Byw gyda galar

Cyhoeddwyd Galar a Fi: Profiadau ingol o fyw gyda galar yn 2017 ac roedd y galw am gyfrol sy’n siarad am y brofiad o alaru drwy gyfrwng y Gymraeg yn amlwg.

Wythnos yma (2 – 8 Rhagfyr 2019) ydi Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Galar. Mae’r wythnos wedi’i drefnu gan The Good Grief Trust sydd am agor y sgwrs am alar, ac i wneud y pwnc yn fwy agored. Maent hefyd yn ceisio rhoi help a gobaith i’r sawl sydd yn galaru, ac i’r sawl sydd am helpu’r galarwyr.

Dyma ddarn gan Sharon Marie Jones, a gollodd ei mab Ned mewn damwain car, yn siarad am ei phrofiadau dros y tair blynedd a hanner diwethaf, a beth sydd wedi ac sydd yn ei helpu. Mae Sara Maredudd Jones, a gollodd ei mam yn 17 oed, hefyd yn cynnig pethau sydd wedi’i helpu hi yn bersonol ac wedi’i helpu fod yn graig i’w chariad ar ôl iddo golli ei dad. Yn olaf, mae yna restr o frawddegau sydd medru cynnal rhywun sydd yn galaru, a rhestr o frawddegau sy’n medru niweidio.


Sharon Marie Jones: Byw gyda galar

Mae tair blynedd a hanner wedi mynd heibio ers i alar ddod i fy mywyd yn y modd fwyaf creulon; tair blynedd a hanner ers i mi golli fy mab bach 5 oed, Ned, mewn damwain car.

Beth ydw i’n ei wybod am alar erbyn hyn?

PoenMae’r boen o golli plentyn yn annioddefol. Doeddwn i erioed wedi teimlo gwir ystyr y gair ‘annioddefol’ cyn i mi golli Ned. Roedd y boen o’i golli yn ormod i mi. Roeddwn i ar fy ngliniau neu’n gorwedd yn belen dynn ar ei wely. Roeddwn i’n tynnu fy ngwallt, yn curo fy mhen yn erbyn wal ac yn crafu fy nghroen. Roeddwn i’n llyncu gormod o dabledi; gwneud rhywbeth i geisio lleddfu’r boen.

Dwi’n dal i gael dyddiau lle mae’r poen yn fy mwrw fel cic galed i’r stumog ac yn sugno’r anadl o ‘nghorff.

Blinder – Doeddwn i’n methu cysgu o gwbl a chefais dabledi cysgu.

Dwi wedi blino’n ddyddiol. Dwi’n aml yn syrthio i gysgu yn ystod y dydd. Dwi’n parhau i gymryd meddyginiaeth i fy helpu i syrthio i gysgu yn y nos. Mae fy nghorff i wedi blino. Mae fy nghyhyrau’n brifo. Dwi’n cael trafferth canolbwyntio am gyfnodau hir.

Bwyta – Yn ystod yr wythnosau cyntaf, doeddwn i’n methu bwyta o gwbl. Roedd gweld neu arogli bwyd yn troi fy stumog. Doeddwn i’n methu llyncu; byddai bwyd yn gwneud i mi dagu.

Dwi dal ddim yn bwyta’n iawn. Dwi’n cael trafferth eistedd a bwyta pryd o fwyd ac yn cael trafferth rheoli’r bwlimia dwi wedi byw efo erioed.

Crio – ‘Nes i grio, crio’n ddi-stop. Roedd fy nghalon yn brifo. Roeddwn i’n crio nes bod fy nghorff yn brifo drosto.

Dwi’n dal i grio. Does dim un diwrnod wedi mynd heibio pan nad ydw i wedi crio.

Colli cof – Dwi’n cofio’r bythefnos gyntaf ar ôl colli Ned, ond mae’r misoedd dilynol yn niwlog. Mae gen i ambell i atgof, ambell i ddarlun yn fy nghof, ond mae’r deunaw mis cychwynnol fwy neu lai yn wag. Dwi’n methu cofio.

Dwi’n parhau i gael anhawster gyda chof tymor byr. Dwi’n anghofus. Ar adegau, mae fy meddwl yn mynd yn wag wrth siarad, a dwi’n methu cofio’r gair cywir. Yn aml dwi ddim yn cofio be ‘nes i ddoe neu’r wythnos gynt.

Salwch meddwl – Cefais ddiagnosis o iselder a gorbryder tua deunaw mis cyn colli Ned. Mae galar wedi gwaethygu symptomau’r salwch hyn. Dwi’n dioddef gyda PTSD – dwi’n cael ôl-fflachiau hunllefus o’r ddamwain. Mae gen i ofn bywyd. Dwi’n cael pyliau o banig. Mae fy ymateb ‘fight-or-flight’ yn gyson yn uchel.

Pryder cymdeithasol – Es i’n ynysig iawn. Doeddwn i ddim eisiau gadael y tŷ. Roeddwn i’n teimlo’n ddiogel adre. Doeddwn i ddim eisiau wynebu pobl. Doeddwn i ddim eisiau wynebu’r bywyd oedd yn parhau tu allan y tŷ. Roeddwn i’n cael ymosodiadau panig sawl gwaith y dydd.

Dwi’n methu bod mewn grŵp mawr o bobl rhagor. Cylch agos iawn sydd o ‘nghwmpas. Dwi’n parhau i gael ymosodiadau panig yn aml.

Rhagolwg bywyd – Am amser hir, doeddwn i ddim eisiau bod yn fyw. Doeddwn i ddim eisiau byw heb Ned.

Mae ‘na bethau sy’ ddim yn bwysig i mi rhagor – pethau bach oedd i’w gweld mor bwysig gynt. Dwi’n gwybod yn union beth sy wir yn bwysig i mi erbyn hyn. Dydych chi byth yn dod dros golli plentyn. Mae fy ngalar am Ned yn cyfateb fy nghariad ato. Mae o’n anferthol.

Er y galar, dwi wedi gallu symud ymlaen, yn araf bach, gam wrth gam. Dyma’r pethau sydd wedi fy helpu i ac sy’n parhau i fy helpu i fyw o ddydd i ddydd.

Gofyn am help – Yn ystod noson y ddamwain, eisteddais ar wely Ned, yn syllu allan i’r tywyllwch, yn sibrwd, ‘Plis helpwch fi. Plis, rhywun. Helpwch fi.’ Roeddwn i mor lwcus o fy meddyg teulu. Roeddwn i angen help proffesiynol. Cyfeiriodd hi fi at y Tîm Iechyd Meddwl a bues i o dan ofalaeth y ‘Crisis Team’ a’r seiciatrydd. Cefais fy rhoi ar ddosau uchel o feddyginiaeth. Ond ar ôl blwyddyn yn unig, cefais fy rhyddhau o’r gwasanaeth yn gyfan gwbl. Cefais gwnsela gyda’r elusen Cruse am flwyddyn, ond roedd angen mwy o help arnaf. Roedd angen help seicolegydd arnaf.

Therapi – Ers Awst, 2017, dwi wedi bod yn gweld seicolegydd preifat yn wythnosol. Dwi wedi cael therapi dwys CBT, ac ar hyn o bryd yn cael therapi EMDR ar gyfer PTSD. Byswn i ddim yma heddiw heb y therapi hwn.

Teulu – Fy mhlant a fy ngŵr yw’r rheswm dwi’n codi yn y bore. Mae fy mhlant yn haeddu’r bywyd gorau dwi’n gallu cynnig iddynt. Fe gollon nhw nid yn unig eu brawd ar y diwrnod hynny, ond hefyd y fam roedden nhw’n ei hadnabod. A dwi dal yn fam i Ned. Mae ei le yn y teulu’r un mor bwysig ag erioed. Ein bachgen bach ni, brawd Tomi a Cai. Mae yna aelodau o’r teulu nad ydw i mewn cysylltiad â nhw rhagor, gan eu bod wedi fy mrifo; fy mrifo yn ystod amser pan na allwn frifo mwy. Mae fy therapydd wedi fy helpu i weld nad oes rhaid cael perthynas gyda rhywun dim ond oherwydd eu bod yn ‘deulu’.

Ffrindiau – Dwi wedi colli ffrindiau ers colli Ned. Maen nhw wedi diflannu o fy mywyd. Dydw i ddim yn clywed ganddynt ragor. Eu dewis nhw oedd gadael. Mae gen i lai na llond llaw o wir ffrindiau erbyn hyn; ffrindiau sydd wedi bod wrth fy ymyl bob cam o’r ffordd, ffrindiau fydd gyda fi am byth. Mae’n anodd creu ffrindiau newydd ar ôl colli plentyn. Mae pobl yn fy osgoi, yn esgus chwilio yn eu bag wrth basio neu hyd yn oed groesi’r ffordd. Alla i ddim esbonio’n bersonol i bob un o’r unigolion hyn sut i ymateb i fy sefyllfa – dyna pam mae Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Galar mor bwysig. Dyma pam mae’n bwysig i ni sy’n galaru i siarad allan.

Ysgrifennu – Ysgrifennu yw fy achubiaeth. Mae cael yr allbwn creadigol hwn yn caniatáu i mi ddianc o fy mywyd i fyd dychmygol. Mae ysgrifennu yn helpu’r gorbryder, mae o’n fy ymlacio. Mae o’n rhoi strwythur i fy niwrnod. Awdures ydw i, felly mae angen i mi ysgrifennu llyfrau. Dwi’n eistedd wrth fy nesg ar ôl gollwng y plant yn yr ysgol ac yn ysgrifennu. Mae ysgrifennu yn dod â mwynhad i fy mywyd.

Rhedeg – Mae fy therapydd wedi dangos yr effaith bositif mae ymarfer corff yn ei gael ar iechyd meddwl. Mae hi wedi fy nghyflwyno i redeg. Mae rhedeg yn cael fi allan o’r tŷ. Mae o’n clirio fy mhen. Dwi’n cysgu’n well os ydw i wedi bod allan yn rhedeg. Mae o wedi gwneud i mi gysylltu â byd natur, ac mae o’n rhoi tawelwch meddwl i mi.

Derbyn – Dwi’n araf ddysgu derbyn y person ydw i erbyn hyn. Dydw i ddim yr un person ag oeddwn i o’r blaen, ond mae hynny’n iawn. Mae ‘na dal i fod dyddiau tu hwnt o anodd, ond dwi hefyd yn cael dyddiau ocê.

Galaru – Mae galaru yn naturiol ac yn angenrheidiol. Dwi’n gadael i fy hun deimlo’n drist a chrio. Dwi’n gadael i fy hun i orwedd ar fy ngwely a cholli fy hun am ychydig mewn atgofion o Ned. Dwi’n gwneud be sy’n teimlo’n iawn i fi e.e. cadw ceiniogau lwcus mewn jar i Ned, gan mi oedd wrth ei fodd yn dod o hyd iddynt, cynnau cannwyll ar ei ben-blwydd a chanu ‘Pen-blwydd Hapus’.

Dydy byw gyda galar ddim yn hawdd. Mae bywyd yn wahanol iawn ers colli Ned. Dwi ddim yr un person ag oeddwn i gan fod galar yn rhan ohonof , ac mi fydd am weddill fy mywyd. Dwi’n trio peidio meddwl am y dyfodol pell – mae o’n ormod. Dim ond byw o ddydd i ddydd a ffeindio mwynhad mewn pethau bach. Dyna ydi byw gyda galar.


Sara Maredudd Jones: Mae angen siarad

Mae’n rhywbeth sydd am ddigwydd i bob un ohonom ni, ond mae’n dal yn un o’r pynciau hynny sy’n cael ei weld fel tabŵ.

Cefais y cyfle i rannu fy mhrofiad o golli Mam bron i 10 mlynedd yn ôl yn y gyfrol ddiweddar, Galar a Fi. Roedd gan bob un ohonom ein stori bersonol, ond pob un â rhywbeth yn gyffredin. Ar y pryd, roedd fy nghariad newydd golli ei dad a bu’n rhaid i mi nid yn unig edrych a cheisio dygymod â fy sefyllfa i yn iawn (rhywbeth efallai nad oeddwn wedi gwneud ynghynt) ond hefyd, bod yn gefn i rywun oedd yn mynd trwy rywbeth ofnadwy. Mi fydd pob un ohonom yn adnabod rhywun fydd yn colli rhywun agos, ac mae unrhyw un sy’n rhan o hyn angen rhyw fath o gefnogaeth. Felly, pan ddigwyddodd hyn iddo ef, y peth cyntaf ar fy meddwl i oedd ei gefnogi. Ond o edrych yn ôl, dwi’n sylwi pa mor bwysig oedd y gefnogaeth ges i gan fy nheulu a’m ffrindiau hefyd. Ac efallai eu bod nhw’n poeni amdana i ac angen rhywun i’w cefnogi nhw…ac mae’r cylch yn mynd ymlaen, ac ymlaen! Mae’r theori yma (grief ring theory) yn rhywbeth sy’n berthnasol i bawb ac felly, mae’n siŵr fod galar ar ryw lefel yn effeithio pob un ohonom rŵan hyn.

Gan ei bod hi’n Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Galar, dwi wedi penderfynu canolbwyntio ar rai o’r pethau o’n cwmpas ni heddiw sydd wedi bod o fudd i fi ac yn gallu cynnig cymorth. Dwi’n ffan enfawr o bodlediadau, ac yn credu y dylai pawb wrando ar y canlynol. Hyd yn oed os nad ydych chi’n meddwl eu bod nhw’n berthnasol i chi – jyst trïwch nhw!

How Do You Cope with Elis and John, BBC 5 Live: Mae’r Cymro Elis James yn gomedïwr ac yn cyflwyno rhaglen radio ar BBC 5 Live bob prynhawn Gwener gyda’i ffrind, y comedïwr John Robins. Maen nhw wedi bod yn gwneud sioe radio ers blynyddoedd bellach, ac mae trafod iechyd meddwl yn rhan hollol naturiol o’u perthynas, ac o ganlyniad, y sioe hefyd. Mae’r podlediad newydd yma yn edrych ar sut mae pobl adnabyddus wedi delio â phrofiadau bywyd gan gynnwys galar, iselder, gorbryder, insomnia, seicosis ac iselder ôl-enedigaeth, alcoholiaeth ac ati. Ydyn, mae’r pynciau’n ddwys ond mae gallu’r ddau yma i drafod a sgwrsio am y dwys a’r doniol yn hollol lyfli ac mae’r da maen nhw’n ei wneud yn y maes yma yn syfrdanol.

Griefcast: Podlediad yn trafod marwolaeth a galar gyda’r comedïwr Cariad Lloyd yw Griefcast. Mae’n sgwrsio â chomediwyr eraill am eu profiad nhw o’r boen, y golled a’r pethau od sy’n digwydd pan mae rhywun yn marw. Mae’n ddoniol, yn chwa o awyr iach ac yn gallu cynnig cysur amhrisiadwy.

Mae sawl llyfr hefyd ar gael sy’n gallu cynnig cymorth. Y prif un dwi eisiau tynnu sylw tuag ato yw This Book Could Help: The Men’s Head Space Manual. Mae’r ystadegau am ddynion sy’n marw o ganlyniad i salwch meddwl yn aruthrol, ac mae’r llyfr yma (mewn cydweithrediad â’r elusen Mind) wir yn arbennig ac mi ddylai bob dyn (a dynes!) ei ddarllen.

Mi ‘nes i grybwyll Galar a Fi uchod, ac mae pwysigrwydd y llyfr yma i ni yng Nghymru yn amlwg, a diolch i’r Lolfa ac Esyllt Maelor am y gwaith aeth i mewn i’r llyfr yma.

Mi ddes i ar draws y pamffled yma gan yr elusen Cruse i blant wedi i rywun farw. Amcangyfrifir fod o leiaf 21,000 o blant a phobl ifanc yng Nghymru o dan 18 wedi profi marwolaeth rhiant, brawd neu chwaer, a bod o leiaf 37,000 wedi profi colli ffrind neu aelod agos arall o’r teulu. 17 oed oeddwn i pan gollais i Mam ac mae’n holl bwysig i’n hysgolion, colegau a’n prifysgolion dderbyn hyfforddiant i allu delio â hyn pan mae’n digwydd (a’r blynyddoedd sy’n dilyn) a chynnig man diogel a chymorth allweddol:https://www.cruse.org.uk/sites/default/files/default_images/pdf/Free-leaflets/CYPWalesLeaflet.pdf

Myfyrdodau: Mae ‘na lot o apiau gwych ar gael (Calm, ac mae Ap Cwtsh yn Gymraeg hefyd!). Dwi’n trio creu awyrgylch hamddenol a dilyn myfyrdodau tywysedig bob hyn a hyn drwy ddefnyddio YouTube. Mae’n teimlo’n hollol ryfedd weithiau, ond dwi’n gweld gwahaniaeth ar ôl gwneud. Dwi hefyd wedi bod yn defnyddio myfyrdodau cwsg bob hyn a hyn, ac os ydych chi’n mynd trwy gyfnod o fethu cysgu, mae’r fideos yma gan Michael Sealey sicr werth trio: <https://www.youtube.com/watch?v=hvOgpzRJxJg&gt;

Mae’n siŵr mai un o’r pethau sy’n taro rhywun am y rhain yw eu bod nhw trwy gyfrwng y Saesneg. Mi ydyn ni’n hynod lwcus o wefan Meddwl a diolch i’r rhai hynny sy’n rhedeg y wefan bwysig yma yn eu hamser sbâr. Mae’r erthyglau a’r digwyddiadau sy’n cael eu trefnu ganddynt yn wirioneddol wych, ac mae’n rhoi sylw teg i bob math o salwch neu gyflwr iechyd meddwl (gan gynnwys galar).

Gobeithio drwy ehangu’r sgwrs am alar ac iechyd meddwl, fel sy’n digwydd yn gynyddol yn y blynyddoedd diwethaf, y gallwn ehangu ar y deunydd sydd ar gael yn Gymraeg. Er bod pethau i weld yn dywyll weithiau, mae’n bwysig cofio fod gan bob un ohonom iechyd meddwl. Ac mae ‘na bethau ar gael i ni gyd i geisio dygymod â’n teimladau a’n profiadau gyda’r gobaith o normaleiddio’r sgwrs ymhellach.


Galar a Fi - Esyllt Maelor

Galaru yw’r ymateb greddfol ar ôl colli rhywun sy’n annwyl. Mae person sy’n galaru yn mynd trwy ystod eang o emosiynau, ac er bod y teimlad o alar yr un peth i bawb, mae’r hiraethu yn gallu effeithio ar bobl mewn gwahanol ffyrdd.

Dyma ymateb 14 o bobl sydd wedi bod trwy’r camau o alaru ar ôl colli brawd, chwaer, ffrind, mab, merch, tad, mam neu gymar. Mae stori pob un yn unigryw ac yn ddirdynnol.

 

 

Ymdriniaeth agored, sensitif, ond cignoeth o alar sydd yma; pwnc sydd wedi bod yn un i ddelio ag o tu ôl i ddrysau caedig ers blynyddoedd. Ydi o’n hawdd ei ddarllen? Nac ydi. Ond mi fyddwn i’n dadlau mai dyma un o’r pethau pwysicaf darllenwch chi fyth.

Y Stamp

O’r gyfrol Galar a Fi:

Mae geiriau fel hyn yn gallu brifo:

Maen nhw yn well eu lle.

Rhaid i ti symud mlaen.

Dwi’n deall sut wyt ti’n teimlo.

Mae angen i ti ailafael mewn pethau.

Bydd pethau’n gwella gydag amser.

Mae yna reswm tu ôl i bopeth.

Paid â throi pob dim yn dy feddwl.

Mi ddoi di drosto.                                                                                                

Ti yw ‘dyn’ y tŷ rŵan. Rhaid i ti fod yn gefn i…

Mae geiriau fel hyn yn gallu cynnal:       

Does gen i ddim syniad sut wyt ti’n teimlo.

Fedra i ddim cynghori ond mi fedra i wrando.

Dw i yma i chdi.

Na i ddim anghofio am…

Dwi’n meddwl y byd ohonot ti.

Sut fedra i helpu? Oes yna ffordd fedra i helpu?

Be fedra i wneud i ti?     

Roedd gen i feddwl mawr o…

Be arall fedra i ei wneud?

  • Bydd yn glust. Bydd yn barod i wrando. Y peth gwaetha fedri di ei wneud yw siarad am dy bethau dy hun, felly meddwl cyn siarad!
  • Cofia gadw mewn cysylltiad. Galwa. Ffonia. Anfon neges destun. Mae peidio cysylltu yn brifo. Paid â dweud, ‘Cysyllta os wyt ti angen rhywbeth,’ – anodd yw gwneud hynny. Cysyllta di!
  • Siarad am y person sydd wedi marw. Cofia wneud hynny.
  • Beth am gynnig helpu? Gwarchod y plant/siopa/gwneud neges/bod yn gwmni dros baned/mynd allan am bryd o fwyd/ mynd am dro…
  •  Mae bod yn gefn i rywun sy’n galaru yn un o’r cymwynasau mwyaf un. Bydd yn cael ei werthfawrogi am byth.

Mae Galar a Fi ar gael nawr (£7.99, Y Lolfa)

www.ylolfa.com

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s