‘Y CASGLWR’ – LLYFRAU GERALD MORGAN

untitled3.png

Gerald Morgan sydd yn rhoi blas i ni ar hanes ei garwriaeth ef â llyfrau yn sgil cyhoeddi ei hunangofiant CYMRO A’I LYFRAU.


ON’D YW E’N beth rhyfedd bod rhywun fel fi’n gasglwr hen lyfrau Cymraeg? Pam, a minnau wedi fy ngeni a’m magu ar aelwyd Saesneg yn Brighton, o bob man, fy mod ymfalchïo fy mod yn berchennog copi o Y Beibl Cymraeg (1620), neu Y Beibl Bach (1630), neu Diddanwch Teuluaidd (1763)?

Mae’n wir mai Cymro Cymraeg o Bontardawe oedd fy nhad, ond un a aned yng Nghasnewydd oedd Mam, o dras hanner-Cymreig. Ond Brighton? Cynnyrch ysgol fonedd yn ninas Bath? Yr unig addysg ges i yng Nghymru oedd ychydig wythnosau mewn ysgol elfennol yn Rhymni yn 1940.

Ond wele fi yn Aberystwyth, wedi casglu ychydig gannoedd o hen lyfrau Cymraeg y byddai lliaws o Gymry’n eu hystyried yn anniddorol tost. Serch hynny, rwy’n gobeithio y bydd y stori hon – a hithau’n cael ei hadrodd ar ryw lun o hunangofiant – o ddiddordeb.

Bu llyfrau’n bwysig i mi ers fy mhlentyndod, ond cyn 1958 roedden nhw’n llyfrau Saesneg bob un, heblaw i mi, yn naw oed, wario pres poced wythnos (chwecheiniog) ar Welsh in a Week, a sylweddoli na allwch chi gredu popeth mae pobl yn ei ddweud, hyd yn oed mewn print. Roeddwn ar wyliau yn Llangrannog, oedd yn bentref Cymraeg yr adeg honno, heblaw am bresenoldeb fy modrybedd di-Gymraeg o Gaerdydd a wirfoddolodd i edrych ar fy ôl am dair wythnos – camgymeriad na wnaethon nhw byth wedyn.

Ond hyd yn oed bryd hynny roedd egin y casglwr yn ymddangos ynof, oherwydd roeddwn yn gwirioni ar adar ac wedi dechrau hel nifer sylweddol o lyfrau amdanynt,
gan gynnwys pum cyfrol The Handbook of British Birds. Yn y diwedd fe werthais y cyfan, ar wahân i’r cyfrolau hynny, i siop lyfrau ail-law, ac fel y mae yn natur llawer o gasglwyr, bûm yn edifar byth wedyn.

Rhan sylfaenol o natur casglwr yw ei fod yn awyddus i feddu ar lyfr arbennig, nid o reidrwydd er mwyn ei ddarllen, ond er mwyn ei deimlo yn ei ddwylo, ei weld ar ei silffoedd a gwybod ei fod yno i’w ddarllen.

01 Casgliad CYntaf

Yn bedair ar ddeg oed cefais rhyw fath o dröedigaeth wrth sylweddoli bod prynu llyfrau’n beth brafiach i’w wneud na smocio sigaréts. Roeddwn wedi dechrau dwyn sigaréts fy nhad, gan fy mod yn awyddus i wneud yr un peth â bechgyn eraill. Ar y llaw arall roeddwn am ddefnyddio fy arian poced (a oedd bellach yn ddeuswllt yr wythnos) i brynu llyfrau.

Gwyddwn mai buan y byddai fy nhad yn dod i ddeall beth oedd yn digwydd, felly rhaid oedd dewis. Gwario’r pres poced ar lyfrau neu ar bacedi o ffags, a chael dim ond stympiau a thomen o lwch yn y diwedd. Felly dyna stopio ysmygu cyn dechrau, bron, a dechrau mwynhau siopau llyfrau ail-law, ac ar yr adeg honno roedd nifer o rai ardderchog yn Brighton.

Rydych o bosib yn adnabod llengarwyr sydd wedi casglu cannoedd, efallai miloedd, o lyfrau. Ond eu darllen sy’n bwysig i’r mwyafrif o brynwyr, nid eu crynhoi’n ddiddiwedd. Wrth imi astudio llenyddiaeth Saesneg yng Nghaergrawnt, y peth pwysig oedd cael hyd i destunau er mwyn eu darllen, nid er mwyn creu casgliad. Mae’n wir fy mod amser hynny’n ddigon balch o’r llyfrau Saesneg oedd gennyf i deipio rhestr ohonyn nhw, ond rhestr oedd honno, nid catalog go iawn.

Erbyn hyn, rwyf wedi llunio catalogau o’r llyfrau Cymraeg rwy’n eu casglu, er, rhaid cyfaddef, maen nhw’n bell o fod yn dderbyniol i lyfrgellydd, oherwydd mae un o nodweddion casglwr go iawn ar goll ynddof: nid person trefnus mohonof yn y bôn. Mae tystiolaeth o hynny yng nghyflwr y stydi lle rwy’n ysgrifennu hwn.

Mae patrwm y gwir gasglwr wedi ei fynegi yng ngeiriau Shakespeare am bwnc tra gwahanol (Soned 129): ‘mad in pursuit, and in possession so, / Had, having and in quest to have, extreme.’ A barnu wrth y safon yna, felly, nid wyf ond cysgod o gasglwr. Ond rhan o’m gwirioni personol yw’r diléit sydd i’w gael wrth ddangos y cyfrolau sydd gennyf i eneidiau hoff, cytûn.

19 Llun_081Hyd yn oed yn fachgen bach yn Kemp Town, Brighton, fe wyddwn fy mod yn Gymro. Byddai Nhad yn siarad Cymraeg gyda’i frodyr a’i chwiorydd. Bydden yn mynd ar wyliau teuluol i Abertawe, Caerdydd a Gwaun-Cae- Gurwen. Felly yn 1940, pan oedd plant bach mewn Dame Schools yn canu ‘There’ll always be an England’ yn wyneb Adolf Hitler, megis, fe wyddwn nad honno oedd fy nghân i.

Yn blentyn deg oed, cefais ddwy gyfrol hynod gan Jack a Bili, dau o frodyr fy nhad oedd yn byw yng Nghymru: A Short History of Wales gan Owen M. Edwards a Flamebearers of Welsh History gan Owen Rhoscomyl. Dyma faeth i’r egin o Gymreictod oedd yn fy nghalon. Roedd hi’n 1945 ac roedd propaganda’r Rhyfel yn pwysleisio i bawb ohonon ni blant sut yr oedd y Wlad Fach Arwrol (Prydain) wedi gorfod sefyll yn erbyn y Bwystfil Natsïaidd (yr Almaen). Popeth yn iawn, ond dyma lyfrau, yn enwedig Flamebearers, oedd yn dangos sut yr oedd Gwlad Fechan Dlawd wedi sefyll yn erbyn Horwth o Wlad Rymus am ddau gan mlynedd a mwy. Roedd geiriau’r Hen Wr o Bencader yn atseinio yn fy mhen.

Ymdrechais droeon i ddysgu Cymraeg a methu deirgwaith am wahanol resymau. Daeth y pedwerydd cyfle yng Nghaergrawnt yn 1958 pan dderbyniais yr her i sefyll papur Llenyddiaeth Gymraeg Canol fel rhan o’r arholiadau terfynol Saesneg (roedd yn rhaid sefyll un papur iaith estron). Diolch yn dragwyddol i’r ysgolhaig Rachel Bromwich cefais fy nerbyn i wneud y cwrs, y bu’n rhaid ei wneud mewn blwyddyn yn lle dwy flynedd. Rwy’n ddyledus iddi nid yn unig am fod yn athrawes wych, ond am iddi ddod yn gyfaill oes. Petai wedi fy ngwrthod, buaswn wedi byw bywyd hollol wahanol i’r hyn a wnes.

‘Heddiw mae gwaith y Cyngor Llyfrau Cymraeg a chyhoeddwyr goleuedig yn rhoi pob math o lyfrau o’n blaen, ac mai bai difrifol arnom fel Cymry Cymraeg os nad ydym yn manteisio ar hynny.’

Rhois her ychwanegol i fy hun trwy fynd i siop lyfrau Heffers a gwario pymtheg swllt ar gopi ail-law o lyfr nad oedd modd deall gair ohono, sef Canu Aneirin, wedi ei olygu gan Syr Ifor Williams. Roedd y canlyniadau’n ddigon da i mi gael tri llyfr tra phwysig yn wobr trwy haelioni Coleg Selwyn, sef A Concise Comparative Celtic Grammar gan Henry Lewis a Holger Pedersen, A History of Wales gan J. E. Lloyd ac A Historical Atlas of Wales gan William Rees. Maen nhw gen i o hyd, ac rwy’n dal i ddefnyddio’r ddau olaf yn aml, er ei bod yn hen bryd cael atlas hanes Cymru o’r newydd.

Fe wnaeth y pethau hynny – Cymreictod, os mynnwch – gadarnhau’r reddf i gasglu ynof. Oherwydd fe ddechreuais sylweddoli fy mod yn ceisio, mewn ffordd fach bitw, achub tystiolaeth i fodolaeth gorffennol Cymru.

Rwy’n cofio cael sgwrs gyda dyn o Lydaw yn y 60au. O 1945 ymlaen, meddai, roedd y Llydaweg dan bwysau difrifol gan holl beirianwaith gwladwriaeth Ffrainc, i’r graddau bod pob llyfr a chylchgrawn mewn Llydaweg yn werthfawr, a rhaid cadw pob un dim a argraffwyd mewn Llydaweg. Diolch byth na fu pethau yng Nghymru mor atgas â hynny.

Yn wyneb tlodi, yn wyneb pob math arall o anhawster, roedd nifer o bobl Cymru’n barod dros y blynyddoedd i brynu llyfrau hyd at aberth. Heddiw mae gwaith y Cyngor Llyfrau Cymraeg a chyhoeddwyr goleuedig yn rhoi pob math o lyfrau o’n blaen, ac mai bai difrifol arnom fel Cymry Cymraeg os nad ydym yn manteisio ar hynny.


Mae Cymro a’i Lyfrau gan Gerald Morgan (£9.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

Gerald Morgan - Cymro a'i Lyfrau

Gadael sylw