Blas o nofel | Tom gan Cynan Llwyd

Tom - Cynan LlwydMae Tom gan Cynan Llwyd yn nofel gyfoes, dinasol sy’n dilyn bywyd cymhleth Tom. Ei ddau ffrind yw hen ddyn 80 oed ac Ananya. Nid yn unig mae e’n gorfod ymdopi â phroblemau fel unrhyw berson ifanc yn ei arddegau, ond mae hefyd ganddo obsesiwn â glendid, darllen hen gomics a chwarae’r gêm Alien Death 2. Mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth pan mae Kev, Dez a Baz yn gofyn i Tom wneud ffafr drostyn nhw.

“Trais, anwyldeb, tlodi a chyfeillgarwch – dyma nofel rymus, ddinesig, a wnaeth i mi ddal f’anadl o’r dechrau i’r diwedd. Mae Cynan yn awdur cyffrous.”

– Manon Steffan Ros

“Mae’r sgwennu yn glir, yn fywiog ac yn llawn hiwmor… Ro’n i wrth fy modd efo hi, oherwydd y cyffro a’r perygl sydd ynddi yn sicr, ond hefyd oherwydd yr anwyldeb a’r caredigrwydd a’r cariad. Clincar o nofel.”

– Bethan Gwanas, Blog lyfrau Bethan Gwanas

“Er mai nofel fer yw Tom, mae yma gyfoeth o themâu yn brigo i’r wyneb a digon i’w drafod. Mewn gair – gwych!”

– Ion Thomas, Cylchgrawn Barn


Gall Dai dostio bara yn berffaith. Mewn cystadleuaeth Tostiwr y Byd, Dai fyddai’r pencampwr, a lluniau ohono’n ymddangos ar dudalen flaen pob papur newydd. Torra’r tost yn drionglau fel pyramidiau’r Aifft. Dwi’n siãr ei fod e wedi astudio ym Mhrifysgol Dost y Byd flynyddoedd maith yn ôl.

Dyma’i dechneg:

– Bara gwyn trwchus.

– Tostio am 2 funud 36 eiliad, gan adael i’r gril roi lliw haul ysblennydd y Caribî i’r bara.

– Taenu menyn go iawn yn drwchus hyd at ymyl y crwstyn gyda phob milimetr wedi’i gorchuddio, fel artist yn peintio canfas.

– Ei weini gyda gwydryn o laeth hanner sgim.

Does dim byd gwaeth na thost anaemig sydd mor wyn a llipa â Mini Milk yn toddi yn yr haul. Y lliw yw’r prawf litmws. Dyna sut y gwyddoch chi fod y bara wedi troi’n dost. Rhaid perffeithio’r grefft o dostio darn o gardfwrdd blas glo. Pe bai Dai yn archarwr, Toastman fyddai ei enw, a’i bŵer cudd fyddai saethu menyn stici a llithrig o’i fysedd gan achosi i’w elynion syrthio’n bendramwngl i’r llawr wrth iddo redeg ar eu holau. Bydden nhw’n gwingo mewn poen, a’r menyn yn eu gorchuddio a’u gludo i’r llawr. Fyddai dim gobaith iddyn nhw ddianc!

“Sut ddiwrnod gest ti yn ’rysgol heddi, Tom?” gofynna Dai.

Dwi wrthi’n stwffio tafell o dost i’m ceg, felly does dim rhaid ateb yn syth. Oedaf i fwynhau’r teimlad o’r menyn yn diferu i lawr fy ngên. Does dim isie poeni am fwyta’n deidi fan hyn, diolch byth. Dim ond Dai a fi sydd yma. Ry’n ni’n ddiogel fan hyn.

“Iawn, diolch,” atebaf yn gelwyddog.

Sw yw’r ysgol, yn llawn anifeiliaid gwyllt sy’n carlamu ar hyd y coridorau, yn cicio coesau a bagiau, yn gwthio ac yn gweiddi ac yn cadw stŵr a chreu anhrefn. Dwi’n casáu pob sw. Alla i ddim godde’r syniad o anifail yn styc mewn cawell. A’r sŵn! Yr udo, y sgrechian a’r cyfarth! Pe bawn i’n archarwr, un o’m pwerau cudd i fyddai’r gallu i daro pawb yn fud am ychydig. Fyddwn i ddim isie i bawb fod yn fud am byth, wrth gwrs. Weithiau mae angen cysur geiriau caredig arnom yn yr hen fyd ’ma. Dwi’n casáu’r stŵr ar hyd y coridorau cul ac ni allaf oddef anhrefn. Gas gen i weiddi a gas gen i dorfeydd. Mae’n gas gen i gael fy ngwthio a gas gen i’r anifeiliaid rheibus hynny sy’n hela’r ysglyfaeth gwan. Fi yw’r ysglyfaeth. Kev, Dez a Baz yw’r pac o helwyr. Nhw yw’r bleiddiaid   sy’n patrolio coridorau’r ysgol, yn sniffian am waed.

Tafla Dai olwg amheus ataf ac mae ei lygaid caredig yn awgrymu nad yw e wedi llyncu fy nghelwydd. Ond mae e wedi penderfynu peidio holi ymhellach. Mae Dai yn gwybod sut i fy nhrin i. Mae Dai yn deall. Mae’n gwybod pryd i holi ac yn gwybod pryd i ddal ei dafod, yn gwybod bod angen trefn arna i er mwyn i mi deimlo’n saff ac mewn rheolaeth. Dyna pam bod Fflat 29, cartref Dai, yn nefoedd ar y ddaear i fi. Ydy, mae’r fflat yn ddiflas ar yr olwg gyntaf. Waliau magnolia. Cegin syml. Lle i bopeth a phopeth yn ei le. Dyma fy Nirfana. Dim papurach blêr, dim ond cymesuredd dau gi tsieina balch, lluniau mewn fframiau hirsgwar gyda dwy fodfedd union rhwng pob un, a thrysorau plastig o hen wyliau tramor yn sefyll fel milwyr disgybledig ar y silff ben tân.

Ond y tu ôl i’r drws pren, yr ochr draw i’r ystafell fyw, mae yna garnifal o gomics. Dyna’r moddion perffaith i glirio’r pen o lanast yr ysgol. Batman. Spiderman. X-Men. Watchmen. Swamp Thing. Wonder Woman. The Flash. Bydoedd lliwgar o arwyr. Y da wastad yn trechu’r drwg. Fflachiadau’r tarianau yn torri trwy’r düwch. Y dihirod yn ffyddiog eu bod am ennill y dydd nes bod Batman â’i glogyn, neu Spiderman â’i we neu Wonder Woman â’i chryfder yn eu trechu. Bu Dai wrthi’n casglu ac yn trysori’r rhain ers blynyddoedd, ers iddo fod yr un oedran â fi, medde fe. Bob nos, yn ofalus, ofalus, caf bori trwy’r trysorau hyn a bodio’r tudalennau prin. Llyncaf bob llun, teimlaf bob pwniad a gwingaf pan gaiff y gelyn ei haeddiant.

“Sut oedd Bingo heddi, Dai?”

“Dim lwc! Cas Brian full house eto – y diawl lwcus!” Chwardda Dai, â’i geg yn agor ac yn cau fel pysgodyn, gan ddangos gwên ddiddannedd ddireidus.

Chi’n gweld, mae Dai yn 81 mlwydd oed.

Dyna pam fod cyfeillgarwch Dai a fi yn un arbennig iawn. Nid bob dydd y daw bachgen ysgol pymtheg mlwydd oed a dyn yn ei wythdegau yn ffrindiau. Does dim llawer yn gyffredin rhyngddon ni, a dweud y gwir.

Dwi’n mynychu Ysgol Uwchradd Caercoed rhwng 8.30 y.b. a 3.00 y.p. Mae Dai yn rhannu ei amser rhwng McDonalds a Castle Bingo, lle mae’n mwynhau gwydryn o Shandy a phecyn o Pork Scratchings. Dyw’r ffasiwn bwyta’n iach yn golygu dim iddo fe.

Rhwng 3.05 a 3.35 byddaf yn cerdded adre o’r ysgol, yn brysio heibio stad dai Tycoed, yna trwy’r parc lle mae’r biniau’n gorlifo, y gwair heb ei dorri, y pyst pêl-droed rhydlyd a’r graffiti yn dweud yn glir wrth bawb ble i fynd.

Rhwng 3.35 a 3.45 byddaf yn dringo’r grisiau ac yn cerdded ar hyd coridorau concrit Caercoed, bob cam yn ceisio osgoi gwm cnoi, baw ci neu boerad gwlyb, a’r gwifrau trydan yn hongian o’r nenfwd fel offer arteithiwr. Dwi’n esgyn yr holl ffordd lan i’n llawr ni, llawr 9. Dyma ble mae Fflat 17, ein fflat ni.

Fi a Mam. Mam a fi.

Mae’r lifft yn fwy simsan na thŵr Lego a fentra i ddim reidio ynddo dros fy nghrogi. Dychmygwch yr hunllef o gael eich cau mewn bocs rhwng llawr a nef, a chael eich gadael yn hongian mewn caets rhydlyd a drewllyd. Dringo’r grisiau sydd raid. Bob dydd.

Wedyn, rhwng 3.45 a 3.47 bydd Mam yn gollwng ffrwydriad o gusanau gwlyb a chwtshys egnïol arnaf – yr un ddefod bob dydd. Gwnaf sioe o ddianc o’i chrafangau glityr pinc, ond dwi’n mwynhau’r eiliadau hyn, a bod yn onest.

Erbyn 4.00 bydd bîns, chicken nuggets a sglods wedi eu sodro ar blât ar fwrdd y gegin, a gyda bola llawn o ffa pob (a gwynt) dechreuaf daclo fy ngwaith cartref erbyn 4.30.

Yna, am 5.30 rhaid i Mam adael am y gwaith. Dyna pryd caf fod ar fy mhen fy hun, ar goll ym myd dychmygol Alien Death 2 yn lladd angenfilod o fydoedd pell yn y ffyrdd mwyaf treisgar y gallwch chi eu dychmygu. Gallaf ddelio â hynny am mai dychmygol a ffantasïol yw’r cwbl. Gallaf ddianc o’r byd go iawn ac anghofio am Kev, Dez a Baz am ychydig.

Wedyn, ar ôl blino ar fy nghwmni i fy hun ac er mwyn osgoi cael llygaid sgwâr mentraf draw i Fflat 29, at Dai â’i wên ddiddannedd, ei dost pyramidaidd a’i gŵn tsieina. Mae’r ddau ohonon ni’n mwynhau cwmni’n gilydd, yn gwledda ar dost, ac ar ôl golchi’n dwylo’n ofalus, dewiswn gomic i’w ddarllen.

Yna, am 8 y.p. bydd Dai yn ailwisgo’r comic yn ei siaced blastig a’i roi yn ôl yn y man cywir a chau’r drws ar fyd rhyfeddol yr archarwyr. Tan tro nesaf.

“Nos da, Dai!“ gwaeddaf o ddrws ei fflat.

“Nos da, Tom bach! Tan yfory!” a’r gwahoddiad yn y ffarwél.

Dwi’n cau’r drws ac mae hymian distaw’r gwresogydd ac arogl tost Fflat 29 yn diflannu’n syth. Clywaf seirenau swnllyd a chanu corn diamynedd traffig y ddinas. Mae aroglau cachu cŵn a sigaréts yn fy nilyn ar hyd y coridor, ac i lawr y grisiau yr af yn ddistaw, ddistaw bach.

Pam mor dawel?

Dwi’n ddigon anffodus i fyw yn yr un bloc â’r bleiddiaid.

Y tri ohonyn nhw, yn eu harfwisgoedd plastig a’r llinellau moel wedi eu siafio i’w penglogau, fel creithiau o hen frwydrau, sy’n rheoli Caercoed. Nhw sy’n penderfynu a oes croeso i chi yma neu beidio. Nhw sy’n penderfynu a ydych chi’n ffitio i mewn – neu beidio. Os ydych chi’n edrych yn wahanol, yn siarad yn wahanol neu’n ymddwyn yn wahanol, bydd Kev, Dez a Baz yn sicrhau mai un hunllef hir fydd eich bywyd bach pathetig.

Dyna pam dwi’n cropian i lawr y grisiau, yn ddistaw, ddistaw bach.

Un.

Cam.

Ar.

Y.

Tro.

Dyna pam dwi’n sbecian yn slei rownd y gornel, yn llygadu drws Fflat 17 ac yn ochneidio mewn rhyddhad wrth weld bod y coridor yn wag.

Camaf yn hyderus tuag at ddrws ein fflat ni, eisoes yn cynllwynio strategaeth i saethu angenfilod Alien Death 2 yn rhacs jibidêrs. Wedyn sylweddolaf nad ydw i wedi bod yn ddigon gofalus ac mae cwlwm yn cau’n dynn am fy stumog a’m dwylo’n dechrau chwysu. Rhewaf yn yr unfan, un goes o flaen y llall fel cerflun o redwr Olympaidd, wrth i lais dwfn Kev a chwarddiad anifeilaidd Dez dorri ar y tawelwch. Gwelaf wyneb hyll Baz ym mhen draw’r coridor ac yna, gyda cham a naid, mae’r tri blaidd yn sefyll gyferbyn â mi. Gweddïaf ar dduwiau’r comics am y ddawn o fod yn anweledig, ond na, ry’n ni’n dal yma, yn llygadu ein gilydd fel cowbois mewn stand off o flaen y salŵn. Dim ond drws Fflat 17 sydd rhyngon ni, ac mae’r bleiddiaid eisoes yn synhwyro’r ofn, ac yn llyfu eu gweflau wrth ddychmygu blasu’r gwaed. Gallaf deimlo’r tensiwn yn yr awyr.

Mewn amrantiad mae’r pedwar ohonon ni ar ras – fi am ddiogelwch y drws a nhw wrth fy sodlau, yn dangos eu dannedd ac yn ysgyrnygu. Diolch i’r drefn bod fy nghorff wedi cofio sut i symud eto!

“Tom, boyo!” Adleisia lleisiau’r tri i lawr twnnel y coridor a sŵn eu traed fel cleciadau gwn ar y llawr caled.

Ond dwi’n gynt na nhw. Tipyn cynt. Chwyrlïa fy nghoesau fel propelor hofrennydd a dwi tu allan i’r drws, yn stwffio’r allwedd i mewn i’r clo, ac yn cwympo i’r llawr fel sach o datws wrth i’r drws gau’n glep y tu ôl i fi. Teimlaf y drws yn griddfan o dan eu pwysau ac mae grym eu ymosodiad i’w weld wrth i’r fframyn wingo dan straen eu dyrnau. Rhoddaf gic i’r drws gan ddychmygu ’mod i’n stampio ar wynebau Kev, Dez a Baz.

Ydyn nhw’n mynd i gicio’r drws i lawr a’m llyncu’n fyw?

Dwi’n clywed eu hanadlu dwfn, eu hisian dieflig a’u rhegi brwnt a dim ond drws digon simsan sy’n ein gwahanu. Gwelaf eu cysgodion yn dawnsio’n ddieflig ar y stribed o olau sy’n ymwthio o dan y drws.

“Gewn ni ti fory, Tom! Watsia di dy hun!”

Caf ddianc am heno o leiaf.

Codaf o’r llawr a rhuthro i’m stafell wely â’m calon ar garlam. Caf groeso yma gan fy mhosteri a’r ffigyrau o’m hoff archarwyr â’u cyhyrau cartwnaidd a’u harfau arallfydol. Teimlaf fy nghalon yn arafu a threfn yn dechrau dychwelyd i fy myd. Ddaw dim niwed i mi yma gyda Superman a Batman yn gwarchod y drws. Pwy feiddia dorri i mewn, a Wonder Woman yn gwylio o’r nenfwd?

Dwi’n dechrau teimlo’n gartrefol wrth i mi droi’r cyfrifiadur ymlaen a setlo i sesiwn newydd o ladd angenfilod nes daw Mam adre. Ond Duw a ŵyr pryd fydd hynny.


Mae Tom gan Cynan Llwyd ar gael nawr (Y Lolfa, £5.99)

www.ylolfa.com

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s