DAN Y CHWYDDWYDR: HOLI RUTH RICHARDS

Yr awdur Ruth Richards sydd yn cael ei holi yn dwll gan Y Silff Lyfrau yr wythnos hon!


Enw: Ruth Richards

O ble ydych chi’n dod?  O Sir Fôn; Cemaes yn wreiddiol, Biwmares bellach!

pantywennol-ruth-richardsYn gryno, disgrifiwch eich llyfr diweddaraf: Nofel yn seiliedig ar hanes Elin Evans, Pantywennol, Mynytho; merch ifanc a gyhuddwyd o rwygo dillad rhwng 1865 ac 1866. Bu’n gyfle i ymchwilio hanes y cyfnod ac ymweld â blynyddoedd yr arddegau; cyfnod ym mywyd y rhan fwyaf ohonom pan does neb yn gwrando a dim yn gwneud synnwyr.

Pwy yw eich hoff awdur?
Daniel Owen (ymysg llawer o rai eraill)

Pa lyfr a wnaeth y fwyaf o argraff arnoch?
Cyfrol o gerddi Emily Dickinson a brynais tua ugain mlynedd yn ôl – mae’n dal i atseinio.

“Hunan amheuaeth ac nid beirniadaeth allanol yw’r peth i’w osgoi…”

llyfr_mawr_y_plantBeth oedd eich hoff lyfr(au) yn blentyn?
Llyfr Mawr y Plant, Cyfrol 1 – gwnaeth fi’n falch fy mod yn medru’r Gymraeg.

Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth?
Hoff gymeriad; Wil Bryan: cas gymeriad; Netta Longdon (Hangover Square, Patrick Hamilton)

 

Yn olaf, beth yw eich cyngor chi i rywun sydd eisiau ysgrifennu?
Mae’r gwahaniaeth rhwng ysgrifennu a synfyfyrio mor sylfaenol â gosod yr hyn sydd ar eich meddwl ar bapur neu sgrin: taniwch y cyfrifiadur neu chwiliwch am feiro, rŵan! Mae’n bwysig cofio’n ogystal mai hunan amheuaeth, ac nid beirniadaeth allanol yw’r peth i’w osgoi.


Mae Pantywennol gan Ruth Richards ar gael gan Y Lolfa (£8.99)

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s