely gyda dirgelion i’w darganfod yn y lluniau hefyd.

Addas i blant o dan 7 oed.


1. Deg Chwedl o Gymru – Meinir Wyn Edwards
Lluniau gan Gini Wade a Morgan Tomos

Layout 1

Casgliad o ddeg chwedl o Gymru – Cantre’r Gwaelod, Gwylliaid Cochion Mawddwy, Twm Siôn Cati, Merched Beca, Branwen a Bendigeidfran, Maelgwn Gwynedd, Llyn y Fan Fach, Rhys a Meinir, Dic Penderyn a Breuddwyd Macsen.

Llawn o straeon fydd yn cipio dychymyg unrhyw blentyn a darluniau arbennig o ddeniadol dyma drysor o gyfrol fydd yn siŵr fod yn lyfr poblogaidd amser gwely! Pa un fydd y ffefryn, tybed?

Addas ar gyfer 7-11 oed.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s