Y Gymraes o Ganaan – Margaret Jones

Roedd bywyd Margaret Jones yn arbennig. Magwyd yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam, ac fe ddaeth yn enwog yn y ddeunawfed ganrif a chael ei hadnabod fel y ‘y Gymraes o Ganaan’.

Clawr Y Gymraes o Ganaan gan Eirian Jones

Dyma stori Margaret Jones. Ganed mis Mawrth 1842 yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam, i Ann ac Owen Jones, un o lowyr yr ardal.

Llun o Margaret Jones a dynnwyd gan John Thomas tua 1875 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Roedd Rhosllannerchrugog yn ardal lofaol yn ystod cyfnod plentyndod Margaret. Disgrifwyd yn le brwnt a dychrynllyd gan gomisiynwyr ag oedd yn edrych i mewn i gyflwr addysg yng Nghymru yn 1847. Er hyn, roedd yn le gyda swyddi, ac felly’n ddeniadol iawn i weithwyr tlad amaeth gogledd Cymru. Roedd y capeli dan eu sang a bywyd yn Rhos yn galed, yn frwydr i oroesi.

Dim ond tair wythnos o ysgol derbyniodd Margaret yn Rhosllannerchrugog, sydd yn gwneud profiadau a llwyddiannau ei bywyd yn hyd yn oed fwy trawiadol. Yn 14 oed aeth i weithio fel morwyn i deulu yn Llangollen, ac yna yn 1862 aeth i Birmingham. Roedd ei chyflogwr, y Parchedig E B Frankel, yn gweithio ar ran Cymdeithas Hyrwyddo Cristnogaeth ymysg Iddewon Llundain. Y cysylltiad yma a newidiodd bywyd Margaret; gan ei drawsnewid o’r cyffredin i’r hynod.

Yn ei gwaith fel morwyn i’r teulu Frankel, treuliodd Margaret dwy flynedd ym Mharis gan ddysgu Ffrangeg ynghyd â Saesneg, yna treuliodd pedair mlynedd yn Jerwsalem.

Eglwys yr Iesu, Jerwsalem tua’r 1860au
(Hawlfraint: Llyfrgell Conrad Schick, Jerwsalem)

O 1870 ymlaen, teithiodd hyd a lled Cymru yn darlithio, hybu ei llyfr a rhannu’i phrofiadau yng Nghanaan. Nid oedd hyn yn arferol i fenywod yr adeg, ond un o’r menywod eraill ag oedd yn darlithio oedd Sarah Jane Rees – Cranogwen. Roedd nifer fawr o ddynion yn gwbl yn erbyn gweld menywod yn rhannu’u profiadau gyda grŵp mawr o bobl mewn man cyhoeddus, ac roeddent yn llafar iawn am eu hanfodlonrwydd.

Teithiodd i Moroco a gweithio yno am dair mlynedd, i hebrwng Elizabeth Frankel (merch ei chyn-gyflogwyr) wrth iddi symud i’r wlad ar ôl priodi, ac i weithio mewn ysgol i Iddewon. Ar ôl ei chyfnod yn Affrica, fe deithiodd o amgylch yr Unol Daleithiau am ddwy flynedd, cyn ymfudo i Queensland, Awstralia yn 1889 a phriodi James Josey – dyn cefnog iawn. Bu farw yn Queensland yn 60 oed yn 1902.

Bedd Margaret Josey, Y Gymraes o Ganaan, yn Ipswich (Bronwen Hall)

Yn ystod ei bywyd roedd yn cael ei adnabod fel ‘Y Gymraes o Ganaan’ gan iddi gyhoeddi cyfres o lythyron a ysgrifennodd at ei theulu o Baris, Jerwsalem a Beirut mewn llyfr Llythyrau Cymraes o Wlad Canaan (1869). Daeth ail lyfr yn sgil ei phrofiadau yn Moroco, sef y llyfr teithio Moroco, a’r hyn a welais yno, a chyhoeddwyd yn 1883.

Clawr y gyfrol Moroco, a’r hyn a welais yno (Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

“Byddai ei bywyd a llwyddiant wedi bod yn hollol hynod yn ystod y cyfnod presennol,” meddai’r awdur Eirian Jones, “bu rhaid i fi atgoffa fy hun sawl gwaith mae dyma stori Cymraes a bu’n byw dros gant a hanner o flynyddoedd yn ôl.”

Eirian yn darllen dyddiadur Margaret Jones yn Llyfrgell Talaith Queensland yn Brisbane

Mae fersiwn Saesneg o’r hanes ar gael, The Welsh Lady of Canaan.

Am yr awdur

Magwyd Eirian Jones ar y Mynydd Bach yng Ngheredigion. Wedi gyrfa fel athrawes yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys cyfnod fel pennaeth ysgol gynradd, mae bellach yn gweithio fel golygydd llyfrau Saesneg. Mae hi hefyd yn gyn-ddyfarnwraig tenis rhyngwladol ac yn deithwraig o fri!

www.ylolfa.com

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s