Y GWREIDDYN

Blas o gyfrol newydd o straeon byrion, ‘Y Gwreiddyn’ gan Caryl Lewis


Codi’r dillad gwlyb allan o’r Twin Tub roedd hi pan sylwodd hi ar y deilsen. Roedd hi wedi rowlio’i llewys i fyny a chodi’r dillad tamp i’r fasged yn barod i’w rhoi ar y lein. Wedi cadw’r dwr o’r olch gyntaf ar gyfer yr ail, roedd hwnnw nawr yn gymylog o faw a fflwcs a hadau porfa. Gwrandawodd ar bwmp y peiriant fel curiad calon yn gwthio’r brynti allan  gyda’r dwr i’r sinc.

Roedd y peiriant wedi bod yn fendith, a Dai wedi bod yn fodlon iddi ei gael. Ddaeth dim trydan i’r ty tan ddechrau’r chwedegau ac roedd socio cewynne Wiliam mewn bwcedi wedi bod yn nychdod. Bu’n rhaid i Eirwen gerdded i’r bocs ffôn ar dop y lôn i ffonio’r siop i’w archebu. Roedd hi wedi bod yn tolio tamed o arian o fan hyn a fan draw ac fe brynwyd y peiriant ag arian gloyw. Clywodd hi fod Rosemary Ty Po’th a rhai eraill yn gorfod talu fesul wythnos, ond poethi wnaeth bochau Eirwen wrth feddwl am y fath beth.

Troi wnaeth hi, a digwydd edrych ar hyd y llawr o deils du a choch drwy’r gegin gul, heibio’r bwrdd bwyd ac am y cloc wyth diwrnod a safai’n sobor ym mhen pella’r stafell fach ar bwys y drws bac. Oedd, roedd cysgod yno. Safodd, a’r dillad gwlyb yn ei breichiau’n tampio’i brat. Roedd hi’n sgrwbio’r llawr bob nos Sadwrn pan fyddai Dai’n cerdded draw i’r Red Lion. Ac ynte ddim o dan drad, byddai hi’n medru codi’r cadeirie wedyn i ben y ford a thynnu padell o ddwr poeth a sebon a’i sgwrio’n lân i gyd. Ond heddiw, er bod y teils yn loyw, a llwybr o olau yn cyrraedd hyd at ei thraed, roedd yna gysgod wrth ymyl un deilsen.

Rhoddodd y dillad i lawr yn y fasged a cherdded tuag at y cysgod. Safodd, ac edrych i lawr ar y deilsen. Dim byd. Gwasgodd wadn ei throed i lawr arni. Symudodd ei throed o un ochor i’r deilsen i’r llall. Oedd, roedd hi’n anwastad. Plygodd i’w chrwb a sylwi ar ba mor goch oedd croen ei breichiau ar ôl y golch. Yn wir, roedd hi wedi sylwi yn ddiweddar bod croen ei dwylo yn heneiddio am eu bod byth a beunydd mewn dwr yn y parlwr godro ac yn y ty. Roedd Rosemary drws nesa’n rhwbio’i rhai hithau â rhyw cold cream bob nos ond hwerthin wnaeth Eirwen arni am fod yn gymaint o ffrwlen. Teimlodd y deilsen â’i bysedd. Oedd, roedd un ochor yn codi. Eisteddodd yn ôl ar ei phengliniau gan eu teimlo’n tynnu.

Wrth iddi hongian y dillad ar y lein a grogai o’r hen goeden afalau i’r goeden bêrs y tu ôl i’r ty, allai hi ddim meddwl am ddim byd ond y deilsen. Plygodd y dillad dros y lein, a phan oedd y fasged yn wag, fe drodd yn ôl i edrych ar y ty. Buodd hi’n dod yma yn blentyn i weld Dai. Buon nhw’n cerdded bob cam i’r ysgol gyda’i gilydd ac wedi hynny, yn bedair ar ddeg, yn gweithio ar yr un fferm yn Llain – hithau yn y ty ac yntau yn y caeau. A hithau’n un o un ar ddeg o blant, roedd yna ddisgwyl iddi ei briodi fel bod un geg yn llai i’w bwydo adre. A’i mam yn brysur gyda’r plant llai, doedd dim llawer o ddiddordeb ganddi yn Wiliam pan anwyd hwnnw a theimlai Eirwen y byddai ei hymweliadau yn fwy o ffwdan na phleser i’w mam.

Buodd hi’n lwcus o Dai a’r ty, ac er ei fod yn treulio llawer o amser yn y pentre, a hithau fel arfer wedi bennu  godro ac yn bwydo’r lloi pan ddeuai e adre, roedd e’n gwmni mawr iddi. Edrychodd Eirwen ar y ffenestri bach a gadwai’r golau a’r gwres allan, ac fe sylwodd ar yr onnen ifanc oedd wedi cyrraedd at glawdd yr hen dy. Roedd hi wedi sylwi arni flynyddoedd ynghynt, yn eginyn styfnig, dierth yn yr hen ardd. Cododd y fasged a cherdded tuag ati. Roedd ei boncyff yn braff ac yn dalsyth ac roedd ei dail yn byseddu’r to yng nghefn y tñ. Roedd mwswg yn tyfu ar yr hen lechi fan hyn a fan draw ac Eirwen wedi dweud wrth Dai bwer o weithie bod eisiau eu glanhau.

Dilynodd llygaid Eirwen y goeden tuag at ei bôn, ac er mawr syndod iddi, fe welodd ei gwreiddiau llwydion yn ymwthio o dan seiliau’r ty. Cwympodd y fasged a daeth gwres i’w brest. Yna, heb godi’r fasged, fe redodd yn ôl i mewn i’r ty. Edrychodd ar y deilsen eto. Roedd gwreiddyn wedi gwthio ei hun drwy’r hen lawr pridd ac yn mynnu, yn benderfynol, codi’r deilsen a sarnu’r llawr. Clywodd Eirwen yr hen gloc yn taro tri. Byddai Wiliam adre o’r ysgol cyn bo hir ac fe fyddai’n bryd mynd i nôl y da ar gyfer eu godro, ond ni allai godi ei llygaid oddi ar y cysgod tywyll ar y llawr.

Pan ddaeth Dai i’r ty y noson honno, fe soniodd wrtho am y goeden wrth iddo lanhau ei bibell â’i gyllell boced. Byddai’n rhaid cwympo’r goeden, awgrymodd Eirwen, ond fflachio ei dymer arni wnaeth Dai. Roedd e wedi bod yn y pentre drwy’r dydd yn gweld Jams ambwti hyn a’r llall. Llonydd roedd e ei eisie, dim rhyw gnùl am ryw blydi goeden. Aeth i eistedd wedyn yn y gegin ore o flân y tân i smocio’i bibell.

Rhoddodd Eirwen Wiliam yn ei wely’n dawel cyn mynd yn ôl i eistedd wrth y bwrdd bach a  syllu ar y deilsen eto.

Dros y blynyddoedd, tyfodd yr onnen, gan dywyllu’r ty hyd yn oed yn fwy. Roedd ei dail yn llenwi’r landarau gan wneud i ddwr brwnt ddiferu ar hyd gwyngalch y wal gefen. Byddai’n rhaid i Eirwen nôl ysgol o’r sied a cheisio’u clirio nhw, cyn clymu macyn am ei phen a gwyngalchu’r hen wal eto. Byddai’r blewiach o gwmpas ei thalcen yn wyn wedi iddi orffen, a’i hysgwyddau’n dost, ond fe safai’n benderfynol rhwng y goeden a’r ty. Roedd y deilsen bron wedi ei disodli yn gyfan gwbwl erbyn hyn.

Weithiau, yn y gaeaf, a  chroen ei bochau’n llosgi ar ôl bod allan yng ngafael y gwynt, byddai Eirwen yn gorwedd yn ei gwely yn gwrando ar anadlau cysurus Dai. Ond byddai ei breuddwydion yn llawn dail yr onnen, fel dwylo, fel crafangau tywyll yn dinistrio’r ty. Byddai’r gwreiddiau’n berwi o dan y ddaear, yn gryf ac yn gyhyrog, yn barod i ffrwydro drwy’r llawr a chwalu’r patrwm trefnus o ddu a choch bwrdd gwyddbwyll eu bywydau.

Yn debyg i’w dad, doedd ffermio ddim yng ngwaed Wiliam. Doedd ganddo ddim diléit ac erbyn iddo symud i’r dre i fyw, roedd yr onnen wedi tywyllu cefn y ty i gyd. Fe gafodd Wiliam fab ei hun ac er bod digon o amser gan Eirwen i edrych ar ei ôl, roedd ei wraig yn gweithio hefyd, esboniodd Wiliam yn ofalus, ac roedd hi’n fwy cyfleus bod ei mam hithau yn gofalu am yr un bach.

Erbyn hyn, roedd y Twin Tub yn eistedd yn y parlwr godro a gwellt drosto. Am ei bod wedi bod mor ofalus wrtho, roedd yr hen beiriant wedi para ugain mlynedd, ond a’r parlwr godro’n wag roedd pethau wedi symud ymlaen. Eisteddodd Eirwen wrth y bwrdd bach yn magu cwpaned o de. Roedd yr oelcloth wedi ei wisgo yn gymylau gwynion o dan ei breichiau hi a rhai Dai ar ôl blynyddoedd o eistedd godderbyn â’i gilydd. Clywodd y peiriant golchi newydd yn hymian yn dawel y tu ôl iddi yn yr hen gegin gul. Roedd hi wedi golchi coler ei grys gwyn yn lân ac wedi gwasgu tafod y dei ddu yn llyfn ac yn sgleiniog dan yr haearn smwddio. Byddai Dai adre cyn hir. Am un o’r gloch roedd yr angladd. Cododd a mynd at y stof i edrych ar y cig. Roedd hwnnw’n rhostio’n swnllyd yn y tun enamel. Caeodd y drws ac aeth ati i osod y ford yn barod. Aeth at y cwpwrdd cyn troi a cherdded i’r gegin ore. Aeth at y dreser ac agor y drws gwydr. Roedd hwnnw wedi ei rwbio’n lân. Yno, disgleiriai’r llestri gore – y rhai gafodd y ddau ar ddiwrnod eu priodas. Casglodd  nhw’n ofalus a’u gwasgu’n ddiogel i’w brest ac yna’u cario at y ford. Aeth at y drôr a chodi lliain gwyn a oedd wedi ei startshio’n sgwaryn a’i agor yn un chwip o wynder ar hyd y bwrdd. Roedd y llysiau’n berwi.

Byddai’r gwasanaeth yn para hyd ddau ac wedyn fe fyddai’n rhaid iddo fynd i lan y bedd. Byddai’r te wedyn wrth gwrs. Rosemary fyddai fel arfer wrth y te yn y capel, hi a Marion Llety Hen. Aeth Eirwen ati i osod cyllyll a ffyrcs cyn codi’r cig i blat a’i wasgu mewn ffoil i wneud y grefi. Efallai y byddai Dai wedi cael gormod o de i fwyta’r fath bryd, ond fe fyddai’n hoff iawn o’i ginio rhost.

Am hanner awr wedi chwech ddaeth e adre. Fe eisteddodd wrth y bwrdd a’r cloc y tu ôl iddo. Roedd arogl y cinio yn llenwi’r lle. Tynnodd y dei a gofynnodd Eirwen iddo fynd i newid rhag ofn iddo sarnu’i siwt ore. Cododd ei ben ac edrych arni. Safodd ar ei draed a symud, cyn cicio’r deilsen yn rhydd ag un o’i esgidiau gloywon. Gwyliodd y ddau y deilsen yn sgimio ar hyd wynebau’r teils eraill cyn bwrw talcen y sgyrtin yn sgwâr yr ochor draw. Edrychodd Eirwen arno mewn ofn. Roedd y gwreiddyn yn noeth ac yn ffyrnig yn nhywyllwch y pridd. Cododd Dai ei ben ac edrych arni.

“Ma hi wedi mynd,” meddai.

Fe wyddai Eirwen fod y fenyw y bu ei gwr yn caru gyda hi ers dros ddeg mlynedd ar hugain yn gorwedd yn y fynwent. Nodiodd Eirwen arno. Roedd ei groen yn fwy gwelw rywffordd yn erbyn düwch ei siwt. Rhwbiodd Eirwen ei breichiau blinedig â’i dwylo ac edrych arno.

“Ma hi’n bryd torri’r goeden ’na,” meddai o’r diwedd.

Nodiodd yntau, ei wyneb wedi ei feddalu rhywfaint gan henaint. “Fydd y gwreiddyn ddim yn hir yn marw’n ôl.”

Gwrandawodd y ddau ar yr hen gloc yn cerdded am amser hir cyn i Eirwen droi i ddod â’r swper i’r ford.


y-gwreiddyn-caryl-lewis-copyMae Y Gwreiddyn gan Caryl Lewis ar gael nawr.

£7.99, Y Lolfa

Advertisements

One comment

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s