Blas | Cicio’r Bwced gan Marlyn Samuel

Cicio'r Bwced - Marlyn SamuelMae Cicio’r Bwced gan yr awdures Marlyn Samuel yn gyfoes, lawn hwyl ac iddi linyn storïol gref .

Nofel am hynt a helynt dwy wraig, Menna a’i ffrind Jan. Ar ôl ymadawiad disymwth ei gwr Glyn, wedi trawiad angheuol, mae Menna sydd yn ei saithdegau cynnar fel petai’n cael ei gollwng yn rhydd i fwynhau bywyd, a chariad, am y tro cyntaf.

“Ro’n i’n crio un munud a chwerthin y munud nesa!” – Linda Brown


Dach chi’n siŵr mai dim boddi nath o?

Bob bore Sul yn ystod yr oedfa, byddai meddwl Menna’n crwydro. Yn hytrach na phendroni am bethau megis ai toupee ynte gwallt go iawn oedd gan y pregethwr ar ei ben, neu lunio rhestr siopa bwyd ar gyfer yr wythnos honno, mi fyddai Menna’n meddwl am wahanol ffyrdd o ladd ei gŵr.

Rhoi waldan wyllt iddo efo coes cig oen oedd y ffefryn. Mi feddyliodd am honna wrth iddi dynnu coes allan o’r rhewgell un nos Sadwrn. Gallai fwyta’r arf efo cabets coch a mint sos a fyddai neb ddim callach. Roedd hi hefyd wedi llygadu’r clwstwr o fyshrwms amheus yng nghornel yr ardd. Gallai ffrio ychydig o’r rheini efo menyn a’u rhoi nhw i Glyn efo iau a grefi nionyn, ei ffefryn. Pa ffordd well i adael y fuchedd hon, meddyliai, nag ar ol gwledda ar ei hoff ffidan? Opsiwn arall, wrth gwrs, fyddai llacio’r carped ar ris ucha’r grisiau, un bagliad sydyn a dyna ni.

Bob tro y byddai meddyliau hyll fel hyn yn llenwi ei phen, byddai ’na ias oer yn rhedeg i lawr ei chefn. Fel petai ’na rywun yn cerdded ar ei bedd. Gwyddai’n iawn fod pendroni am feddyliau fel hyn yn gwbl wrthun. Yn beth uffernol a dweud y gwir. Fyddai hi’n synnu dim petai ’na fellten yn ei tharo’n gelain yn y fan a’r lle. Dylai hi gael ei charcharu am oes am hyd yn oed meddwl ffasiwn bethau. Premeditated myrder. Dyna be oedd hi’n euog ohono. Oedd meddwl am ladd eich gŵr yn gyfystyr a chyflawni’r weithred ei hun? Yn yr un modd, a oedd meddwl am odinebu yn gyfystyr a godinebu go iawn?

Rhyw feddyliau fel hyn oedd yn mynd rownd a rownd ym mhen Menna wrth iddi chwilio am yr emyn nesaf yn Y Caniedydd ac yna codi ei gorwelion tuag at Glyn yn morio canu yn y sedd fawr. ‘Na ladd.’ Roedd Menna’n eithaf saff mai dyna be oedd o’n ei ddweud yn y Beibl. Ond eto, doedd hyd yn oed hynny ddim yn ei stopio rhag meddwl am wahanol ffyrdd o ladd ei gŵr.

Un pnawn Sadwrn glawog, a Glyn wedi dweud wrth Menna ei fod yn mynd i bysgota, gwireddwyd ei dymuniad. Galwodd plismon ifanc heibio i dorri’r newyddion bod ei gŵr wedi cael trawiad angheuol. Prin y gallai atal ei hun rhag ei gofleidio a rhoi clamp o sws iddo.

‘Trawiad, ddudoch chi?’ meddai Menna’n syn, a hithau wastad wedi meddwl mai damwain car fyddai Glyn yn ei gael.

Nodiodd y plismon bach ei ben gan lyncu ei boer. Hwn oedd y tro cyntaf iddo orfod torri newyddion drwg i aelod o’r teulu ac mi roedd o’n cachu planciau.

‘Dach chi’n siŵr mai dim boddi nath o?’

‘Boddi?’

‘Wrth ddisgyn i mewn. Ella ei fod o wedi cael trawiad ond mai boddi nath o. Neu ei fod o wedi cael trawiad ar ol iddoddisgyn i’r dŵr oer.’

‘Ma’n ddrwg gin i? Dwi ddim cweit efo chi, Mrs Wilias.’

Nid yn unig roedd plismyn yn mynd yn fengach, redden nhw’n mynd yn fwy dwl hefyd, meddyliodd Menna. ‘Boddi yn yr afon, ’te. Nath o ddim disgyn i mewn? Wedi mynd i sgota o’dd o, dach chi’n gweld… Ta waeth, mae o wedi marw beth bynnag, tydi?’

‘A’th yr ambiwlans a fo i’r ysbyty o 16 Maes y Wern, ddim o lan unrhyw afon, Mrs Wilias. Mi ffoniodd Miss Tracey Donnelly yr ambiwlans a dweud bod Mr Glyn Wilias wedi colapsio tra roedd y ddau’n…’

Cochodd y PC at ei glustiau ac aeth ei ddwy lygad yn fawr fel dwy soser. Llyncodd ei boer. Gwyddai ei fod wedi rhoi ei ddwy droed yn y cach go iawn. Roedd hi’n glir fel jin mai sgota am fath arall o sgodyn oedd yr hen Glyn.

‘O’dd o wedi’n gada’l ni cyn cyrradd yr ysbyty’n anffodus.’ Aeth y plisman bach yn ei flaen. ‘Mi driodd y paramedics neud bob dim gallen nhw, Mrs Wilias.’

‘Gymrwch chi banad a thamad o Fictoria sbynj cec?’ gofynnodd Menna heb droi blewyn. ‘Bora ’ma ’nes i hi. Dowch, fytith Glyn mohoni hi rŵan.’

Felly, rhag brifo teimladau gweddw newydd, a gan ei fod ar ei gythlwng, bwytodd ddarn nobl o’r sbynj yn harti. Golchwyd y cwbl i lawr efo mygiad mawr o de.

‘Fysach chi licio i ni gysylltu efo aelod arall o’r teulu?’ holodd rhwng cegaid o’r Fictoria sbynj.

‘Dim diolch i chi, ngwas i,’ atebodd Menna’n ol gan wenu. ‘Mi ffonia i Michael y mab, ar ol ffonio’r ymgymerwr. Yn Nhreorci mae o a Carol ei wraig yn byw. Pell dio, ’te? Ma’n gynt mynd i Lundain ar y tren, tydi? Gymrwch chi ddarn bach arall o sbynj? Dewch yn eich blaen…’

Felly ar ol tafell arall o Fictoria sbynj a mygiad arall o de, dychrynodd y plisman pan sylweddolodd faint o’r gloch oedd hi. Mi fyddai’r sarjant yn methu deall lle roedd o wedi

bod gyhyd. Gallai ddweud bod Mrs Williams wedi ypsetio’n ofnadwy ar ol clywed y newyddion ac iddo orfod aros efo hi am sbel i’w chysuro. Laddodd ychydig o gelwydd golau neb erioed.

‘Dach chi’n siŵr y byddwch chi’n iawn ar eich pen eich hun?’ gofynnodd ar ei ffordd allan.

‘Byddaf tad, ngwas i. Mi fydda i yn champion rŵan.’

Sylwodd fod gwen fawr lydan ar wyneb Menna.

Graduras fach, meddyliodd wrth yrru i ffwrdd. Roedd hi’n amlwg mewn sioc. Dim dyma ymarweddiad arferol gweddw oedd newydd golli ei gŵr. Yn enwedig gŵr oedd wedi cicio’r bwced mewn amgylchiadau llawn cywilydd ac embaras. Roedd y boi yn ei saithdegau’n bell, er mwyn dyn – dim rhyfadd ei fod o wedi cael y farwol. Hen gi drain iddo, yn twyllo ei wraig fach fel’na, meddyliodd wedyn. A honno’n sgit am wneud sbynjys.


Mae Cicio’r Bwced gan Marlyn Samuel ar gael nawr (Y Lolfa, £8.99)

www.ylolfa.com

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s