Dathlu Diwrnod Barddoniaeth 2017

dathlubarddoniaeth copy

Dydd Iau 28ain o Fedi 2017 yw diwrnod dathlu barddoniaeth drwy’r Deyrnas Gyfunol. Ydych chi’n hoff o farddoni? Neu yn hoff o ddarllen barddoniaeth?  Dyma rhai o’n pigio ni i’ch ysbrydoli chi roi pensil ar bapur – dim ots beth yw eich hoedran chi!


book.qxd

 

 

Ych a fi!

Mwydod yn y mwd,

Malwod yn y jeli,

Trychfil yn y twb,

Draenog yn fy ngwely!!

O lyfr ‘Ych a fi!’ a cherddi eraill gan Angharad Tomos cerdd o ddwli o Wlad y Rwla.

clawr Cerddi'r Galon

Canol y Gaeaf

Fe ddaeth yr eira yn y nos
I hulio’r nef fel llen,
A chuddio cyfuchliniau’r rhos
O dan ei garthen wen.
Ni chlywais sŵn yr ysgafn lu
Yn disgyn ar y llawr,
Ond gwelais wyrth y cwrlid plu
Yng ngolau teg y wawr.

 

O lyfr Cerddi’r Galon gan Susan May – cerddi i ddysgwyr gan ddysgwraig, gyda geirfa i hwyluso dealltwriaeth ochr yn ochr â phob cerdd.

0862435706

A gymri di Gymru? – Robat Gruffudd

A gymri di’r byd

A’i holl ryfeddodau,

Yr haul a’r sêr,

Y pysgod a’r blodau?

A gymri di’r gwledydd

O bob lliw a llun?

A gymri di Gymru –

Dy wlad dy hun?

A gymri di’r bryniau

A’r môr a’r afonydd,

Y trefi a’r traethau

Bychain, llonydd?

A gymri di’r bobl

Gynhesa’n y byd?

A gymri di Gymru –

A’i chymryd i gyd?

A gymri di’r cymoedd

A’r siopau betio

A’r capeli gwag –

A lanwan nhw eto?

A gymri di’r Steddfod

A Stiniog, a’r glaw?

A gymri di Gymru

Beth bynnag a ddaw?

Ar gael yn A Gymri di Gymru?, Poeth! Cerddi Poeth ac Oer – gol. Non ap Emlyn a mewn ffurf poster.

Mae mwy o gyfrolau barddoniaeth ar gael ar wefan Y Lolfa.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s