Adolygiad | Treheli gan Mared Lewis

Treheli - Mared LewisPan mae rhywun yn aflonyddu ar drigolion Treheli, nid yw’n hir iawn cyn i’r craciau ddechrau ymddangos yn y dref.

Ond pwy sy’n gwybod be?

Stori afaelgar, hudolus, sy’n ein tywys i fywyd sawl cymeriad sy’n ymladd ei frwydr bersonol ei hun.

Dyma adolygiad Sioned Erin Hughes o nofel Mared Lewis, Treheli.


Nofel wedi’i seilio ar anghydbwysedd pŵer yw Treheli, a phinacl y nofel yw’r effaith ddifäol a gâi’r anghydbwysedd hwn ar unigolyn ymylol, ‘ychydig bach yn wahanol’ ebe’r awdur. Ceir yma bortread o gymdeithas sydd yn closio yng ngoleuni digwyddiadau rhyfedd sydd yn bygwth patrwm dedwydd eu bywydau ger y môr. Yn sgil y chwarae castiau cyson, mae drwgdybiaeth gymdeithasol yn golygu mai cymeriad ymddangosiadol wan yw’r un a orfu ddioddef, tra bod y sawl sydd yn meddu ar statws yn rhydd o feirniadaeth, ond yn gaeth i’w gydwybod ei hun. O’r herwydd, cwestiwn sydd yn plagio’r darllenydd yn barhaol yw; a fydd y diniwed yn gorfod ysgwyddo’r bai, neu a fydd cydwybod yr euog yn curo? Y cwestiwn hwn yw’r llinyn arian sydd yn cadw’r nofel hon yn dynn, a rhaid dibynnu ar allu’r darllenydd i ddarllen rhwng y llinellau er mwyn llacio’r llinyn hwn a darogan yr ateb cyn cyrraedd ato.
Ond ymdriniaeth yr awdur â’r themâu sydd yn cysgodi’r drygau hyn sydd orau gen i. Mae yma drafodaeth ddeallus ar anhwylder bwyta a’i afael ar feddwl Noa. Peidio ag ildio a bwyta yw ffordd Noa o ymdopi â’i orffennol tywyll, a dod o hyd i reolaeth yn nhryblith ei bresennol. Disgrifir y ‘boddhad’ a deimla efo’r cnoi yn ei stumog, a chan fod bwyta’n wrthun ganddo, mae’n diwallu’r cnoi hwnnw drwy wledda ar luniau o gacennau eisin pinc. Mae yma hefyd gydymdeimlad â sefyllfa druenus Ceri, sydd yn dioddef trais domestig dan orthrwm ei chariad, Mart. Cawn fewnwelediad ar amrydedd ei theimladau wrth iddi ei beio’i hun am wylltio Mart, a gwelwn iddi ei thwyllo’i hun i gredu bod nodweddion angylaidd yn Mart – rhai sydd yn ei hatal rhag dianc. Penllanw’r berthynas yw bod yn rhaid i Ceri benderfynu a yw’r ergydion yn drech na’r cariad a deimlai tuag ato.
Braf wedyn yw bod yn dyst i egin y cyfeillgarwch rhwng Noa ac Isabella, a garw o beth na chafodd y cyfeillgarwch hwn hawl i ddwyn ffrwyth. Drwy gymeriad Isabella, cawn flas ar gymhlethdod a chreulondeb dementia, ac mae ei deialog herciog ac anhrefn ei myfyrdodau yn brawf pellach o ddawn amheuthun yr awdur i siarad am bethau o wirioneddol bwys. Yr un yw’r sensitifrwydd yn ei hymdriniaeth â galar Edwin wedi iddo golli ei wraig, Ann. Ceir yma drafodaeth friwedig am effaith colli ar un sydd yn troi at y ddiod gadarn ac at obsesiwn am gysur, a hynny ar ôl i fywyd wedi profedigaeth ymdebygu i ‘[b]ryd o lobsgóws heb halen na phupur, heb flas yn y byd arno.’
Mae yma gywasgiad o gymeriadau cymhleth, ond mae modd eu datod, eu deall a chydymdeimlo atynt. Mae yma dafodiaith gref, ond ar ei hyd, mae’r nofel mewn iaith sydd yn hygyrch i bawb. Ac er ei difrifoldeb, mae gan yr awdur afael glew ar hiwmor hefyd. Y cydbwysedd hwn a wna’r nofel hon yn un gwerth sôn amdani, ac mae’r awdur yn haeddu bri am hynny.

“Nofel dynn, gywrain ei gwead ac ambell bennod yn darllen fel stori fer, ond llinyn storiol hefyd yn clymu’r cyfan ynghyd. Rhagorol!”

Yr Athro Gerwyn Wiliams


Mae Treheli gan Mared Lewis ar gael nawr (£8.99)


www.ylolfa.com

Advertisements

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s