DAN Y CHWYDDWYDR: HOLI BET JONES

Yr awdur Bet Jones sydd yn cael ei holi yn dwll gan Y Silff Lyfrau yr wythnos hon!


Enw: Bet Jones

O ble ydych chi’n dod?  Yn wreiddiol o Drefor; yna, bûm yn byw yn Rhiwlas am bron i ddeugain mlynedd cyn symud i Bontnewydd yn ddiweddar.

Yn gryno, disgrifiwch eich llyfr diweddaraf: Y Nant – Nofel dditectif sy’n ymdrin â llofruddiaeth yn Nant Gwrtheyrn yn ystod cwrs iaith.y-nant-bet-jones

Pwy yw eich hoff awdur? Mae sawl un, yn amrywio o Primo Levi i Agatha Christie!

Pa lyfr a wnaeth y fwyaf o argraff arnoch? Mae amryw o lyfrau wedi gwneud argraff ar hyd y blynyddoedd – llyfrau fel Birdsong gan Sebastian Faulks.  Yn ddiweddar, Awst yn Anogia gan y diweddar Gareth F Williams, yn arbennig felly gan i mi ei ddarllen tra ar wyliau ar Ynys Creta a chael cyfle i ymweld â’r pentref.

Fy hoff gymeriad ac un sydd wedi aros yn y cof yw Sioned o’r nofel o’r un enw gan Winnie Parry…”

9781870206037-ukBeth oedd eich hoff lyfr(au) yn blentyn? Llyfrau Elizabeth Watkin Jones yn arbennig felly, Luned Bengoch.

Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Fy hoff gymeriad ac un sydd wedi aros yn y cof ers blynyddoedd yw Sioned o’r nofel o’r un enw  gan Winnie Parry – cymeriad hoffus ac annwyl. Credaf mai Monica Saunders Lewis yw fy nghas gymeriad gan na fedrais gymryd ati o gwbl.

Yn olaf, beth yw eich cyngor chi i rywun sydd eisiau ysgrifennu?
Rydym yn ffodus yng Nghymru gan ei bod yn bosib i unrhyw un sy’n dymuno gwneud hynny, gystadlu dan ffug enw mewn eisteddfodau a derbyn beirniadaeth ddi-duedd gan feirniaid profiadol. Ewch amdani!


Mae Y Nant gan Bet Jones ar gael gan Y Lolfa (£7.99)

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s