Yr awdur Llŷr Gwyn Lewis sydd yn cael ei holi gan Y Silff Lyfrau yr wythnos hon!
Llun gan Nici Beech
Enw: Llŷr Gwyn Lewis
O ble ydych chi’n dod? O Gaernarfon yn wreiddiol, ond mi fydd rhaid imi stopio dweud hynny mewn chydig gan fy mod yn byw yng Nghaerdydd bellach ers deng mlynedd.
Yn gryno, disgrifiwch eich llyfr diweddaraf: Fabula. Casgliad o ddarnau (gweddol) fyr o ryddiaith – maen nhw’n gymysgedd o straeon, llên teithio, a thameidiau o wahanol gofnodion. Ymhob un mae’r cymeriadau mewn gwahanol ffyrdd yn cael eu galw neu eu hatynnu tuag at rywbeth, er nad ydi hynny’n beth da iddyn nhw o reidrwydd. Felly gobeithio bod y darnau yn eu amrywiol leoliadau a lleisiau yn atgoffa pobl o’r cof a dyfeisiau eraill sy’n eu tynnu nhwythau ar hyd gwahanol lwybrau.
Pwy yw eich hoff awdur? Mae’n newid bob dydd. Ar hyn o bryd dw i’n cael blas mawr ar lyfrau Robert Macfarlane, gan eu bod nhw’n gadael i mi fynd i’r mynydd pan na fedra i fynd.
Pa lyfr a wnaeth y fwyaf o argraff arnoch? Yn fy arddegau, Brideshead Revisited gan Evelyn Waugh. Yn fwy diweddar, mae gweithiau W. G. Sebald a Jorge Luis Borges wedi newid y ffordd rydw i’n meddwl am lenyddiaeth a llenydda.
‘Paid â siarad am sgwennu pan fedri di fod yn sgwennu.’
Beth oedd eich hoff lyfr(au) yn blentyn? Doedd ’na ddim curo ar straeon Wali Wmff.
Pwy yw eich hoff gymeriad a’ch cas gymeriad mewn llenyddiaeth? Y rhai sydd orau gen i ydi’r rhai sy’n cwmpasu’r ddau beth ar yr un pryd. Anodd meddwl yn syth ond mae Gwern Esgus yn esiampl dda o hyn – mi allwch fod wrth eich bodd ag o a meddwl ei fod yn hen sinach ar yr un gwynt.
Yn olaf, beth yw eich cyngor chi i rywun sydd eisiau ysgrifennu? Paid â siarad am sgwennu pan fedri di fod yn sgwennu. Y sgwennu ei hun ddylai siarad am y sgwennu. Ac os wyt ti’n styc – darllena, a gwna hynny heb deimlo’n euog am y dyliat ti fod yn sgwennu.
Mae Fabula gan Llŷr Gwyn Lewis ar gael nawr (£8.99, Y Lolfa)