5 LLYFR I GADW’R PLANT YN BRYSUR DROS Y PASG!

A hithau bellach yn wyliau’r pasg a’r plantos adref o’r ysgol, oes na ffordd i’w cadw nhw’n ddiwyd? Oes!


5. ALUN YR ARTH A’R WY PASG
Morgan Tomos

A/W Clawr Alun Arth 5  ceri

Mae Alun yr Arth yn edrych ymlaen yn arw am ei wy Pasg siocled hyfryd. Ond, wrth iddo chwilio am ei wy ar ôl ei fam a’i dad ei guddio yn yr ardd, mae’n cwrdd a MyfanWY! Mae MyfanWY yn honni mae ei wy hi yw’r wy mawr sgleiniog pert. Ond wedyn daw o hyd i wyau llawer mwy diddorol yn yr Helfa Wy Pasg yn yr ardd…

Mae storiau ac anturiaethau Alun yr Arth yn siwr o diddanu gyda lluniau lliwgar a stori gyda moeswers – sef bod yn ddiolchgar a bod gwell pethau na siocled! Mae’r llyfr yma yn berffaith ar gyfer amser stori neu ymarfer darllen yn ystod y gwyliau. (Oedran 4 i 7).


4. AR Y TRAETH (Cyfres am Dro)
Angharad Tomos

Ar y Traeth - Cyfres Am Dro - Angharad Tomos

Ymunwch â Rwdlan a Dewin Dwl ar y traeth, a dysgu am yr holl bethau a ddarganfu yno – cregyn, blodau, adar ac anifeiliaid y môr.

Dyma lyfr gwych i gyd-fynd gyda cerdded a chwarae ar y traeth yn llawn lluniau a ffeithiau. Mae sawl llyfr arall yn y gyfres megis Coed, Blodau, Adar, Creaduriaid bach, Dydd a Nos, Ddoe a Heddiw a Y Tywydd. (Oedran 3 i 7).


3. SNAP RWDLAN

Snap Rwdlan

Er gwaethaf dyfod y gwanwyn, mae’n sicr cewn ambell gawod mis Ebrill. Pan ei fod yn amhosib dianc a chwarae tu allan, beth am eistedd i mewn a mwynhau gêm o Snap Rwdlan?

Pecyn o 36 cerdyn gyda 4 o bob 9 cymeriad Gwlad y Rwla. Mae’n bosib chwarae’r ffefrynnau i gyd – Cofio Pâr, Cer i Bysgota, Snap neu Teuluoedd Dedwydd. (Addas i’r teulu i gyd).


2. LLYFR LLANAST A LLYFR SMONACH

Mae Gwlad y Rwla yn dod a mwy o syniadau hwyl a sbri yn y ddau lyfr yma. Mae Llyfr Llanast a Llyfr Smonach yn llawn gweithgareddau a lliwio i mewn i gadw plant yn brysur! (Oedran 3 i 7).


  1. LLIWIO CYMRU / COLOURING WALES
    Dawn Williams

Lliwio Cymru Colouring Wales - Dawn Williams

A beth am yr oedolion?

Beth am Liwio Cymru? Llyfr lliwio gyda 21 o luniau hyfryd, gyda thema Gymreig, i’w lliwio. Ymunwch gyda’r plant neu cymrwch amser i’ch hunan – mae seicolegwyr yn honni bod y canolbwyntio ar liwio yn dda iawn i’r meddwl. Paned amdani!


Mae rhagor o lyfrau gwych ar gael gan Y Lolfa.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s