PUM MENYW O HANES CYMRU DYLID EU COFIO

I ddathlu diwrnod rhyngwladol y merched 2017 dyma edrych yn ol ar rai o ferched ysbrydoledig o hanes Cymru.


5. KATE ROBERTS

Kate Roberts - Alan Llwyd

Kate Roberts oedd “Brenhines ein Llên”, yn ôl y disgrifiad poblogaidd ohoni a ‘Cymraes fwyaf yr ugeinfed ganrif’ yn ol disgrifiad Alan Llwyd.

Yr oedd Kate Roberts yn awdures o’r radd flaenaf, yn newyddiadurwraig doreithiog ac yn gymwynaswraig fawr. Roedd hefyd yn un o aelodau cynharaf y Blaid Genedlaethol ac yn berchen ar wasg a phapur Y Faner, gyda’i gwr i ddechrau ac wedyn ar ei phen ei hun. Gwasanaethodd Gymru ar bwyllgorau ac mewn eisteddfodau, a bu’n flaenllaw mewn sawl ymgyrch genedlaethol a lleol, fel yr ymgyrch i sefydlu Ysgol Twm o’r Nant yn Ninbych. Cafodd fywyd amrywiol a gweithgar, ond cafodd hefyd fywyd trasig a thrist.


4. HEULWEN HAF

Heulwen Haf - Bron yn Berffaith

Mae Heulwen Haf yn gyflwynydd teledu, actores ac eicon ffasiwn. Pan roedd hi’n 63 oed cafodd gadarnhad fod canser y fron ganddi  a hwnnw yn ganser anarferol ac ymosodol. “Cadw at y cadarnhaol”, meddai wrthi’i hun. A dyna a wnaeth wrth wynebu taith hir o driniaethau confensiynol a meddyginiaethau amgen. Cafodd y daith honno ei rhannu mewn dwy raglen ddogfen onest a chignoeth ar S4C ac yna, yn ei hunangofiant ble datgelir ei stori yn ei geiriau ei hun o’i magwraeth yng Nghorwen, yn ferch i gigydd, i’w charwriaethau, ei gyrfa hir gydag S4C a’r modd y daeth ei derwrder wrth wynebu canser a’i diddordeb mewn iachau amgen yn ysbrydoliaeth i eraill.


3. ZONIA BOWEN

Zonia Bowen - Hunangofiant

Cyfraniad pennaf Zonia Bowen i Gymru oedd ei rhan allweddol yn arwain merched y Parc i sefydlu Merched y Wawr. Saesnes  a briododd Gymro a dysgu Cymraeg ymhell cyn dyddiau gwersi Cymraeg i oedolion yw Zonia. Mae’n adrodd ei hanes yn hynod onest, bywiog a diflewyn-ar-dafod. Yn wir, ble bynnag y bu hi’n byw yng Nghymru, boed ym Mangor, Sir Ddinbych, Caerdydd neu Sir Feirionnydd, y Gymraeg sydd wedi llywio bywyd Zonia Bowen.


2. ANGHARAD TOMOS

Angharad Tomos

Awdures ac ymgyrchydd Cymreig yw Angharad Tomos. Daeth yn gyntaf i amlygrwydd fel ymgyrchydd iaith digyfaddawd ac yna yn lenor disglair, gan wneud cyfraniad enfawr gyda’i llyfrau i blant gan gynnwys ei chyfres Rwdlan, a leolir yng Ngwlad y Rwla (Y Lolfa, 1983). Bu’n gadeirydd Cymdeithas yr Iaith ac ym 1985 derbyniodd wobr yr Academi Gymreig am ei nofel Yma o Hyd sydd am ei disgrifiad anghysurus ac onest hi o fywyd carchar y cafodd hi ei hun brofiad ohnno fel ymgyrchydd iaith.


1. KATE BOSSE-GRIFFITHS

Yr Erlid - Heini Gruffudd

Llwyddodd Kate Bosse-Griffiths i ffoi o’r Almaen i wledydd Prydain yn 1937. Caru, priodi, cychwyn llenydda yng Nghymru a sefydlu Cylch Cadwgan yn y Rhondda oedd ei hanes ar adeg pan droes y Natsiaid fywyd pobl yr Almaen ac Ewrop yn uffern.

Cafodd ei theulu ei erlid. Ceisiodd rhai fod yn rhan o’r system, roedd eraill yn ymdrechu i fyw er gwaetha’r system, ac eraill yn gwrthwynebu’n hunanaberthol.

Seiliwyd yr hanes ar gannoedd o lythyrau, dogfennau ac adroddiadau’r teulu. Soniant am ymosodiadau Kristallnacht, bywyd o dan y drefn wallgof, manylion gwersylloedd carchar, ffoi i Shanghai, hunanladdiad a lladd.


Darllena fwy ar
ylolfa.com

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s