Holi’r awdur – Geraint V. Jones

HOLIG copy.jpg

Ac yntau newydd gyhoeddi ei nofel gyntaf ers bron i ddeg mlynedd, Yn Fflach y Fellten – nofel gyffrous sy’n mynd â’r darllenydd i fyd y goruwchnaturiol, fe aethom ni i gamu i fyd yr awdur ac un o brif nofelwyr Cymru, Geraint V Jones


O le ydych chi’n dod? Yn enedigol o Flaenau Ffestiniog.

Yn Fflach y Fellten - Geraint V JonesYn gryno, disgrifiwch eich llyfr diweddaraf: Stori ysbryd gymharol fer.

Pwy yw eich hoff awdur? Rwy’n edmygu amryw o awduron ond wedi cael y blas mwyaf ar nofelau hanesyddol Rhiannon Davies Jones.

 Pa nofelau a wnaeth fwyaf o argraff arnoch? Yn y Gymraeg, ‘Lleian Llan Llŷr’ (Rhiannon Davies Jones), ‘Un Nos Olau Leuad’ (Caradog Pritchard), ‘Dyddiadur Anne Frank’ (Eigra), ‘Awst yn  Anogia’ (Gareth F. Williams), ac amryw o rai eraill hefyd, tae’n dod i hynny, gan gynnwys gwaith rhai o’n nofelwyr ifanc ni, megis Fflur Dafydd.

llyfr_mawr_y_plantYn y Saesneg, anodd anwybyddu ‘Wuthering Heights’ (Emily Bronte) a ‘Lord of the Flies’ (William Golding), yn ogystal â gwaith awduron Americanaidd cyfoes megis John Grisham a Terry Hayes.

Beth oedd eich hoff lyfr(au) yn blentyn? ‘Llyfr Mawr y Plant’ a ‘Hunangofiant Tomi’.

Yn olaf, beth yw eich cyngor chi i rywun sydd eisiau ysgrifennu? Gwrando ar bob cyngor doeth a dyfalbarhau yn wyneb pob beirniadaeth.


Mae Yn Fflach y Fellten gan Geraint V. Jones (£5.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

Yn Fflach y Fellten - Geraint V Jones

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s