Bydd #DyddMiwsigCymru yn digwydd am yr ail dro ar 10 Chwefror, 2017 – diwrnod i ddathlu a hyrwyddo cerddoriaeth wreiddiol, wych o Gymru. Bu’r ymgyrch agoriadol flwyddyn ddiwethaf yn llwyddiant gyda gigs, sioeau radio a gweithgareddau mewn ysgolion ledled Cymru a gall unrhyw un gymryd rhan yn y dathlu!
I nodi’r diwrnod, dyma rhai o’n pigion ni…
Hefin Wyn
Cyfrol arloesol ac arhosol sydd yn olrhain hanes twf a datblygiad canu poblogaidd Cymraeg o ganol yr 1940au hyd ddechrau’r 1980au. Mae’r gyfrol hefyd yn llwyddo i osod cyd-destun hanesyddol, gwleidyddol, diwylliannol a chymdeithasol i’r caneuon – er enghraifft, daw’r llyfr i ben yn sŵn yr ymateb i Refferendwm 1979 a’r bleidlais yn erbyn mesur o hunanreolaeth i Gymru. Gosodir canu poblogaidd Cymraeg mewn perthynas â’r byd darlledu, Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a’r Eisteddfod Genedlaethol ymhlith sefydliadau a mudiadau eraill hefyd gyda cymeriadau megis Meic Stevens, Huw Jones, Dafydd Iwan, Heather Jones, yn ogystal â grwpiau dylanwadol megis Edward H. Dafis, Tebot Piws a Hergest ymhlith llu o rai eraill yn ymddangos.
BLE WYT TI RHWNG?
Hefin Wyn
Hanes canu poblogaidd Cymraeg rhwng 1980 a 2000. Llyfr swmpus sy’n adrodd stori’r cythryblus yr SRG mewn cyfnod o newid ac o ddatblygu. Sylw manwl i wleidyddiaeth mewnol cyfnod wnaeth esgor ar fandiau bydenwog. Dyma gofnod eithriadol bwysig ddylai godi ymwybyddiaeth pobl ifanc o’r traddodiad roc a phop Cymraeg. Cyfrol i unrhyw un sy’n ymddiddori yn y Sîn Gerddoriaeth Gymraeg.
Huw Dylan Owen
Dewch ar daith i brofi sesiwn werin Gymraeg a Chymreig yn y gyfrol fyrlymus, gyffrous, wybodus hon. Cewch ddysgu am fyd cerddoriaeth draddodiadol a’r holl ddiwylliant a geir o dan yr wyneb. Yma, rhwng cloriau’r gyfrol, datblyga’r alawon yn noswaith o firi, hiraeth a hwyl y Gymru gyfoes…
Arfon Gwilym
Mae gan Gymru draddodiad cerddorol hir a chyfoethog, a chyflwynir hanes y traddodiad unigryw hwnnw mewn modd hylaw a darllenadwy yn y gyfrol hon. O’r traddodiad canu penillion, yr eisteddfodau cynnar, i’r gwyliau tymhorol mae’r gyfrol yn rhoi blas o hen arferion y Cymry. Ceir hefyd gipolwg ar yr offerynnau a ddatblygodd yng Nghymru ers yr Oesoedd Canol a’r unigolion hynny a wnaeth gymaint o gyfraniad i gynnal y traddodiad gwerin a’i adfywio yn ystod yr Ugeinfed Ganrif. Dyma gyfrol anhepgor i unrhyw un sy’n ymddiddori yn y traddodiad cerddorol Cymreig.
Meic Stevens
Hunangofiant lliwgar Meic Stevens, canwr a chyfansoddwr a gyfrannodd yn helaeth i faes cerddoriaeth bop Cymru yn ystod deugain mlynedd olaf yr 20fed ganrif, yn cynnwys ei sylwadau gonest a beiddgar am gerddoriaeth a cherddorion, am uchelfannau ac iselfannau ei fywyd cyhoeddus ynghyd a gwefr a gwewyr ei fywyd personol.
sgript gan Mari Rhian Owen
ANNETTE: BYWYD AR DDU A GWYN
Annette Bryn Parri
Mae Annette Bryn Parri yn un o brif gerddorion a chyfeilyddion Cymru. Bellach mae wedi teithio’r byd yn cyfeilio i gantorion megis Bryn Terfel a Gwyn Hughes Jones, ond mae ei gwreiddiau’n ddwfn ym mhentref Deiniolen.
David R Edwards
Meinir Wyn Edwards
Alaw, geiriau a chordiau gitâr cant o ganeuon pop Cymraeg poblogaidd a casgliad o gant o ganeuon gwerin mwyaf poblogaidd Cymru.
Dafydd Evans / Y Blew
Dyddiaduron plentyndod a chyfnod coleg Dafydd Evans rhwng 1954 a 1967, gitârydd bas y grwp roc Cymraeg cyntaf, ‘Y Blew’, a mab Gwynfor Evans, yn adlewyrchu ei farn am ganu pop y cyfnod, crefydd a gwleidyddiaeth, ffasiwn a rhyw. Hefyd ar gael, poster i hyrwyddo Maes B, record sengl Y Blew, y grwp trydanol cyntaf i ganu yn Gymraeg. Cyhoeddwyd yn wreiddiol ym 1967.