BETH OEDD MEDDYGINIAETHAU GWERIN CYMRU?

meddgblog copy.jpg

Cyfrol gynhwysfawr am feddyginiaethau gwerin yw Meddyginiaethau Gwerin Cymru gan Anne Elizabeth Williams sy’n adlewyrchu llawer o ymchwil manwl ac yn ymwneud â phob rhan o Gymru.

Mae’r gyfrol wedi’i seilio’n bennaf ar y dystiolaeth lafar a gasglwyd gan Anne rhwng 1976 ac 1989 pan oedd ar staff Amgueddfa Werin Cymru. Bu’n cofnodi atgofion to hynaf y boblogaeth ledled Cymru am y meddyginiaethau gwerin yr oeddynt yn gyfarwydd â hwy yng nghyfnod eu plentyndod, ac mae’r atgofion hyn yn rhoi darlun unigryw o un agwedd ar fywyd y werin yn negawdau cynnar yr 20fed ganrif.


Cyn meddyginiaeth fodern a’r GIG bu yng Nghymru draddodiad maith a chyfoethog o ymarfer meddyginiaethau gwerin.

Er bod rhai o’r meddyginiaethau hyn yn dal i gael eu hymarfer heddiw, ac eraill yn hysbys i sawl cenhedlaeth, nid oeddynt at ei gilydd, erbyn diwedd yr ugeinfed ganrif, namyn atgofion to hynaf y boblogaeth. Ac nid oedd ganddynt hwythau yn aml unrhyw brofiad o baratoi’r meddyginiaethau eu hunain, dim ond cof plentyn amdanynt yn cael eu defnyddio yn y cartref. Yn amlach na pheidio, felly, nid hwy oedd ymarferwyr olaf y meddyginiaethau hyn ond yn hytrach y rhai olaf a oedd â gwybodaeth gymharol gyflawn amdanynt.

Trosglwyddo ar lafar

Cafodd y meddyginiaethau hyn eu trosglwyddo ar lafar o genhedlaeth i genhedlaeth ar hyd y canrifoedd. Byddai’r fam ar yr aelwyd a’r tad ar y fferm neu’r tyddyn yn ymarfer y meddyginiaethau yr oeddynt wedi clywed amdanynt neu wedi gweld eu rhieni hwythau yn eu hymarfer, a’r wybodaeth hon yn ei thro yn cael ei throsglwyddo i’w plant.

Gwelwyd yn aml wrth gasglu’r meddyginiaethau fel yr oedd y defnydd a wneid ohonynt yn amrywio o ardal i ardal, gan adlewyrchu cynhysgaeth lafar cymdeithas glòs a sefydlog.

12 MAGI JONES

Ond nid yw hyn yn golygu mai traddodiad hollol ddigyfnewid ydoedd. Ar raddfa fwy lleol, byddai’r meddyginiaethau a oedd yn rhan o gof teulu yn cael eu cyfoethogi drwy briodas, er enghraifft, a byddai pobl yn symud o’u hardal enedigol, gan ddod â gwybodaeth newydd yn eu sgil. Byddai’r ddarpariaeth feddyginiaethol hefyd yn cael ei datblygu a’i hehangu wrth i nwyddau newydd ddod i law.

Gwneid defnydd yn ogystal o’r llyfrau meddyginiaethol niferus, megis Y Llysieu-lyfr Teuluaidd, Herbal neu Lysieu-lyfr D. T. Jones, Llanllyfni (1816/17), ac Y Meddyg Anifeiliaid, John Edwards, Caerwys (a gyhoeddwyd gyntaf ym 1816 ac a ailargraffwyd ym 1837) a oedd mor boblogaidd ar aelwydydd Cymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif, a dichon i beth o’r wybodaeth a geid ynddynt ddod, yn ei thro, yn rhan o’r gynhysgaeth lafar.

Llysiau

Rhosmari

Y garfan bwysicaf o ddigon mewn meddygaeth werin oedd y meddyginiaethau llysieuol. Roedd y rhan fwyaf o’r planhigion angenrheidiol i’w cael yn y gwyllt ond byddai’n rhaid tyfu’r perlysiau’n bwrpasol i gael cyflenwad ohonynt at ddibenion meddyginiaethol a choginiol. Mae’n debyg mai’r rhai mwyaf cyffredin oedd y wermod lwyd, y gamil neu gamomeil, hen wr, safri fach, tansi, rhosmari, wermod wen, mintys a phupur-fintys, saets, ruw’r gerddi, cwmffri a phersli, a thyfid detholiad ohonynt yn y gerddi ymhlith y blodau a’r llwyni.

Mae rhai perlysiau megis rhosmari yn blanhigion bytholwyrdd ac ar gael felly drwy gydol y flwyddyn, ond byddai’n rhaid casglu a chynaeafu eraill at ddefnydd y gaeaf. Y llysiau mwyaf defnyddiol a gâi eu casglu, wrth gwrs, a gallai’r dewis amrywio yn ôl yr angen o aelwyd i aelwyd, ond byddai pawb bron yn sychu un neu ddau ohonynt ddiwedd haf, yn enwedig perlysiau poblogaidd megis y wermod lwyd a saets.

29. Wermod lwyd

Er mor boblogaidd y perlysiau, y blodau gwyllt a dyfai mewn amryw gynefinoedd a ddefnyddid amlaf i drin anhwylderau. Gwneid defnydd helaeth o blanhigion megis y ddeilen gron, dail tafol, dant y llew, danadl poethion, chwerwlys yr eithin, dail eidral, milddail, carn yr ebol, i enwi ond ychydig, a châi rhai ohonynt eu sychu at ddefnydd y gaeaf. At hynny, gwneid elïau gyda llawer ohonynt at friwiau ac anhwylderau ar y croen, a byddai’r rhain felly ar gael drwy gydol y flwyddyn.

Byddai casglu helaeth ar gynnyrch llwyni a choed yn ystod yr haf a dechrau’r hydref, yn gynnyrch gardd a chynnyrch gwyllt, ac roedd modd trin llawer ohono fel ei fod ar gael at y gaeaf ar ryw ffurf neu’i gilydd.

Mae’n debyg mai fel bwyd yn bennaf y cesglid llawer o’r ffrwythau erbyn y cyfnod hwn, ac mai sgil gynnyrch oedd yr agwedd feddyginiaethol, ond ni ddylid gwahaniaethu rhwng y ddwy elfen hyn gan fod y casglu a’r cynaeafu yn rhan o’r economi cartref yn ei gyfanrwydd. Megis y byddai’r ffermwr a’r tyddynnwr yn cynaeafu cynnyrch y tir at ddefnydd dyn ac anifail drwy hirlwm y gaeaf, felly hefyd y wraig hithau at gynhaliaeth ac iechyd y teulu.

Ysgawen

Cesglid blodau ac aeron yr ysgawen i wneud gwinoedd blasus a gâi hefyd eu cyfrif yn feddyginiaeth ddiguro at annwyd a niwmonia. At hyn, câi’r blodau eu sychu ar gyfer gwneud te blodau ysgaw yn ystod y gaeaf, hwn eto i drin annwyd.

O ystyried y ddarpariaeth feddyginiaethol lysieuol drwyddi draw, mae’n debyg mai cyfran gymharol fach ohoni, er gwaethaf pob casglu a chynaeafu, a oedd ar gael yn y gaeaf, a byddai’n rhaid dibynnu ar lysiau wedi’u sychu, elïau, ffrwythau wedi’u cynaeafu, neu lysiau’r gegin, neu efallai ddefnyddio gwahanol ran o’r planhigyn. Er enghraifft, gellid gwneud defnydd o wraidd cwmffri yn hytrach na’r dail i baratoi eli yn ystod y gaeaf.

Gwastraff dyn

Dyma pam, efallai, fod dosbarth arall o feddyginiaethau, lle y gwneid defnydd naill ai o ddefnyddiau gwastraff dyn ac anifail, o gynnyrch anifeiliaid, neu o rannau o’r anifeiliaid eu hunain, mor boblogaidd. Mae’r mwyafrif llethol o’r meddyginiaethau yn y dosbarth hwn yn ymwneud ag anifeiliaid fferm. Yr anifail pwysicaf, yn ddiamau, oedd y mochyn, a byddai diwrnod lladd mochyn yn ddiwrnod mawr ar fferm a thyddyn. Ni fyddai dim o’r mochyn yn mynd yn wastraff. Câi’r cig ei halltu ar gyfer y teulu, a byddai peth ohono’n sicr o gael ei ddefnyddio i drin dolur gwddf rywbryd neu’i gilydd.

8 Bloneg mochyn.jpg

Defnyddid yr iau i wneud ffagotiaid, a byddai’r rhain yn cael eu lapio mewn darnau o’r rhwyd neu’r ‘ffedog’. Arferid toddi un ochr o’r bloneg i gael lard ar gyfer coginio, ond byddai’r ochr arall yn aml yn cael ei gadael i sychu i’w defnyddio at ddibenion amaethyddol a meddyginiaethol. Torrid darnau ohoni i wneud elïau, a defnyddid y croen neu bilen a fyddai’n magu amdani wrth iddi sychu i drin pigiad draenen a chasgliadau. At ddefnydd meddyginiaethol yn unig y cedwid bustl mochyn, sef i dynnu draenen, ac fe’i crogid wrth y tân i sychu a’i adael yno nes y byddai galw amdano.

Bwyd

Roedd gwraig y ty yn gwybod hefyd sut i ddefnyddio gwahanol fwydydd, cynfennau a sbeisys at ddibenion meddyginiaethol. Gwyddai, er enghraifft, y gellid gwneud powltis effeithiol at benddüyn neu gornwyd drwy roi dwr berwedig ar ben bara gwyn. Roedd ychwanegu cynfennau neu sbeisys megis pupur gwyn, pupur Cayenne, nytmeg, sinsir neu sinamon at ddiod o lefrith poeth yn arfer cyffredin, a byddai hon yn ddiod hynod o boblogaidd i’w chymryd y peth olaf cyn mynd i’r gwely er mwyn chwysu’r annwyd allan.

Goroesodd nifer helaeth o’r meddyginiaethau hyn ar ôl i amryw o’r meddyginiaethau llysieuol ddiflannu, a hynny mae’n debyg oherwydd bod y ddarpariaeth ar eu cyfer yn dal ar gael yn y cartref.

9 Carreg gynddaredd

Cynhysgaeth gwerin gwlad oedd y meddyginiaethau hyn. Roedd gwraig y ty a’r tyddynnwr fel ei gilydd yn meddu ar y medrau a’r adnoddau i ddarparu  meddyginiaethau syml i ddyn ac anifail, a phan fyddai angen cymorth pellach gallent droi at gymydog neu gydnabod am gyngor.

Roedd rhywun ym mhob ardal bron, hen wragedd yn aml iawn, a oedd yn enwog am wneud eli, a’r feddyginiaeth wedi bod yn y teulu ers sawl cenhedlaeth ac yn cael ei chadw’n gyfrinach. Prin iawn, ysywaeth, yw’r bobl hynny sy’n darparu elïau erbyn hyn.

Swyn

Dibynnai un garfan o feddyginiaethau nid ar lysiau na defnyddiau cartref ond ar elfen o ddefod neu swyn. Meddyginiaethau i gael gwared â defaid, oddi ar y dwylo’n bennaf, oedd amryw o’r rhain. Mae rhai dulliau o wella drwy ddefod neu swyn yn cael eu cysylltu ag ardaloedd penodol, ac ambell waith yn gyfyngedig i’r ardaloedd hynny.

Ceid yn sir Drefaldwyn a gogledd sir Aberteifi nifer o unigolion a oedd yn gallu gwella ‘clwy’r edau wlân’ neu ‘glefyd y galon’, afi echyd a gysylltir â’r ddarfodedigaeth, y clefyd melyn ac iselder ysbryd, drwy fesur. Roedd hyn yn arfer cyffredin yn y cyfryw ardaloedd, a llawer iawn o’r boblogaeth â ffydd ddigamsyniol yn y feddyginiaeth a’r sawl a’i gweithredai, ond prin iawn yw’r ymwybyddiaeth ohoni y tu allan i’w ffi niau ardalyddol.

77 807 60.tif

Roedd de sir Benfro yn enwog am ei swynwyr, pobl a feddai ar y ddawn o gael gwared â defaid neu wella anhwylderau megis yr eryr, tân iddew, trywinod neu losg drwy ‘swyno’. Roedd adrodd ‘swyn’ neu ymadrodd neilltuol yn rhan hanfodol o’r feddyginiaeth, ac ni ddatgelid y cynnwys i neb, rhag ofn i’r ddawn fynd yn ddiffrwyth. Ceir tystiolaeth gan gofnodwyr llên gwerin megis y Parch. Meredith Morris fod rhai o’r hen swynwyr yn meddu hefyd ar y ddawn o atal ffrydlif gwaed neu waed o archoll, dawn yr oedd
ambell un o wellhawyr clwy’r edau wlân yn meddu arni’n ogystal.

‘Gwasanaeth iechyd answyddogol’

O ystyried, felly, yr amrywiaeth a geid o ran meddyginiaethau llysieuol a meddyginiaethau cartref, ynghyd â’r gwahanol haenau neu ddosbarthiadau o wellhawyr y gellid elwa ar eu dawn a’u gwybodaeth, gwelir bod meddygaeth werin yn cynnig darpariaeth eithaf cyflawn yn negawdau cynnar yr ugeinfed ganrif, a bod y gyfundrefn hon, a weithredai fel gwasanaeth iechyd answyddogol ar raddfa leol, i bob pwrpas yn cyflenwi anghenion cymunedau a oedd o reidrwydd yn gorfod bod yn hunangynhaliol.

Yr elfen leol

Un nodwedd arbennig sy’n dod i’r amlwg, ac sydd yn wir yn elfen sylfaenol mewn meddygaeth werin, fel y crybwyllwyd eisoes, yw’r elfen leol.

4 Hysbysiad Richard Evans.jpg

Tra oedd nifer helaeth o’r meddyginiaethau yn gyffredin drwy Gymru gyfan, ceid hefyd amrywiadau lleol, boed yn y dewis o ddefnyddiau crai neu yn y modd y caent eu defnyddio. Cafwyd yn ogystal amrywiaeth helaeth o ran enwau planhigion o sir i sir, fel y dengys Gwenllian Awbery yn y gyfrol Blodau’r Maes a’r Ardd ar Lafar Gwlad, ac o ran defnyddiau crai eraill ynghyd ag enwau’r anhwylderau eu hunain. Ceisiwyd dangos yr amrywiaeth hon wrth gyfl wyno’r deunydd. Iaith y Gogledd yw iaith yr awdur, ond defnyddiwyd geirfa’r siaradwyr eu hunain wrth adrodd eu stori hwy. Gwelir hefyd fel y cysylltir rhai dulliau arbennig o feddyginiaethu â gwahanol ardaloedd.

O ddwyn ynghyd yr holl elfennau lleol hyn, gellir creu darlun cymharol gyflawn o arferion meddyginiaethol Cymru gyfan. Cipolwg yn unig a geir arnynt yma, sef ffrwyth gwaith casglu mewn ardaloedd detholedig ar hyd a lled Cymru, a hynny mewn cyfnod pan oedd amryw o’r siaradwyr eu hunain yn gresynu bod cynifer wedi mynd i’r bedd a’u cyfrinach gyda hwy.

‘Diflanedig’

Mae’r mwyafrif llethol o’r arferion hyn bellach wedi diflannu o’r tir.

Pethau defnyddiol oeddynt yn eu dydd, a phan ddarfu’r angen amdanynt, pan beidiasant â bod yn rhan hanfodol o fywyd beunyddiol, roedd eu tranc yn anochel.

15. Hocysen y morfa

Mae tuedd i ni heddiw ramanteiddio yn eu cylch, gan edrych arnynt fel cynnyrch oes aur ddilygredd pan oedd meysydd a chaeau’n gyforiog o flodau gwyllt, a dyn yn byw ar bethau ‘naturiol’. Yn wir, dyna farn llawer o’r siaradwyr hwythau. Roedd yn chwith ganddynt weld diflaniad yr hen feddyginiaethau, a chredent fod amryw rinweddau yn y llysiau, heb ddim o sgil effeithiau meddygaeth fodern, tra hiraethai nifer o’r ffermwyr yn eu plith am yr hen ddulliau o amaethu, pan oedd anifail yn byw ar gynnyrch naturiol y maes, ac yn llawer iachach o’r herwydd, a phan roid pwyslais ar grefft a gofalaeth.

Ond rhaid cofio hefyd fod y meddyginiaethau hyn yn aml yn mynd law yn llaw â chyni a thlodi ac y caent eu defnyddio fel mater o raid gan mai dyna’r unig ddarpariaeth a oedd o fewn cyrraedd trwch y boblogaeth, a bod meddygaeth werin ei hunan wedi newid ar hyd yr oesoedd gan gymathu dulliau a defnyddiau newydd.


Darllenwch mwy yn Meddyginiaethau Gwerin Cymru gan Anne Elizbaeth Williams ar gael nawr (£19.99, Y Lolfa)

Meddyginiaethau Gwerin Cymru - Anne Elizabeth Williams

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s