’60’

Darn egsliwsif o gyfrol newydd sbon Mihangel Morgan, 60.


Myfyrio dirgelwch geni, priodi a marw oedd Orig Owen ac yntau yn dathlu ei ben-blwydd ar y naill law, ac yn boenus o ymwybodol o’r celloedd cancr a ganfuwyd dro yn ôl yn lluosogi ac yn cynyddu yn ei brostad ar y llall. Ond ar ei ffordd i’r optegydd ar y Stryd Fawr oedd e nawr i gadw apwyntiad i gasglu’i sbectol newydd gan fod rhaid cario ymlaen. Doedd dim dewis arall, wedi’r cyfan. Roedd hi’n anodd iddo ganolbwyntio ar ddim byd arall dan yr amgylchiadau a wynebai. Cawsai’i eni drigain mlynedd yn ôl, i’r diwrnod. Am ffordd o ddathlu’i ben-blwydd. Er ei fod yn ymddiried yn ei feddygon a’r rheini yn ffyddiog y byddai’n dod trwy’r llawdriniaeth a’r rhaglen o gyffuriau a therapïau a glustnodwyd ar ei gyfer, doedd dim byd tebyg i gancr i osod y meddwl ar un llwybr. ‘Mae gyda ni bob lle i gredu,’ meddai’r arbenigwr wrtho, ‘y byddwch yn byw bywyd cyflawn eto’. Ond gwyddai Orig fod pob gwellhad yn gyfaddawd dros dro. Os oedd rhaid defnyddio ystrydebau milwrol wrth drafod cancr a’r trosiad ohono fel brwydr, yna roedd unrhyw wrthgiliad o ran y clefyd yn gadoediad. Mewn geiriau eraill, roedd y cydymaith tywyll yn aros amdano, ond ychydig ymhellach ymlaen. Serch hynny roedd Orig yn dal i obeithio cael rhyw bymtheg i ugain mlynedd arall, o bosib. Wedi’r cyfan, on’d oedd ei hen gydweithiwr, yr Athro Egbert, wedi cael union yr un anhwylder ac wedi gorfod cael tynnu’i brostad i gyd, a hynny dros ugain mlynedd yn ôl, ac yntau yn dal ar dir y byw? Ond roedd gan yr Athro wraig a phedwar plentyn ac ni wyddai Orig sawl ãyr ac wyres. Roedd y teulu yn gefn iddo. Doedd gan Orig neb, roedd e ar ei ben ei hun.

Bymtheg mlynedd yn ôl, a hithau ond yn bum deg saith oed, bu farw ei chwaer. Peth nad oedd e byth yn anghofio amdano. Ac felly, roedd wedi cael bron i dair blynedd mwy na’i chwaer yn barod. Dyna ddirgelwch arall; beth oedd arwyddocâd yr amser atodiadol hwn, beth a wnaethai ef o’r blynyddoedd ychwanegol hyn a gawsai ef, na chawsai ei chwaer? Dim. Dim ond byw o ddydd i ddydd, gweithio a ‘photsian’ (chwedl ei fam). Ond dyna ei ddymuniad; cario yn ei flaen i botsian wedi iddo ymddeol yn gynnar. Geni, dim priodi, a marw. Dyna fyddai’i dynged ef. Felly, oedd ei fodolaeth yn anghyflawn gan iddo fethu sefydlu unrhyw berthynas hirhoedlog? Ni fu priodi yn opsiwn yn ei achos ef, ond rhwng y naill beth a’r llall ni chododd y cyfle i feithrin partneriaeth na charwriaeth na chyfeillgarwch dwfn hyd yn oed. Ni chyfarfu ef â’i ‘arall arwyddocaol’ erioed. Dywedai rhai taw arno ef oedd y bai am hynny am beidio ag agor ei hunan i’r posibiliadau am ei fod yn rhy anodd i’w blesio. Ond beth a wydden nhw? Doedd neb arall wedi byw yn ei groen ef.

Ond wrth iddo wynebu bygythiad i’w einioes roedd yn gweld ffordd newydd o edrych ar y dyfodol. Pe bai’n goroesi’r driniaeth roedd yn benderfynol o chwilio am bwrpas newydd i’w fywyd.

Roedd hi’n fore hydrefol braf a sut gallai Orig beidio ag ymhyfrydu yn yr heulwen a phrysurdeb y dref a’i fforddolion wrth iddo gyrraedd siop yr optegydd?


60 - Mihangel Morgan

Mae 60 gan Mihangel Morgan (£7.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s