‘MAE PETHAU’N BOSIBL’ – O’R PEDWAR GWYNT I’R LOLFA YN 50

Neges ben-blwydd gan olygydd O’r Pedwar Gwynt, Sioned Puw Rowlands, i’r Lolfa yn 50.


Mi ges i fy magu yn sŵn y Lolfa, ym mhentref cyfagos Rhydypennau, a hynny mewn awyrgylch gymunedol o angerdd, penderfyniad a hwyl, lle roedd y Lolfa fel rhyw injan greadigol yn gyrru’r cyfan. Effaith hynny ydi i mi dyfu gyda’r argyhoeddiad fod pethau’n bosib – os oes gweledigaeth, penderfynaid a’r parodrwydd i dorchi llewys.

Nid hyder hunanol, drostynt eu hunain yn unig ydi’r hyder sy’n perthyn i gynhysgaeth unigryw y Lolfa, ond yr hyder prin hwnnw sy’n abl i ymestyn y tu hwnt i’r ego a rhoi ffydd mewn pobl eraill – nes eu cymell i gredu ynddynt eu hunain. Dyna mae’r Lolfa wedi ei rannu efo pobl Cymru, a’i fagu am hanner canrif. Heb sôn am yr argyhoeddiad bod bywyd wedi ei roi i ni i’w fwynhau!

Cynhysgaeth y Lolfa ydi’r seiliau fu’n sail i sefydlu cylchgrawn O’r Pedwar Gwynt – a dwi’n gwybod mai dim ond un ymhlith rheseidiau dirifedi o fentrau y mae’r Lolfa wedi eu cynorthwyo a’u hannog tu ôl i’r llenni mewn rhyw fodd ydi hon.

Dyna’r safon a osodwyd a dyna’r safon y bydd O’r Pedwar Gwynt yn anelu ato. Diolch yn arbennig i Robat, Enid, Lefi a Garmon, a phen-blwydd hapus amheuthun!

Sioned Puw Rowlands, Mai 2017

untitled copy

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s