DAN Y CHWYDDWYDR: HOLI LLEUCU ROBERTS

 

Yr awdur Lleucu Roberts sydd yn cael ei holi yn dwll gan Y Silff Lyfrau yr wythnos hon!


Enw: Lleucu Roberts

O ble ydych chi’n dod?  O ardal Llandre yn wreiddiol ond wedi byw yn Rhostryfan ers bron i chwarter canrif.

jwg-ar-seld-lleucu-robertsYn gryno, disgrifiwch eich llyfr diweddaraf: Cyfrol o wyth stori fer gydag agweddau ar ein perthynas â’r Gymraeg yn llinyn cyswllt rhyngddyn nhw.

Pwy yw eich hoff awdur? Gormod i’w nodi, a’n newid drwy’r amser.

Pa lyfr a wnaeth y fwyaf o argraff arnoch? The Ancestor’s Tale a The Blind Watchmaker, Richard Dawkins; Ulysses, James Joyce (ry’n ni’n meddwl ein bod ni mor arloesol, mor fodern… roedd Joyce filltiroedd ar y blaen, bron ganrif gyfan yn ôl.) Gyda llaw, y llyfr dwi’n edrych ymlaen fwya at ei ddarllen ar hyn o bryd yw llyfr nesa Barrack Obama…

“Peidiwch â meddwl am sgwennu – sgwennwch…”

rala-rwdins-rwdlan-angharad-tomosBeth oedd eich hoff lyfr(au) yn blentyn? Llyfrau antur – John Ellis Williams, Islwyn Ffowc Elis, Swallows and Amazons, a gas gen i gyfadde, Enid Blyton. O’n i dwtsh yn rhy hen i Gyfres y Llewod, gwaetha’r modd. A’r ‘Great Short Stories of the World’, nad oedd yn llyfr i blant, ond heb ei ail am gyflwyno awduron a llên i blentyn. Ond fy mhlant a gafodd y llyfrau gorau a fu i blant erioed – Cyfres Rwdlan: fe ges innau eu mwynhau gyda nhw, ac mae talpiau mawr ohonyn nhw’n dal ar fy nghof.

Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Yr hoff gymeriadau yw’r rhai mwyaf diddorol, mwyaf amlhaenog – mae Martha, Jac a Sianco yn llamu i’r meddwl, Leopold a Molly Bloom, rhai o gymeriadau Shakespeare wrth gwrs… A’r cas gymeriadau yw’r rhai anniddorol, mewn nofelau diflas a di-fflach. (Pride and Prejudice – be ddiawl yw’r holl ffys am honno? Cymeriadau cwbl chwydlyd.) 

Yn olaf, beth yw eich cyngor chi i rywun sydd eisiau ysgrifennu?
Peidiwch â meddwl am sgwennu – sgwennwch.


Mae Jwg ar Seld gan Lleucu Roberts ar gael gan Y Lolfa (£8.99)

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s