‘TRI DEG UN’

Darn esgliwsif o nofel ‘Tri Deg Tri’ gan Euron Griffith.


Wrth i’r cwch bach droi yn y dwr, gan greu cylch ewynnog, dechreuaf ystyried ai dyma’r amser i ymddeol. Dyn yn ei bedwardegau canol. Dyn sydd wedi gwneud tipyn o arian erbyn hyn. Dyn wedi blino twyllo. Dyn wedi blino lladd.

Ond, wrth gwrs, dydi ymddeol ddim yn opsiwn. Dim ym myd Nelson. Diolch i’r gwaith mae yna arian yn y banc, ond oes yna ddigon? Mae’n amhosib gwybod pa mor ddrud fydd Pant Melyn yn y diwedd.

Mae’r gwylanod a’r mulfrain uwchben yn fwy dewr erbyn hyn. Maen nhw’n cylchdroi yn is ac yn is.

“Does dim ofn arnon ni! Wyt ti’n deall? Dim ofn o gwbl! Dim ofn! Dim ofn!”

Mae’r cwch bach hanner ffordd ar draws yr harbwr ac mae’r mwg fel cymylau o ganser. Yn amlwg mae yna fwy o fwg nag arfer oherwydd mae’r gyrrwr yn estyn rhyw fath o liain ac yn trio chwifio’r cwmwl i ffwrdd. Uwch pyt-pyt-pytian yr injan, a heclo dieflig yr adar, clywaf Dr Sakamoto a gyrrwr y cwch bach yn dechrau tagu. Wedyn, mewn mater o eiliadau, mae’r cwmwl du wedi gorchuddio’r cwch fel maneg ddychrynllyd ac mae’r ddau ddyn wedi diflannu.

Yn ddirybudd mae yna fflach ac mae’r injan fach yn ffrwydro mewn pelen lachar a’r fflamau’n cropian ar hyd y pren fel napalm. Clywaf lais cyfarwydd yn sgrechian.

“Help! Rhywun! Fedra i ddim nofio! Help!”

Dr Sakamoto.

Mae ’nghalon yn sboncio ac mae gen i gywilydd cydnabod bod yna elfen o lawenydd yn fy ymateb i’r sefyllfa. Dwi’n troi rownd. Does neb o gwmpas yn yr harbwr bach cysglyd. Neb ond fi a’r gwylanod a’r mulfrain.

“Tân ar y cwch! Mae o am suddo! Cyfle am fwyd! Cyfle am fwyd!”

Mae siâp aneglur Dr Sakamoto’n ymddangos drwy’r mwg. Mae o ar ei draed ac yn chwifio ei freichiau, y cês rhwng ei goesau bron wedi ei anghofio rwan – ei gyfrinachau a’i blaniau busnes am y chwarter nesaf yn ddibwys bellach o gymharu â llond ceg o awyr iach.

“Help! Plis! Rhywun!”

Mae yna hen bysgotwr yn dod allan o’i gwt i weld beth sy’n achosi’r holl stwr, ac wrth weld y cwch bach ar dân mae’n cicio’i sgidiau i ffwrdd ac yn paratoi i ddeifio i mewn i’r dwr.

“Na,” estynnaf fy mraich i’w stopio. “Gadewch hyn i mi.”

Mae’r hen bysgotwr yn edrych arna i am eiliad, bron fel petai’n fy amau. Ond efallai mai fy nychymyg yw hynny. Fy nychymyg a ’nghydwybod. Ciciaf fy sgidiau i ffwrdd a deifio mewn i ddãr iasoer yr harbwr. Mae’r oerni’n fy nghlymu fel rhaff ac mae’r môr yn llenwi fy nghlustiau fel glud. Wrth agor fy llygaid y cyfan a welaf ydi gwyrddni’n ymestyn am byth, fel planed hollol newydd. Does dim byd dan fy nhraed. Wrth drio cerdded dwi mor fabïaidd ag astronot. Mae’r dwr yn ddyfnach nag oeddwn i wedi’i ddisgwyl. Ond wedyn dechreuaf nofio ac mae ’mhen yn torri trwy blisgyn meddal yr wyneb. O ’mlaen, drwy gwmwl uffernol y ffrwydrad – ac yn bobio ac yn rolio fel petai yng nghanol Cape Horn – mae cwch bach Dr Sakamoto.

Ac mae o’n fy ngweld.

“Help! Tony! Plis!”

Dwi’n nofio. Yn fy ngheg mae blas yr halen yn gymysg â blas olew a phetrol. Cydiaf yn ochr y cwch.

“O, diolch byth,” meddai Dr Sakamoto. “Be ’dan ni’n mynd i neud?”

Welais i erioed banig yn ei lygaid o’r blaen. Fedar o ddim rheoli hyn. Pan mae’r môr yn troi a phan mae’r byd i gyd fel gelyn, does ’na’r un cynllun pum mlynedd na biliwn yn y banc yn mynd i’ch achub. Mewn sefyllfa fel hon mae darn o bren mor werthfawr â llond pagoda o aur. Wrth i yrrwr y cwch straffaglu â phwcedi o ddwr môr i geisio difa’r fflamau mae Dr Sakamoto’n pwyso ’mlaen, yn colli ei gydbwysedd ac yn plymio i mewn i’r dwr.

Ugain? Deugain? Mae’n amhosib mesur faint o droedfeddi o ddwr sydd dan ein traed wrth i ni gicio a strancio, ond mae’r gwyrdd yn troi’n araf yn ddu ac mae yna siapiau tywyll,  amheus yn symud yn yr oerni. Mae’r dyfroedd hyn yn rhai ffrwythlon iawn i siarcod.

Mae Dr Sakamoto’n benderfynol o gyrraedd yr wyneb ac mae swigod o brotest yn byrlymu o’i geg fel geiriau annealladwy mewn cartãn. Yn araf bach, mae ei gicio a’i strancio’n arafu ac mae’r nerth yn diflannu o’i freichiau. Mae ei lygaid yn syllu arna i drwy’r gwyrddni oer. Llygaid anghrediniol. O’r gwyrddni daw düwch chwim, ac mae’r siarc yn cipio Dr Sakamoto a’i frathu’n ddau. Mae ei goesau llonydd yn diflannu i’r dyfnderoedd fel llythyren ‘Y’ unig, heb air i fod yn rhan ohono. Y gwaed yn tywyllu’r dyfroedd. Mae hanner uchaf Dr Sakamoto yng ngheg y siarc, ei berfeddion yn llusgo fel rhaffau. Mae’r briffces yn dal yn sownd i’w arddwrn. Ar yr harbwr medraf weld Keiko yno yn ei chimono blodeuog.

Mae yna gar heddlu  hefyd, yr unig un ar yr ynys. Tu ôl i mi mae yna fwrlwm o swigod a gwaed yn y dãr wrth i fwy o siarcod gyrraedd y parti. Mae coesau coch, esgyrnog Dr Sakamoto’n torri trwy’r wyneb ac mae sgrech Keiko i’w chlywed o’r harbwr.

Uwchben, clywir cri’r gwylanod a’r mulfrain.

“Llofrudd! Llofrudd! Llofrudd yn yr harbwr! Llofrudd!”

Mae taranau’n taro o bell.

Y glaw yn syrthio fel sidan.


Mae Tri Deg Tri gan Euron Griffith ar gael nawr (£8.99, Y Lolfa)

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s