DADENI – PENNOD ESGLIWSIF!

Gyda Dadeni gan Ifan Morgan Jones yn cael ei gyhoeddi yr wythnos hon dyma ryddhau pennod esgliwsif ohoni yn damed i aros pryd…


‘JONI’

PEFRIAI ARWYNEB RHEWLLYD afon Teifi yng ngoleuni machlud yr haul llwynog a gamai’n ysgafndroed ar hyd crib y dyffryn. Prociai Joni’r wyneb â blaen brigyn, gan wylio ei adlewyrchiad yn ymgasglu a llifo fel olew amryliw wrth i’r iâ symud a griddfan oddi tano, cyn i’r darlun hollti gyda chlec foddhaol. Gwenodd. Bu’r afon yn ei ddifyrru ym mhob tymor o’i fywyd – plymiai’n hanner noeth iddi yn yr haf, pysgotai ynddi ar ddyddiau glawog o hydref pan oedd yr eog yn silio, a chaeai ei lygaid yn y gwely a gwrando arni’n byrlymu heibio ar ôl glawogydd trwm y gwanwyn. Joni Teifi oedd ei enw, a theimlai fod yr afon a ddolennai’n ddiog drwy odre’r cwm yn gwlwm oesol a’i clymai yntau wrth fro ei febyd.

‘Gwylia dy ben, achan!’

Gwyrodd Joni o’r ffordd mewn pryd wrth i garreg anferth hwylio heibio ei glust, cyn dryllio’r iâ ag ergyd a atseiniodd drwy’r dyffryn. ‘Ha ha!’ meddai Iaco, gan anadlu’n ddwfn ar ôl yr orchwyl o hyrddio’r garreg. Roedd yn dal ffôn symudol yn ei law rydd, er mwyn ffilmio’r ergyd ac ymateb Joni.

‘Glywest ti ’na? Bang!’ ‘Ife bang yw popeth i ti?’

‘Bang ar y ca’ rygbi. Bang yn y bocsio.’ Stwffiodd ei ffôn i’w boced, ac fe lapiodd ei freichiau o amgylch Joni, a chusanu ei wddf. ‘Bang yn y gwely…’

‘Ca’ dy ben.’ Pwniodd Joni ef yn chwareus yn ei fol.

Edrychodd Joni ar ei gymar. Roedden nhw’n gwpwl od yr olwg. Iaco dros ei chwe throedfedd, yn gwlwm o gyhyrau wedi eu caethiwo mewn top rygbi Cymru. Arweinydd naturiol, a’i wallt cochlyd yn goron danllyd a ddenai eraill i’w ganlyn. Ac ef, Joni, yn ddim ond llipryn o fachgen gwelw, ei nyth brain o wallt du wedi ei gaethiwo dan het wlanog, yn rhynnu fel sgerbwd yn nwylo Iaco. Beth oedd hwnnw yn ei weld ynddo ef, ni wyddai…

‘Dere mlân.’ Cydiodd Iaco yn ei law fanegog a’i hanner llusgo ar hyd ymyl yr afon. ‘Wy ’di dod o hyd i rywle newy’. Rhywle lle ddeith neb o hyd i ni.’

Doedd dim sãn car na thractor i’w glywed, dim ond diferu ambell i gloch iâ oedd wedi ymffurfio ar frigau noeth y coed, a chrensian sodlau Joni a Iaco ar y trwch eira dan draed. Bu’r eira’n syrthio’n ysbeidiol ers dros bythefnos, ac roedd pawb nad oedd am fentro allan ar droed wedi eu caethiwo yn eu tai. Ond roedd Joni a Iaco yn ifanc ac yn rhydd, ar drothwy eu hanner blwyddyn olaf yn yr ysgol uwchradd. Troediodd y ddau faneg ym maneg ar hyd y cwm, y caeau gwyn di-dor yn ymestyn o’u blaenau, fel tudalen wag yn barod iddynt ei llenwi. Roedd fel petai gweddill y byd wedi ei rewi yn ei unfan,  ac mai hwythau oedd y ddau ddyn olaf ar y ddaear – yn ddelfrydol fel yna y byddai hi, meddyliodd Joni.

Pe bai rhywun wedi dweud wrtho chwe mis yn ôl y byddai mewn cariad â Iaco Davies, fe fyddai wedi edrych arno fel pe bai o’i go. Roedd Iaco yn un o sêr tîm rygbi’r ysgol, yr aelod diweddaraf o gnwd toreithiog o’r dyffryn a oedd yn swãr o wisgo’r crys coch dros  Gymru un dydd. Yr union fath o jock gyda gwddf fel boncyff derwen ac ymennydd fel mesen a oedd wedi gwneud bywyd Joni yn uffern ers iddo ddechrau lliwio ei wallt yn ddu ac arbrofi â cholur ei fam ym mlwyddyn 10. ‘Gay, gay, gay…’ Dyna’r llafargan oesol. dyna bwnc y negeseuon testun anhysbys yr oedd wedi eu derbyn ers blynyddoedd.

Roeddynt yn llygad eu lle, ond nid ystyr y geiriau ond eu hergyd a barodd gymaint o loes i Joni. Gwatwar diddychymyg ydoedd gan griw nad oedd yn meddu ar y ffraethineb i feddwl am unrhyw beth mwy dyfeisgar i’w alw, ond roedd y peledu dyddiol wedi erydu ei hunanbarch a’i gryfder meddyliol yn araf bach. Roedd yn casáu Iaco Davies a’i griw erbyn y diwedd, gymaint ag yr oedd yn ei gasáu ei hun. Mor gyflym y gallai’r byd droi ben i waered! Cuddio yr oedd Joni yn ystafell newid campfa’r ysgol y diwrnod y newidiodd ei fywyd, wedi disgwyl, yn ôl ei arfer, i bawb arall adael cyn tynnu amdano, hyd yn oed os oedd hynny’n golygu cyrraedd ei wers nesaf ddeg munud yn hwyr.

Ond y diwrnod hwnnw, drwy ddamwain neu gynllun, roedd Iaco hefyd yn araf yn newid. Wrth i hwnnw dynnu ei dop rygbi mwdlyd a datgelu ei gorff cyhyrog, gofynnodd, yn y ffordd fwyaf ddidaro bosib:

‘Smo ti’n, t’mbod, yn hoyw go wir, wyt ti?’

’Co ni off, meddyliodd Joni, gan dybio ei fod ar fin ymweld â gwaelod ty bach bloc toiledau’r ysgol unwaith eto. Ond doedd dim dirmyg yn y llais y tro hwn. Nid llafargan torf hyderus o ddynion ifanc ydoedd, ond ymholiad chwilfrydig a swil nad oedd ef erioed wedi ei glywed o’r blaen o enau dyn fel Iaco.

Gwrthsefyll wnaeth Joni i ddechrau. Bu ei feddwl dan gwmwl du cyhyd fel y dallwyd ef gan unrhyw belydr o olau a dasgai drwyddo. Ond yna daeth y negeseuon – dros y we, drwy neges destun, ambell nodyn wedi ei adael yn ei fag ysgol. Dinoethwyd ei galon yn araf bach wedi blynyddoedd o galedu. Parhaodd y bwlio geiriol, wrth gwrs, ac roedd Iaco yn ymuno ynddo pan oedd rhaid, ond roedd Joni yn pwffian chwerthin arnynt y tu ôl i’w law. Gwyddai mai ystryw oedd y cyfan. Tra ei fod ef yn hapus, tra bo ganddo ef ac Iaco eu cyfrinach gariadus, collodd y geiriau eu gallu i’w niweidio.

‘Le ni’n mynd?’ gofynnodd, ei lais yn llawn cyffro a’i galon yn curo fel gordd wrth i Iaco ei dynnu i’w ganlyn. Anfantais caru chwaraewr rygbi oedd cael ei drin fel pêl rygbi o dro i dro.

‘’Co ni,’ meddai Iaco, gan ollwng gafael arno o’r diwedd. ‘Lle i ni ga’l bod yn ni’n hunen.’

Gwgodd Joni ar y blwch du mewn cylch o eira a safai o’u blaenau. Roedd y to wedi cwympo i mewn, a’r ffenestri yn deilchion, ond safai’r waliau’n noeth heblaw am drwch o iorwg oedd wedi treiddio i bob twll a chornel rhwng y cerrig mawr. Yr unig addurn gweledol oedd y geiriau ‘Siloh’ ac ‘1863’ wedi eu cerfio uwchben y fynedfa.

‘Capel?’ gofynnodd Joni.

‘Duw, cariad yw,’ atebodd Iaco.

Gallai Joni weld iddo fod i mewn ac allan sawl gwaith yn barod, oherwydd yr oedd yr eira wedi chwalu o flaen y drysau derw a gadael cnwd o wair melyn yn fat croeso. Tynnodd Iaco’r dorau ar agor ac aethon nhw i mewn, gan gau’r drysau’n ofalus.

Llanwyd ffroenau Joni ag oglau sur pren pydredig. Ar ôl disgleirdeb yr eira y tu allan bu ei lygaid yn araf yn dygymod â’r tywyllwch, ond gallai weld bod yr holl ddodrefn, gan gynnwys y seddi, y pulpud a’r sedd fawr, wedi eu rhwygo oddi yno, gan adael gwagle anghyfarwydd ar eu hôl. Roedd sawl un o’r estyll pren ar lawr wedi cael eu codi, ac roedd pothelli paent ar y waliau lle’r oedd dwr wedi llifo’n ffrydiau o’r nenfwd. Dawnsiai gronynnau llwch yn yr hanner golau a dywynnai drwy wydr brwnt y ffenestri uchel.

‘Glywes i bod Saeson ’di prynu’r lle ’ma i’w droi e’n dy haf,’ meddai Iaco’n uchel, ‘ond smo nhw ’di bod ’nôl ers y crash.’ Roedd ei lais fel taran yn y gwacter, a hoffai Joni fod wedi dweud wrtho am dewi.

Roedd yna rywbeth tramgwyddus am weiddi mewn capel, hyd yn oed un gwag. ‘Bydd e’n lle da i ni gwrdd, smo ti’n meddwl?’

‘Wy’n credu ’mod i wedi bod fan hyn o’r bla’n,’ meddai Joni. ‘O’dd Mam a Dad arfer dod â fi ’ma pan o’n i’n grwt.’

‘Wel, croeso ’nôl, ’de,’ meddai Iaco.

‘Sai’n siwr ’mod i’n lico fe.’

‘Sdim lawer o siâp ar hyn o bryd. Fixer-upper yw e. Wnawn ni weithio arno fe dros y gwylie. Fydd e fel ffycin palas. A fydd neb yn gwbod bo ni ’ma.’ Pwniodd Joni yn ei fraich.

‘Dere lan stâr ’da fi, ma ’na yffach o view dros y caeau.’

Cydiodd Joni yn dynn ym maneg ei gariad wrth iddyn nhw ddringo i’r balconi. Protestiodd y grisiau troellog bob cam o’r ffordd. Roedd llawer mwy o olau yn treiddio i mewn i’r man hwnnw oherwydd bod ffenestri blaen y capel wedi eu dryllio. Roedd y seddi wedi diflannu o’r balconi yn ogystal, ond yn eu lle roedd Iaco wedi creu gwely o hen gynfasau a chlustogau blodeuog a edrychai bron mor hen â’r capel ei hun.

‘Hen rai Mam-gu. Fydd hi ddim yn gweld isie nhw,’ meddai.

Aeth y ddau i mewn, ond heb ddiosg eu dillad eto. Roedd hyd yn oed yn oerach yn y capel nag ydoedd y tu allan, ac fe gwtsiodd y ddau at ei gilydd er mwyn ceisio cynhesu. Teimlai Joni’r llawr braidd yn anghyfforddus, er yr holl haenau a ddarparwyd gan Iaco, ond nid oedd am achwyn ar ôl i hwnnw fynd i’r fath ymdrech.

‘Wy ’di dod â chwpwl o gans.’

Tynnodd Iaco hanner dwsin o duniau cwrw o grombil sach gysgu a throsglwyddo un i afael Joni. Roedd Iaco yn yfed llond cratsh o gwrw bod tro roedden nhw’n cael rhyw. Ni wyddai Joni pam roedd angen i’w sboner feddwi gyntaf, ond os oedd e’n rhoi’r hyder iddo gyflawni’r weithred, nid oedd yn mynd i gwyno.

Ar ôl yfed pump neu chwech, byddai Iaco’n ymosod arno mewn hyrddiad o feddwdod nwydwyllt. Ysai Joni am y teimlad hwnnw o fod yn gyflawn unwaith eto, y ddau yn toddi i mewn i’w gilydd fel clai, yn anwahanadwy dan y cynfasau. Nid oedd Iaco’n garwr tyner, ac roedd y cyfan drosodd mewn munudau. Ond fe fyddai Joni’n cerdded i Begwn y Gogledd am gyfle i fod yn ei ddwylo unwaith eto, heb sôn am yr ychydig filltiroedd o’i gartref ar draws yr eira i’w man cwrdd dirgel.

Tynnodd Joni labed y can cwrw a byrlymodd y swigod i’r golwg gan ffrydio dros yr ymyl a thros ei ddwylo oer cyn diferu ar y llawr llychlyd. Wrth gymryd ei lymaid cyntaf diawliodd mai dim ond siwmper oedd amdano. Doedd y cyfuniad o oerfel y can a’r awyr rewllyd o’u cwmpas ddim yn un pleserus. Crynodd wrth i’r llymaid cyntaf o gwrw lifo i
lawr ei gorn gwddf a throi’n belen iâ bigog yn ei frest. Roedd angen rhywbeth i’w gynhesu. Tynnodd becyn o sigarennau o’i boced gefn a chynnau un ohonyn nhw, cyn dal ei ddwylo dros y tân egwan.

‘Ti ’di meddwl am coleg ’to?’ gofynnodd Iaco. Chwythodd Joni fwg y sigarét o’i geg a’i wylio’n cymysgu ag anwedd cynnes ei anadl uwch ei ben. Doedd Iaco ddim yn smygu – roedd ychydig o asthma arno’n blentyn ac roedd yn amharu ar ei hyfforddiant rygbi, mae’n debyg.

‘Mmm… Caerdydd falle?’ sibrydodd Joni.

‘Beth am Aberystwyth?’

‘Rhy agos.’

‘Ma’n nhw’n gweud bod mwy o dafarndai am bob person yn Aber nag unrhyw le arall yn y wlad,’ meddai Iaco.

‘Dim ond awr bant yw Aber. Ma Mam yn mynd ’na i siopa weithie.’

‘Wel, ma unrhyw le yn well na Llan-dismal, on’d yw e?… Allet ti wastad fynd i Fangor,  ’te…’

Gwelodd Joni beth oedd gêm Iaco.

‘Pam smo ti am i fi ddod ’da ti i Gaerdydd?’ gofynnodd yn gyhuddgar.

Tynhaodd gwefusau Iaco. ‘Sai’n gwbod ble fydda i’n mynd ’to.’

‘’Da Caerdydd gest ti trials, yndife? Smo ti’n mynd i chwarae rygbi ym Mangor. Ffycin Gogs. Ffwtbôl yw eu gêm nhw.’ Amneidiodd tuag ato â’i sigarét.‘Fe fydde Caerdydd yn siwto ni. Fe allen ni fod yn ni’n hunen, heb ffycin hambons yn neud sbort am ’yn penne ni.’

‘Hei, wotsia dy hunan. Hambon odw i, cofia.’

Tynnodd Joni ei sigarét o’i geg a chymryd llymaid arall o’r cwrw.

‘Joni,’ meddai Iaco, gan osod llaw fawr ar ei ysgwydd. ‘Sai’n credu ddyle neb ddod i wbod ambytu ni, hyd yn oed ar ôl i ni adael ’rysgol, t’mod.’

Gwyddai Joni yn y bôn mai dyna a deimlai Iaco, ond o’i glywed o’i enau am y tro cyntaf teimlodd ei wefusau’n crynu. Anadlodd yn drwm.

‘Sai moyn cwato hyn am byth, Iaco,’ meddai gan ysgwyd ei ben.

‘Sdim c’wilydd ’da fi rhagor. Wy’n dy garu di. A smo neb yn mynd i neud sbort am ’yn penne ni yng Nghaerdydd.’ Rhoddodd ei sigarét yn ôl yn ei geg. ‘Ma ’bytu fod pawb yn gay fan’ny ta p’run ’ny.’

Cofleidiodd Iaco ef â’i freichiau mawr cyhyrog. Teimlodd Joni ei hun yn suddo i mewn i’w frest gynnes.

‘Fi moyn bod ’da ti hefyd, Joni,’ sibrydodd. ‘Wy’n caru ti ’fyd. Ond sdim angen sboelio ’ny drwy adel i bawb wbod, o’s e? Chwaraewr rygbi fi moyn bod. Fi o fewn rhech chwannen i ga’l contract ’da’r Blues. Wna i chware dros ffycin Casnewydd os o’s rhaid. Ond os odw i’n dod mas nawr, fydd dim ffycin gobeth ’da fi. Fydd neb moyn rhannu stafell newid ’da fi. Fydda i’n methu mynd mas ar y ca’ heb fod pobol yn chwerthin am ’y mhen i.’

Cododd Joni ei ben. ‘So – ti’n caru rygbi mwy na fi, wyt ti?’

Taniodd llygaid Iaco. ‘Fi’n caru chi’ch dou. ’Na’r point. A sai’n gweld pam na alla i ga’l chi’ch dou. Falle, mewn cwpwl o flynydde, bydd pethe bach yn wahanol ’to. Ond ar hyn o bryd, sai moyn i ddim byd ddod rhyngdda i a whare, a sai moyn i whare ddod rhyngdda i a ti.’

Safodd ar ei draed, ac fe aeth ei lygaid yn bell. Gwyddai Iaco fod waliau’r capel o’i amgylch wedi diflannu, a thorf o 75,000 wedi ymddangos yn eu lle.

‘Dyma le wy moyn bod. Yn tynnu’r crys coch dros fy mhen, camu mas i’r stadiwm a chanu “Hen Wlad fy Nhadau” – ’da’r dagre’n llifo i lawr ’y ngruddie i.’

‘Hy.’ Roedd llais Joni yn fychan yn y gwagle. ‘Sai’n becso am ein tade ni. O’dd ’yn un i ddim iws o gwbwl.’

Nid oedd Iaco fel petai wedi ei glywed. Edrychodd i lawr arno, ei lygaid yn sgleinio yn y tywyllwch. ‘A wy moyn ti yna yn y dorf, yn gweiddi fy enw i.’

‘’Se well ’da fi weiddi dy enw di yn y gwely.’

Chwarddodd Iaco, ond ochneidiodd Joni’n flinedig. ‘Wy jest ddim moyn dy golli di. Wedyn, wy moyn dod lawr i Gaerdydd.’

‘Ie, wel jest paid â disgwyl snog o fla’n pawb, ife?’ meddai Iaco â gwên ar ei wyneb. Aeth i lawr ar un pen-glin a sychu dagrau Joni gyda’i faneg oer. Yna tynnodd ei het wlanog oddi ar ei ben a’i gusanu ef ar ei foch. ‘Sai’n credu gewn ni fynd i’r un brifysgol beth bynnag,’ meddai’n gellweirus. ‘Ma dy fam yn meddwl ’mod i’n ddylanwad drwg.’

‘O ie?’ meddai Joni’n syn. Yna caledodd ei lais ryw fymryn. ‘Be – achos Sioned Spar?’

Nid oedd Joni a Iaco wedi cael gweld ei gilydd ers pythefnos, ac nid yr eira oedd yr unig reswm am hynny. Y prif reswm oedd Sioned Spar, merch oedd yn yr un flwyddyn ysgol â nhw. Bu fideo ohoni yn ymledu o ffôn i ffôn ymysg disgyblion y chweched dosbarth ers iddi gael ei ffilmio’n gudd yn cael rhyw gyda bachgen yn un o’r amryw bartïon Nadolig dros yr wyl. Doedd Joni ddim yn ddigon poblogaidd i gael gwahoddiad i’r parti, ond roedd hyd yn oed ef wedi derbyn y fideo.

Doedd neb wedi gweld Sioned ers hynny, ac roedd si ar led na fyddai’n dychwelyd i’r ysgol o gwbwl ar ôl y gwyliau, ond yn symud i ysgol yng Nghaerfyrddin neu Lambed yn lle hynny.

Roedd mam Joni digwydd bod yn dipyn o ffrindiau gyda theuluSioned, ac roedden nhw’n argyhoeddedig bod criw’r tîm rygbi, ffrindiau Iaco, wedi meddwi Sioned a chymryd mantais ohoni, gan ffilmio’r cwbwl heb ei chaniatâd. Bu’r heddlu o amgylch y pentref yn galw i weld ambell un, ond roedd y cyfan fel petai wedi ei sgubo dan luwch eira nes y deuai’r dadmer.

Dim ond drwy argyhoeddi eu rhieni mai er mwyn astudio ar gyfer arholiadau Safon Uwch yr oedden nhw’n cwrdd y llwyddodd Joni a Iaco i gael mynd o’u tai o gwbwl. Fe fyddai Joni’n addo ei fod yn mynd draw i dy Iaco i astudio, a Iaco’n dweud ei fod yn mynd draw i dñ Joni. Roedd rhieni Iaco a mam Joni wedi llyncu’r stori rywfodd.

‘Cer i daflu dy sigarét tu fas,’ meddai Iaco o’r diwedd. ‘Ma gormod o bren sych mewn fan hyn. Ac wedyn dere ’nôl i’r gwely.’

Cododd Joni o’i afael a mynd i sefyllian wrth y ffenestr. Roedd wedi tywyllu’n gyflym, ac fe’i synnwyd wrth weld ei bod hi bellach yn bwrw eira o ddifrif, a hwnnw’n glynu’n dalpiau mawr wrth bob carreg a choeden nad oeddynt eisoes yn glaerwyn. Chwythai ambell bluen i mewn drwy’r tyllau yng ngwydr y ffenestr a chartrefu ynghanol nyth du ei wallt blêr.

Edrychodd Joni i lawr a gweld bod y geiriau ‘Joni 4 Iaco’ wedi eu hysgrifennu mewn llythrennau breision yn yr eira islaw. Gwenodd.

‘Diolch am y neges,’ meddai Joni. ‘Ond fe fydd wedi mynd wap.’

‘Sdim ots. Byw i’r eiliad ife? Yn enwedig ’da’r nytyr ’na’n y Ty Gwyn.’

‘Am wn i.’ Gorffennodd Joni ei sigarét a’i gan cwrw a’u hyrddio allan. Llyncwyd y ddau yn gyfan gan y carped gwyn, heb adael twll ar eu hôl. ‘Ma ’mrawd i wedi cael ei gladdu fan hyn, ti’n gwbod,’ meddai wedyn.

Trodd Iaco yn y gwely. ‘O’n i’m yn gwbod bod brawd ’da ti.’

Cododd Joni ei war. ‘Bach o’dd e, cyn i fi ga’l fy ngeni… Fues i a Mam yn dodi blode ar ’i fedd e am flynyddodd… Siwr bod e dan yr eira ’ma’n rhywle.’

‘Beth ddigwyddodd iddo fe, ’te?’

‘Sai’n siwr. O’dd e wastad yn sore point rhwng Mam a Dad, ti’mod? Pan o’n nhw ’da’i gilydd. Sai erio’d ’di holi.’

Nid atebodd Iaco.

‘Weles i rwbeth weird neithiwr, ’fyd,’ meddai Joni wedyn. ‘Wna’th i fi feddwl am ’y mrawd. O’n i a Mam yn dreifo lan heibio Horeb, i fynd i bractis côr, ac o’dd yr hers ’ma o’n blaene ni, yn gyrru mlân drwy’r eira. Roedd arch a blode a bob dim arni. Ma rhaid mai crwt ifanc o’dd e, achos o’dd pêl rygbi yn y cefn, a bob math o sgarffie a stwff fel’na. Ond glywes i am neb yn marw ffor’ hyn yn y dyddie dwetha.’

‘Mwy o bobol yn marw yn y gaea, ma’n siwr, yn do’s e?’ meddai Iaco.

‘Wna’th Mam frêco er mwyn gadael i’r hers ga’l y bla’n arnon ni ’mbach. Ond o’n i’n dal yn gallu gweld ei oleuadau cefn e.’ Gallai eu gweld yn awr, fel llygaid cath yn sgleinio yn y caddug o’i flaen. ‘Eiliad wedyn fe aethon ni rownd y gornel, ag o’dd e wedi mynd. Wedi… diflannu. Pwff! Oddi ar wyneb y ddaear.’

Bu Iaco yn ddistaw am ennyd. ‘Toili,’ sibrydodd o’r diwedd.

‘E?’

‘Angladd ysbrydion.’

Edrychodd Joni arno’n gellweirus.

‘Wy o ddifri,’ meddai Iaco. ‘Wy’n cofio Mam-gu, ochr Mam, yn gweud unweth ei bod hi wedi gweld angladd ysbrydion yn mynd heibio’r ty pan o’dd hi’n groten fach. Er ei bod hi’n nabod pawb a’th hibo, o’dd hi’n gwbod mai ysbrydion o’n nhw. Achos o’dd hi ei  hunan yn cerdded yn ’u canol nhw.’

‘Sut allen nhw fod yn ysbrydion, os o’dd hi ei hunan yn ’u canol nhw?’

‘Gweledigaeth o’r dyfodol o’dd e.’

Chwarddodd Joni.

‘Ie, wel, dy fam-gu o’dd yn gweud ’ny. On’d o’dd hi bach yn dw-lali?’

‘Fe welodd hi’n reit. Wythnos wedyn bu fy hen dad-cu farw mewn damwain yn y felin wlân, a sylweddolodd Mam-gu mai ei angladd e o’dd hi wedi ei weld y diwrnod hwnnw. Rhybudd o’dd e, t’wel – o’dd marwolaeth yn cerdded y tir…’

Teimlodd Joni ias yn mynd i lawr ei gefn nad oedd yn ddim oll i’w wneud â’r oerfel o’i gwmpas.

‘Paid â malu cachu, Iaco.’

‘Smo i yn. Ma’r pethe ’ma’n digwydd, t’mbod. Cannwyll gorff, ysbrydion cwn hela, gwrachod y rhibyn. O’dd Mam-gu yn gweud bod hanes Dyffryn Teifi yn llawn o hen chwedlau a bod ’na wirionedd ym mhob un. Yn enwedig ar nosweithiau fel hyn…’

Gallai Joni weld bod Iaco bellach yn ceisio codi ofn arno.

‘Os ti’n disgwyl i fi aros ’da ti mewn hen gapel drwy’r nos, sai moyn ti’n stwffo ’mhen i ’da ffycin ghost stories o nawr tan y bore.’

‘Wy’n gwbod am rwbeth arall allwn ni neud tan y bore.’

Cododd Iaco ac agosáu ato. Cipiodd yr ail sigarét o’i geg a’i thaflu allan i’r tywyllwch. Cododd Joni dros ei ysgwydd a’i gario i’r gwely. Chwarddodd Joni. Dymunai gau ei lygaid ac ymostwng yn llwyr i ewyllys Iaco. Teimlo ei gusan ar ei frest. Ymgolli ym mhleser eu caru. Ond roedd un peth yn chwarae ar ei feddwl. Un gethren o iâ, yn dalp oer a gnoai ei galon.

Wrth i Iaco ei osod ar y gwely, gofynnodd, a’i lais yn ddwfnddifrifol, ‘Dim ti o’dd ’da Sioned Spar yn y fideo ’na, nage fe?’

Gollyngodd Iaco ei afael ynddo. Gallai Joni ei weld yn esgyn drosto fel cawr, ei frest noethlymun yn codi ac ymgolli wrth iddo anadlu’n drwm. Crogai ei anadliadau yn ysbrydion gwyn yn yr oerfel.

‘Pam ti’n credu ’ny?’

‘Wy’n nabod pob tamed ohonot ti, Iaco.’

Roedd saib. Ond yna chwarddodd Iaco, gan geisio torri’r awyrgylch anesmwyth. ‘’Sen i moyn merch fel Sioned, allen i ga’l hi. Ond ti ’yf i moyn.’ Plygodd i agor ei drowser.

‘Ife ti o’dd e?’ gwaeddodd Joni, y cyhuddiad yn atseinio oddi ar bob wal.

‘Joni.’

‘Ife ti o’dd e?’

Roedd llais Iaco yn dawel ond yn ffyrnig. ‘O’dd rhaid i fi brofi fy hunan i’r bois, on’d o’dd e?’ meddai. ‘Ti’n gwbod shwt ma pethe. O’n i ffaelu gwrthod… Fydden nhw’n meddwl ’mod i’n… ’mod i’n…’

‘Gay? O’s ’da ti gymaint o gywilydd â ’ny?’

Cydiodd Iaco ynddo’n ffyrnig a cheisio ei droi ar ei wyneb.

‘Na! Ffyc off!’ Anelodd Joni gic ato a’i fwrw ar ei ysgwydd. Cropiodd wysg ei gefn allan o ganol y blancedi a’r cynfasau.

‘Joni,’ plediodd Iaco. ‘O’n i ddim moyn. Wy’n casáu’r ffycin syniad, ond o’n i ddim yn gallu neud dim byd ambytu fe… Ges i ’ngorfodi.’

Estynnodd Joni fys cyhuddgar tuag ato. ‘Paid ti â twtsh yn’a i…’

Camodd am yn ôl, tuag at y grisiau.

‘Dere mlân,’ meddai Iaco, gan estyn i lawr a chodi can arall o gwrw.

‘Arhosa… Cymera un bach ’to…’

‘Sai moyn e,’ meddai Joni. Credai am eiliad fod y cwrw’n llygredig, fel petai Iaco yn cynnig gwenwyn iddo.

‘Ti’n gwbod shwt ma hi ’da fi, Joni,’ meddai Iaco. ‘Rhaid i fi fod yn un o’r bois. Ond sai’n gallu trysto neb arall ’blaw amdanat ti… So ti’n mynd i weud wrth neb, wyt ti?’

‘Sai’n gwbod.’

‘Be ti’n feddwl “so ti’n gwbod”?… Joni, le ti’n mynd?’

‘O ’ma. Ma tryst yn gweithio’r ddwy ffordd, on’d yw e?’

‘O, ffycin hel. O’n i ddim moyn neud e, Joni! Pam na alli di o bawb ddeall ’ny?’ Taflodd y can cwrw ar lawr gyda chlec.

Doedd Joni ddim yn becso. Rhedodd i lawr y grisiau ac at y fynedfa. Ei fwriad oedd diflannu i’r gwyll, ond roedd yna waith gwthio’r drysau mawr derw ar agor yn erbyn y lluwch ffres o eira a oedd wedi ymgasglu yn eu herbyn. Llwyddodd i lithro rhyngddynt a’i heglu hi drwy’r fynwent ac ar draws y cae. Fe gyrhaeddodd hanner ffordd cyn cael ei daro i’r llawr. Trodd ar ei gefn a gweld Iaco yn sefyll drosto.

‘Paid â ffycin gweud wrth neb.’ Roedd llygaid Iaco fel hoelion yn gwthio i mewn iddo.

‘Fi’n mynd i weud wrth bawb.’ Teimlodd Joni’r eira’n pigo ei wyneb.

Meddyliodd am eiliad fod Iaco yn mynd i’w dagu, ond yn lle hynny cydiodd yn llabedi ei got.

‘Neb? Ti’n deall? Fe wna i wadu popeth, ond wedyn fe wna i dy… ladd… di.’

‘Fi’n mynd i!’ Ciciodd Joni allan gyda’i droed a gollyngodd Iaco ei afael ynddo. ‘Fi’n mynd i’n rhyddhau ni’n dou o’r uffern ’ma. Fel bo ni’n gallu bod yn hapus.’

Cododd Joni a’i baglu hi ar draws y caeau. Fe fyddai’n rhedeg adref, eira neu beidio. Roedd golwg orffwyll yn llygaid Iaco. Doedd Joni ddim am fod yn bêl rygbi iddo heno.

Roedd yn anadlu’n drwm erbyn iddo gyrraedd yr hewl. Cyn troi’r gornel edrychodd yn ôl dros ei ysgwydd i gyfeiriad y capel. Hyd yn oed trwy’r eira gallai weld Iaco yn eistedd yno ar un o’r beddi, ei gefn tuag ato, fel pe na bai’n ymwybodol o’r lluwchwynt o’i amgylch. Trodd Joni a chamu ymlaen dros y tarmac llithrig. Drwy’r eira pur, dilwgr, dibechod. Gadawodd iddo lapio o’i gwmpas a’i lanhau. Y gwir. Dyna’i achubiaeth.

Dyna’r tro olaf y byddai’n gweld ei gyfaill yn fyw. Gwyddai wedyn hers pwy yr oedd wedi ei gweld ar y noson oer, rewllyd honno yng nghyfnos y flwyddyn newydd.


Mae Dadeni gan Ifan Morgan Jones ar gael nawr am £9.99 gan Y Lolfa.

Dadeni - Ifan Morgan Jones

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s