Ffug newyddion BBC Cymru Fyw am werthiant cyfrolau Llyfr y Flwyddyn yn gwbl gamarweiniol

Ym marn Y Lolfa mae’r eitem newyddion yma Cyfrolau Llyfr y Flwyddyn ‘heb werthu dros 200 copi gan BBC Cymru Fyw yn gwbl gamarweiniol.

Mae’r stori wedi ei seilio ar un ffynhonnell ddata, sy’n hollol ddiwerth o ran dadansoddi gwerthiant llyfrau Cymraeg. Siopau llyfrau annibynnol yw prif sianel werthiant llyfrau Cymraeg ac ar y cyfan nid yw Nielsen yn casglu data ganddynt.

Mae pob un o’r chwech llyfr oedd gan Y Lolfa ar y rhestr fer wedi gwerthu o leiaf 600 copi gyda thri o’r llyfrau sef Blodau Cymru, Meddyginiaethau Gwerin Cymru a Gwales wedi cael eu hailargraffu.

Mae’n drueni fod y BBC wedi penderfynu rhedeg stori negyddol, sydd wedi creu camargraff lwyr o werthiant da llyfrau Llyfr y Flwyddyn, yn hytrach na dathlu gwobrwyo “campwaith” Goronwy Wyn – Blodau Cymru.

 


 

www.ylolfa.com

 

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s