‘ANGEN MWY O LYFRAU CYMRAEG I BLANT A PHOBL IFANC’

Y Silff Lyfrau sy’n cyfweld ag Awen Schiavone, awdur newydd Cipio’r Llyw, gan drafod ei theimladau hi a’r nofelau arddegau yn Gymraeg ac ambell i for-leidr!


Mae ‘angen mwy o lyfrau Cymraeg i bobl ifanc’ – dyma yw sylwadau yr awdur newydd, Awen Schiavone, sydd yn cyhoeddi ei nofel gyntaf yr wythnos hon.

Nofel antur wreiddiol Gymraeg ar gyfer yr arddegau yw Cipio’r Llyw gan Awen Schiavone. Mae’n cyflwyno stori am fôr-leidr o Gymru yn nechrau’r ddeunawfed ganrif – sef oes aur y môr-ladron Cymreig.

‘Fel mae sawl un wedi nodi eisoes, mae angen mwy o lyfrau Cymraeg i blant a phobl ifainc, ac mae dirfawr angen cynyddu’r nifer o lyfrau gwreiddiol yn y Gymraeg i’r gynulleidfa honno. Mae cannoedd o lyfrau gwreiddiol i bobl ifainc yn cael eu cyhoeddi mewn ieithoedd eraill yn flynyddol. Mewn cymhariaeth, mae’r nifer yn Gymraeg yn ddychrynllyd o isel.’

‘HANES’

‘Mae’n bwysig hefyd cyhoeddi llyfrau gwreiddiol i blant a phobl ifainc sy’n trin a thrafod hanes Cymru a chymeriadau hanesyddol. Mae llawer o gwyno nad ydy plant a phobl ifainc Cymru yn gwybod digon am eu hanes a’u treftadaeth eu hunain’ meddai Awen.

‘Y gwir amdani yw bod ein hanes yn byrlymu ag unigolion, grwpiau o bobl, a digwyddiadau dirifedi sy’n wirioneddol ddiddorol a chyffrous. Does dim rheswm i’r rhain aros yn guddiedig mewn llyfrau llychlyd. Does dim rheswm dros beidio rhoi bywyd newydd i’r hanesion hyn.’

Yn y nofel dilynwn Hywel Dafydd ar ei daith anturus i lefydd peryglus ac i ynysoedd trofannol ar draws y byd, a chawn gwrdd â rhai o ddihirod pennaf y moroedd. Mae’r nofel yn darlunio creulondeb a chyffro bywyd ar y môr, yn ysbeilio llongau a chipio trysorau lu wrth chwarae gêm y môr-ladron.

Cyrhaeddodd y nofel rhestr fer cystadleuaeth T. Llew Jones ac mae ei ddylanwad ef yn gryf ar y nofel hon. Cafodd y nofel ei hysbrydoli gan draethawd ymchwil Awen ar waith T. Llew Jones.

‘Y gwir amdani yw bod ein hanes yn byrlymu ag unigolion, grwpiau o bobl, a digwyddiadau dirifedi sy’n wirioneddol ddiddorol a chyffrous. Does dim rheswm i’r rhain aros yn guddiedig mewn llyfrau llychlyd. Does dim rheswm dros beidio rhoi bywyd newydd i’r hanesion hyn.’

‘Mae môr-ladron i’w gweld yn fynych yn niwylliant poblogaidd ar draws y byd. Ond, nid yw llawer o bobl yn sylweddoli mai Cymry oedd rhai o’r môr-ladron mwyaf llwyddiannus ac enwocaf erioed.’ meddai Awen.

‘Mae enwau fel Edward ‘Blackbeard’ Teach, Captain Kidd, a Calico Jack yn wybyddus i lawer, ond o Gymru, cafwyd degau o fôr-ladron llwyddiannus ac enwog yn eu dydd. Yn eu mysg nhw mae Harri Morgan a Barti Ddu wrth gwrs, ac yn Cipio’r Llyw cawn glywed am anturiaethau cyfrwys Hywel Dafydd.’

‘GWRTHRYFELA’

‘Yr hyn mae môr-ladron yn ei wneud ydy gwrthryfela, plygu a thorri rheolau. Wrth gwrs, yn draddodiadol, mae pobl ifainc yn cael eu gweld fel grŵp gwrthryfelgar hefyd ac efallai bydd rhai darllenwyr ifainc yn uniaethu â’r cymeriadau ymylol ag yw môr-ladron,’ ychwanegodd Awen.

‘Dwi’n credu bod angen magu hyder mewn meddwl annibynnol yn ein pobl ifainc. Rydyn ni’n byw mewn cyfnod cythryblus yn wleidyddol, a dwi’n teimlo bod angen i’n pobl ifainc ddatblygu’r hyder i gwestiynu’r ffyrdd ry’n ni’n cael ein hannog i fyw, ac i fod yn barod i wrthryfela hefyd.’

‘Ro’n i’n hoffi’r syniad o ysgrifennu am gymeriadau sydd yn cael eu gweld fel dihirod. Mae môr-ladron yn gymeriadau sy’n naturiol ar ffiniau cymdeithas. Dydyn nhw ddim yn ffitio mewn i unrhyw norm cymdeithasol, mewn ffordd. Maen nhw’n ymddwyn yn wahanol i’r modd mae cymdeithas am iddynt ymddwyn, ac mae hynny’n ddiddorol.’ meddai Awen.

‘Yn anffodus, byd gwrywaidd iawn oedd byd y môr-ladron, felly prin iawn yw ymddangosiad y ferch yn y nofel. Ond, roedd ambell fôr-leidr enwog iawn a oedd yn ferched – falle bod sgôp am nofel yn seiliedig ar un o’r rheiny!’

‘Dwi’n credu bod angen magu hyder mewn meddwl annibynnol yn ein pobl ifainc. Rydyn ni’n byw mewn cyfnod cythryblus yn wleidyddol, a dwi’n teimlo bod angen i’n pobl ifainc ddatblygu’r hyder i gwestiynu’r ffyrdd ry’n ni’n cael ein hannog i fyw, ac i fod yn barod i wrthryfela hefyd.’

‘Dw i wedi bod yn ffodus iawn i gael cyfleoedd i deithio’n helaeth fy hun, felly mae llawer o’m profiadau wedi bwydo’r nofel hon. Ond ar ben hynny oll, wrth gwrs, roedd llond trol o waith ymchwil, a oedd, ar adegau, yn teimlo’n ddi-ddiwedd! Ro’n i’n awyddus iawn i’r gyfrol fod yn hanesyddol gywir, a dydy rhywun ddim yn sylweddoli faint o waith ymchwil sydd ei angen ar gyfer ffuglen hanesyddol nes iddyn nhw roi tro arni eu hunain! Oedd clociau’n gyffredin yn nechrau’r ddeunawfed ganrif? Faint o amser fyddai’n cymryd i long hwylio Môr yr Iwerydd? Be’ fyddai Llywodraethwr ar ynys bellennig yn ei wisgo? – Dyna’r math o gwestiyanu oedd yn codi drwy’r amser. Ac wedyn wrth ail-ddrafftio, ro’n i’n cwestiynu’n hun, ac yn teimlo rheidrwydd i ail-wirio pob manylyn bychan. Gobeithio’n wir fod y gyfrol yn realistig, felly!’

‘Do’n i ddim eisiau sgwennu rhywbeth fyddai’n dyddio’n gyflym ‘chwaith, ac mae deunydd hanesyddol yn benthyg ei hun yn hawdd yn hynny o beth.’

Magwyd Awen ym Mhandy Tudur. Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd, bu’n gweithio fel athrawes Gymraeg a Daearyddiaeth, ac yna’n darlithio yng Ngwlad Pwyl. Enillodd MPhil mewn Llenyddiaeth Plant a gweithiodd ym maes dwyieithrwydd ac addysg oedolion. Treuliodd gyfnodau yn teithio – i India, De America a de-ddwyrain Asia yn bennaf, ac mae ganddi brofiadau anturus o hwylio rhwng Pen Llŷn a Phortiwgal.


Mae Cipio’r Llyw gan Awen Schiavone ar gael nawr (£6.99, Y Lolfa).

Cipio'r Llyw - Awen Schiavone

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Newid )

Connecting to %s