5 NOFEL AM FYD DYSTOPIAN

Yw’r byd ar ben? Mae nofelau dystopian yn amlach na pheidio yn ddrych craff a beirniadol ar ein cymdeithas ni heddiw…


5. EBARGOFIANT
Jerry Hunter

Ebargofiant - Jerry Hunter

Nofel hynod o wreiddiol yn cyfleu bywyd yn y dyfodol pell ar ôl chwalfa ecolegol. Mae bywyd erbyn hyn yn anodd ac yn fyr.

Mae Ebargofiant wedi’i ysgrifennu yn y Gymraeg, ond nid y Gymraeg rydym yn adnabod heddiw ond yn hytrach gan rywun sydd yn ail-ddysgu sut i ysgrifennu… adeudagwir man hawd rol xydig! Mae Ed yn dechrau ysgrifennu ar ôl marwolaeth ei dad, a mae’r gallu yma yn rhoi hyder newydd iddo i fentro tu hwnt i’w fyd…


4. Y DŴR
Lloyd Jones

Y Dwr - Lloyd Jones

Stori am fferm Dolfrwynog. Mae yna argyfwng, a’r anifeiliaid yn marw fesul un a’r preswylwyr yn heneiddio. Mae Mari a Huw y plant heb ildio, a mae’r teulu a’n ceisio goroesi mewn cyfnod o ddiffyg bwyd, meddyginiaeth a chymorth. Un diwrnod mae Pwyliad o’r enw Nico yn dod i’r fferm, a dechrau cyfres o ddigwyddiadau sy’n gyfle prin am achubiaeth ac ateb i’r dioddef.


3. ANNWYL SMOTYN BACH
Lleucu Roberts

Annwyl Smotyn Bach - Lleucu Roberts - Dderwen

Nofel arall yng Nghymru y dyfodol, yn 2040 a 2089. Mae’r Brawd Mawr yn rheoli’n llym a’r Gymraeg yn diflannu’n gyflym. Mae Llio yn disgwyl babi, a’n llawn pryder am y dyfodol. Trwy darllen ei dyddiadur, cewn cipolwg ar ei byd a chell o bobl sydd yn barod i amddiffyn eu treftadaeth a’u dyfodol er gwaethaf y canlyniad.


2. Y DDINAS AR YMYL Y BYD
Arwel Vittle

Y Ddinas ar Ymyl y Byd - Arwel Vittle - Dderwen

Mae 50 mlynedd ers yr Argyfwng a dros deg ers y Haint. Mae natur wedi rhoi lan a’r byd yn anialwch – mae’r bobl sydd wedi goroesi i gyd yn byw yn y Dinas ar Ymyl y Byd a’n byw o dan rhym a rheolau’r Ceidwad. Ond mae’r awdurdodau yn cadw cyfrinach… beth sydd tu hwnt i’r Wal? Wrth i rai codi a sefyll yn erbyn yr awdurdod, Lluan yn un o’r sawl, ceir antur llawn tensiwn.


  1. DIM
    Dafydd Chilton

Dim - Dafydd Chilton - Derwen

Yn ail hanner yr 20fed ganrif, mae dau frawd yn byw ochr yn ochr. Yna, trobwynt a mae Gwyn ac Owain yn dewis llwybrau gwrthgyferbynnol i’w gilydd. Ble bydd eu penderfyniadau yn arwain a sut bydd y ddau yn ymateb i’r rhwymedigaethau?


ylolfa.com

Gadael sylw