Y Düwch gan Jon Gower | Blas

Dyma flas o nofel newydd dywyll Jon Gower, Y Düwch, sef y bennod gyntaf.

Nofel drosedd, dywyll wedi ei lleoli ar rust belt Cymru, yr arfordir diwydiannol ac ôl-ddiwydiannol o Gynffig i Lansamlet. Caiff prifathro ysgol gynradd ei herwgipio a’i boenydio gan ‘Y Bwystfil’, seicopath mileinig sydd wedi lladd dau berson yn barod.

Mae’r darn yma yn cyflwyno’r ‘Bwystfil’ a’i ffyrdd o artaith….


BlogblasYDUWCH copy

Torri cnawd

Roedd hi’n gefn drymedd nos uwchben Port Talbot, ac oren gwan yr haul yn gymysg â lliw tanjerîn gweithfeydd Tata Steel. Lawr ar y gwastadeddau llwydion rhwng Cynffig a sianelau llwyd aber afon Nedd roedd y ffowndris mawrion yn tasgu gwres a gwreichion. Yr adeg hyn o’r dydd, byddai’r simneiau diwydiannol yn arllwys cymylau trwchus o wenwyn, a hwnnw’n drifftio’n gymysgedd o wyrdd, porffor a leim dros stadau Sandfields ac ymlaen tuag at goedwigoedd du Cwm Afan, lle roedden nhw’n blingo’r dail fel gaeaf artiffisial.

Munud i ddeg o’r gloch.

Lawr ar y stad siopa fawr sydd wedi tyfu o gwmpas Morrisons, ger ysbyty newydd Castell-nedd Port Talbot, roedd y siopwyr olaf yn llwytho’u ceir. Cariai un ohonynt
focs mawr o stwff ar gyfer parti ac erbyn cyrraedd y car roedd yn difaru na fyddai wedi defnyddio’r troli yn hytrach na chwysu gyda llwyth dyn diog. Er mwyn cael y stwff i’r car mae angen symud tri bocs yn llawn gwaith papur: er gwaetha’r dechnoleg mae bod yn bennaeth ysgol yn golygu bod dogfennau di-ri yn anorfod. Mae’n biti na ofynnodd am shredder ar ei ben-blwydd yn hytrach na’r llyfr Cymraeg y bydd ei wraig o hyd yn prynu iddo er mwyn gwella safon ei iaith.

Wrth iddo gwmanu, gan lwytho’r poteli Rioja a’r cnau hallt i’r sedd gefn, teimlodd gysgod y tu ôl iddo. Am eiliad roedd rhan o’i ymennydd yn cwestiynu ei synhwyrau: gweld cysgod, nid teimlo cysgod y byddai.

Dihunodd y dyn mewn byd o boen gwyn, gan hongian gerfydd ei arddyrnau yn y tywyllwch, yn aros i rywbeth ddigwydd, wrth i’w synhwyrau weithio ffwl pelt i geisio deall y sefyllfa ac i dorri’n rhydd, er nad oedd hynny’n debygol, o ystyried
pa mor ddiymadferth ydoedd. Yno, yn hongian.

Doedd y poen ddim yn ormesol bellach: roedd e wedi dioddef gormod i hynny. Poen pur oedd e. Poen o fyd arall. Ni theimlai dyndra’r metel fel feis o gwmpas ei arddyrnau na gweld y gwaed. Faint o amser roedd e wedi bod yma? Deuddeg awr? Mwy? Faint o waed a gollodd? Peint neu ddau eisoes, siŵr o fod. Chwe pheint ar ôl.

Ond ni châi’r cwestiynau gyfle i deithio i ben eu taith oherwydd daeth braw yr atgof – braich fawr yn dal gafael yn ei gefn a llaw fawr arall yn gwasgu rhywbeth gwlyb dros ei geg a’i ffroenau, cyn bod y golau oren o’i gwmpas yn pylu. Yna, sŵn gwydr yn torri. Potel win o Sbaen yn ffrwydro’n deilchion.

Yn y pellter clywodd ddrws metel yn gwingo wrth agor. O Dduw mawr, roedd y dyn yn ei ôl. Gwnâi ei ysgyfaint sŵn fel consertina, yr aer yn hisian yn gyflym, mewn a mas, mewn a mas…

Gyda chlec fel ergyd dryll agorodd y drws mewnol a cherddodd y Bwystfil i mewn – enw bedydd y cyfryngau am y dyn, yr ellyll, y cawr chwe throedfedd a hanner. Prowliai fel arth o gwmpas ei brae. Y gath yn chwarae â’r caneri, yr arth â’r eog. Dyma sut y byddai’r Bwystfil yn ennill ei bleser. Troi’r broses o farw yn broses hir ddychrynllyd.

Felly, byddai’n hamddenol, yn cymeryd ei amser. Mewn hen fag doctor y cadwai’r teclynnau siarp, pob un mewn cas arbennig, â min ar bopeth. Gallai wneud llawdriniaeth mewn ysbyty gyda’r cit yma: y sgalpelau, y llif arbennig i lifio esgyrn, a’r morthwyl a allai dorri drwodd i fêr esgyrn heb unrhyw drafferth. Byddai’n tynnu pob arf mas, fesul un, yn ddefodol, ac yn eu gosod mewn trefn. Y pethau bach ar gyfer sleisio a thorri’n fanwl. Yr offer trwm i dorri drwy ddarnau ystyfnig y corff. Hec, pe bai’n dal mwy o bobol gallai fod yn ddoctor. Blingo. Siafio. Torri.

Roedd e wedi darllen rhywdro nad oes angen pendics ar ddyn, a gwnaeth hyn ennyn ei ddiddordeb mewn pethau eraill diangen sydd yn y corff. Tafod? Oes wir angen tafod? Clust? Roedd rhywun yn gallu clywed heb y fflap allanol, felly pam ei gadw? Syllodd y Bwystfil ar ei brae yn hongian o’i flaen wrth feddwl am hyn, gan ei astudio, fel petai’n broffesiynol. Fel y bydd cath yn chwarae’n ddiangen pan fydd llygoden yn ei meddiant. Chwarae am fod y chwarae’n bleser… y peth bach pitw yn ddim mwy na hyd ewin siarp i ffwrdd.

‘Ronnie. Ti’n clywed, Ronnie? Sgen ti neges i dy wraig, falle? Galla i gymryd neges, os ti moyn. Dy eirie ola. Sgen ti gyffes iddi, rhywbeth ti am weud wrthi? Famous last words? Oherwydd galla i dy neud ti’n enwog. O blydi hel, galla, Sunbeam.’

Ronnie Davies. Dyn ag ambell sgerbwd yn y cwpwrdd, ond dim byd i’w gyfaddef wrth ei wraig, Loreen. Dim nawr. Dim os bydd yn marw, yma yn y… beth? Warws, garej, lock-up? Doedd ei lygaid ddim yn gallu ymdopi â’r tywyllwch. Deuai’r unig olau o un gornel yn y lle gwag fel ogof, lle roedd y dyn yn prowlan. Gwell iddi hi, ei wraig druan, ei gofio fel ag yr oedd e. Dyn syml i bob pwrpas, ond dyn roedd hi’n ei garu. Dyn sydd yn ei charu hi.

Iesu, roedd y poen yn ôl, yn saethu ar hyd ei freichiau fel ergyd drydanol hurt o bwerus yn dod yn syth o’r Grid Cenedlaethol. Poen gwyn, yn dod fel lliw.

Yn ddigon hamddenol agorodd y Bwystfil y bag ac yna cofiodd fod angen agor y ford bapuro er mwyn gosod ei offer yn deidi. Chwibanai’n dawel, hen gân Soft Cell y bu’n gwrando arni yn y car ar y ffordd i Morrisons, cyn parcio yn yr unig fan lle nad oedd camera cylch-cyfyng. ‘Tainted love, baby, tainted love.’ Doedd ei lais ddim yn gryf. I’r gwrthwyneb. Roedd yn uchel ac yn fain, bron fel petai wedi bod yn anadlu heliwm
allan o falãn plentyn, fel llais merch. Yn sicr, yn ddim byd fel y llais y byddech yn ei ddisgwyl gan gorff mor fawr, llawn steroids. Byddai’r Bwystfil yn ymarfer yn galed, yn edrych ar ôl ei gorff, yn gweithio’r cyhyrau i’r eithaf.

Trodd y goleuadau ymlaen, gan fod lot o waith i’w wneud. Roedd ganddo o leia bum mil wat o olau yn disgleirio ar y dyn bellach, y math o olau sydd ei angen ar gyfer llawdriniaeth. Gwnâi’r dyn sãn fel cwningen wedi’i dal rhwng dannedd wenci.

‘Dŵr,’ ymbiliodd.

‘Sdim pwynt,’ oedd yr ateb swta.

Cachgwn yw’r doctoriaid sy’n defnyddio anesthetig. Eisiau osgoi sŵn y gweiddi mawr. Na, dyw e ddim yn ddoctor. Rhaid iddo gofio hynny, neu allai ddim gwneud hyn. Er, efallai ei fod yn iacháu. Cael gwared o’r poen, er taw fe blannodd y poen yno yn y lle cyntaf.

Y Swann Morton 4, dyna’r sgalpel i gychwyn. Roedd yr handlen wedi’i chynllunio’n gain ac roedd hyd yn oed ei fysedd mawr selsig Cumberland yn gallu dal y teclyn yn
dynn, a gweithio’r blêd fel nodwydd. Fel hyn. Fel arall. Torri’n siarp, go iawn.

Cerddodd yn hamddenol tuag at y dyn. Chwibanai’n dawel unwaith eto alaw’r gân oedd wedi sticio yn ei ben fel tôn gron. ‘Tainted Love.’ Torchodd ei lewys cyn gwisgo ffedog drwchus o blastig gwyn. Amser cychwyn. Amser torri.


Mae Y Düwch gan Jon Gower ar gael nawr (£8.99, Y Lolfa)

Y Duwch - Jon Gower


www.ylolfa.com

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s