Holi’r awdur – Sioned Wiliam

1BlogHoliSionedWiliam copy


 

Mae Sioned Wiliam wedi ennill canmoliaeth uchel am ei nofelau, gyda Bethan Gwanas yn disgrifio llyfr cyntaf Sioned fel

‘tonic o nofel! Wedi chwerthin yn uchel ond yn agos at ddagrau weithiau hefyd’.

Mae ei thrydydd nofel  Cicio’r Bar  yn nofel ysgafn a ffraeth sy’n mynd â’r darllenydd nol  i fyd myfyrwyr Aberystwyth yr 80au, fe aethom ni i holi Sioned Wiliam…


O le ydych chi’n dod? Y Barri yn wreiddiol, bellach yn byw yn Llundain.

Cicio'r Bar - Sioned WiliamYn gryno, disgrifiwch eich llyfr diweddaraf: Prequel i’m nofel gyntaf Dal i Fynd. Hanes Nia, Delyth ac Anwen tra’n fyfrwragedd yn Aberystwyth ym 1980.

Pwy yw eich hoff awdur? Rhy anodd i ddewis, Angharad Price, Bethan Gwanas, Manon Steffan Ros a Gareth F Williams yn Gymraeg, Barbara Pym, Laurie Graham, Eric Ambler, Philip Pullman, Rohinton Mistry a Ben Aaronovitch yn Saesneg.

Pa nofelau a wnaeth fwyaf o argraff arnoch? Eto, llawer gormod ohonynt i’w nodi. Hoff iawn o The English Passengers gan Matthew Kneale a Te yn y Grug gan Kate Roberts.

Beth oedd eich hoff lyfr(au) yn blentyn? Nofelau, T Llew Jones, Alan Garner, Enid Blyton, Ruby Ferguson a channoedd o rhai eraill. Mond darllen o’n i’n gwneud!

Yn olaf, beth yw eich cyngor chi i rywun sydd eisiau ysgrifennu? Peidiwch a bod ofn y dudalen wen – jyst sgrifennwch a gadewch iddo lifo.


Mae Cicio’r Bar gan Sioned Wiliam (£8.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

ylolfa.com

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s