Blas o nofel Cefin Roberts – Os Na Ddon Nhw…

Dyma flas o nofel newydd hirddisgwyliedig yr awdur, y cerddor, yr athro a’r diddanwr Cefin Roberts – Os Na Ddôn­­ Nhw... Mae’r nofel yn dilyn hynt a helynt Cemlyn ac Annest wrth iddynt actio mewn ffilm wedi ei leoli ar Ynys Môn.

Dyma flas o bennod 8 wrth i Cemlyn ystyried mynychu’r clywediadau…


Ond roedd meddwl Cemlyn yn dal ar ras wyllt yn dychmygu’r penwythnos oedd o’i flaen. Roedd o wedi darllen am y ffilm yn un o’r papurau lleol, ond soniodd o ‘run gair wrth Geraint am hynny, gan nad oedd am ymddangos yn orawyddus i’w ffrind. Roedd wedi bod yn pendroni sut yn y byd y gallai fynd i Fiwmares ac yn ôl heb adael ei fam ar ei phen ei hun am allan o hydion. Roedd y Suliau wedi dod yn bwysig iawn i’r ddau ohonyn nhw’n ddiweddar. Catrin Owen fyddai’n rhoi’r cig yn y popty ben bore a’i rostio’n ara deg tra byddai’r ddau yn yr oedfa. Cemlyn fyddai’n paratoi’r llysiau a gosod y bwrdd cyn iddyn nhw’i chychwyn hi am gapel Hermon. Ers i’r fan fynd i’w haped roedd Mr Ifans Hen Dý wedi galw amdanyn nhw’n ddeddfol bob bore Sul, glaw neu hindda, chwarae teg iddo. Yna, cymerai’r ddau eu hamser dros ginio, ac os byddai’r tywydd yn deg, fe aent am dro yn y pnawniau, a threuliai Cemlyn y min nos yn dysgu ei linellau neu’n trwsio rhyw fanion hyd y tyddyn. Gwnâi hithau bwcs o smwddio os byddai Cemlyn allan, neu dorri asgwrn cefn ambell ddilledyn a roed iddi i’w haltro. Ond paned o flaen y tân­ oedd y ddefod i gloi’r Sul bob amser, a brechdanau cig oer os byddai peth dros ben.

Er mor ailadroddus oedd y rhigol yma i’w Suliau, roedd Cemlyn yn gwybod bod y patrwm cyson ar ddiwedd bob wythnos yn bwysig i Catrin Owen. Roedd wedi trafod hynny hefo’r meddyg teulu dros yr haf. Os gallai Cemlyn greu amserlen iddo’i hun lle byddai trefn eitha pendant i ambell ddiwrnod o’u hwythnos, byddai hynny’n rhoi hyder i’r hen werigan, a chyfle i’w hail a’i thrydydd atgoffa o ambell i beth. Roedd ei fam wedi deall y gêm i’r dim; bron cystal, os nad gwell na Cemlyn. Ond gwyddai hefyd y deuai diwrnod pryd y byddai’n gollwng yr awenau’n llwyr i ddwylo’i mab.

Roedd aberthu ei Sul yn galifantio i ryw glyweliad ym Miwmares wedi chwarae ar gydwybod Cemlyn byth ers iddo ddarllen amdano yn y papur. Ac yntau’n ddi-gar byddai ar drugaredd bysys bach Llanfarian, a doedd ganddo fawr o fydd yn y rheiny yn enwedig ar y Sul. Ond rwan­ fod Geraint wedi cynnig lift iddo, roedd ei feddwl yn gwibio i bobman. Os mai’r cyfan fyddai gofyn iddo ei wneud oedd cael ‘sgwrs anffurfiol’ hefo’r cyfarwyddwr, pharai hynny ddim mwy na rhyw hanner awr, doedd bosib. Byddai’n ei ôl­ yn Nhyddyn pwyth erbyn diwedd y pnawn, fan hwyraf.

Dechreuodd loffa drwy’r bwndeli papur newydd am ragor o wybodaeth. Efallai y byddai mwy o fanylion yno am y clywediadau. Os oedd o am fentro draw hefo Big End ddydd Sul, doedd o ddim am gyrraedd yno heb wybod pob manylyn posib am y cyfarfod. Ond roedd Catrin Owen yn un arw am gronni pob math o anialwch nes y byddai’r droriau a’r cypyrddau’n gorlifo. Wyddai Cemlyn ddim lle i ddechrau chwilio am yr hen bapurau.

Chwalodd ton o dristwch drosto wrth iddo ymbalfalu drwy’r droriau. Hen luniau o’r teulu yn gymysg â llythyrau, hen gardiau pen-blwydd a chardiau Nadolig. Llanast diwerth i lygaid ambell un, mae’n siwr, ond i Catrin Owen, roedd yn llanast pwysig ac yn allwedd i ddeffro ei doe a’i hechdoe. Y rhain oedd canllaw ei chof erbyn hyn.

Crychodd ei dalcen pan sylwodd Cemlyn ar ambell i fì­l heb ei dalu ymhlith y cawdel a’i hwynebai. Byddai’n rhaid iddo helpu ei fam i ddidoli’r droriau yma’n fuan. Roedd ganddo gyfle bellach i roi’r tý­ mewn trefn, ac fe wyddai rwan­ lle’n union i ddechrau. Pan oedd yn gweithio yn y lladd-dy doedd ganddo mo’r cyfle i gadw llygad ar y post, ond doedd hynny ddim yn esgus iddo bellach. Roedd llythyr cwmni Saturn yno’n syllu arno hefyd, wedi ei roi yng nghanol Aberangof y llanast.

Syllodd ar yr enw ar y llythyr am sbel – Saturn. Tybed beth wnaeth iddyn nhw ddewis yr enw yna? meddyliodd. Yn sicr roedd hi’n blaned hardd ryfeddol; un o’r planedau harddaf o fewn ein galaeth, medd rhai, ac edrychai’n ddelwedd drawiadol iawn ar y pamffled lliwgar o’i flaen. Ond ers pan oedd yn blentyn, roedd y blaned Sadwrn wedi codi rhyw fraw anesboniadwy ar Cemlyn. Cofiai ddarllen ei bod yn blaned oer iawn; planed y nwyon a’r gwyntoedd geirwon, â­’i­ symbol astrolegol oedd y cryman, erfyn yr hen fedelwr ei hun. Syllodd arni eto heno, yn ddyn yn ei oed a’i amser, a chael yr un ofn anesboniadwy yn ei ymasgaroedd.

Rhoddodd y llythyr a’r pamffled yn ôl yn y drôr. Gwyddai fod mynydd o waith didoli o’i flaen. Fedrai o gyfiawnhau mynd i Fiwmares ddydd Sul a’r holl bethau yma angen ei sylw? Pigodd ei gydwybod am yr eildro.


Os Na Dddo'n Nhw - Cefin Roberts


www.ylolfa.com

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s