Blas o’r nofel | Efa gan Bethan Gwanas (Cyfres y Melanai)

y melanai copyEfa yw’r nofel gyntaf mewn trioleg gan yr awdures boblogaidd Bethan Gwanas. Mae’r drioleg yn addas ar gyfer yr arddegau cynnar i fyny (11+).

Mae Efa yn ddarpar frenhines gwlad Melania ond mae hi’n gyndyn i ddilyn yr hen draddodiadau, gan gynnwys lladd ei mam, y frenhines, ar ei phen-blwydd yn 16 oed. Yn y stori, dilynwn Efa yn brwydro yn erbyn ei thynged ei hun.

Gwyliodd Efa’r pilipala yn glanio’n dlws ar flodyn oedd hyd yn oed yn dlysach. Oedd, roedd o’n bilipala hardd iawn, yr harddaf iddi ei weld erioed, mae’n siŵr, ac roedd hi wedi gweld miloedd ar filoedd o bilipalod rhyfeddol o dlws dros y blynyddoedd. Roedd hi bron yn un ar bymtheg oed rŵan, felly rhyw ugain… na, tri deg pilipala rhyfeddol bob diwrnod ar gyfartaledd; dyna i ni 30 x 365 diwrnod = 10,950 pilipala bob blwyddyn. Roedd hi bellach wedi gweld cyfanswm o 175,200 pilipala rhyfeddol.

‘Helô, pilipala rhif 175,201,’ meddai’n uchel. ‘Be wyt ti’n feddwl o ’ngallu mathemategol i, y?’

Ond chafodd hi ddim ateb, wrth gwrs. Pilipala oedd o. Ochneidiodd yn uchel.

‘Mae’r lle ’ma’n ddiflaaaaas!’ meddai. ‘Mae ’mywyd i’n ddiflas! Mae pob dim yn hollol, gwbl ddiflas!’

Dychrynodd y pilipala a chodi i’r awyr gan fflapian ei adenydd coch, pinc a phiws yn ei ffordd arferol, hyfryd o urddasol.

‘Stwffio ti ’ta,’ meddai Efa, gan ei ddilyn gyda’i llygaid duon.

Daeth aderyn glas o nunlle mor gyflym, doedd gan y pili pala ddim siawns o fath yn y byd. Gwasgodd yr aderyn ei big melyn am gorff y pryfyn a saethu i ffwrdd gan edrych fel petai ei big wedi tyfu adenydd coch, pinc a phiws.

‘O wel, ta ta, pilipala rhif 175,201,’ meddai Efa, oedd wedi dysgu ers tro bod natur yn gallu bod yn greulon, hyd yn oed yng ngardd hyfryd y palas.

Rhowliodd ei llygaid. Roedd hi’n adnabod pob cornel, pob deilen o’r ardd; yn gwybod yn iawn ble roedd pob nyth, yn adnabod siâp pob coeden a chân pob aderyn.

‘Ac mae’r cwbl mor ddiflas,’ ochneidiodd Efa.

‘Be sy’n ddiflas rŵan eto?’ gofynnodd llais y tu ôl iddi: ei chyfaill a’i chogydd, Galena.

Cerddodd Galena tuag ati gyda’r gwydraid dyddiol, arferol o neithdar ffres. Estynnodd y gwydryn i Efa gyda gwên. Cymerodd Efa’r gwydryn a rhowlio ei llygaid eto.

‘Hyn!’ meddai. ‘Mae pob peth yn union yr un fath bob dydd ers pan fedra i gofio – yr ardd ’ma, y palas, y gwersi; gwydraid o neithdar peth cynta bob bore a’r peth ola bob nos —’

‘O, rho’r gorau i dy gwyno!’ meddai Galena. ‘Mae ’na rai yma ym Melania na chawn nhw byth ardd iddyn nhw’u hunain, heb sôn am gael byw mewn palas! Rwyt ti’n cael y gwersi gorau gan y tiwtoriaid gorau, ac mi fyddai pawb arall yn y wlad ’ma yn rhoi’r byd am gael gwydraid o neithdar brenhinol bob bore a nos! Dŵr a chydig o fedd neu win ydy’r mwya gawn nhw, a sbia cymaint o les mae’r holl neithdar yn ei neud i ti!’

Allai Efa ddim gwadu hynny. Roedd hi’n dalach nag unrhyw ferch o’i hoed hi, gyda choesau a breichiau hirion, perffaith, gwddf gosgeiddig, bron fel un alarch, gwallt oedd yn disgyn yn donnau sgleiniog, iach i lawr ei chefn, a chroen llyfn fel afal.

‘Ia, wel,’ meddai’n bwdlyd, ‘dydy byw mewn palas ddim yn fêl i gyd, ac mi fyddai’n well gen i fod yn dwmplen fach gron fel ti, ac efo plorod fel Cara, na bod yn gaeth i’r lle ’ma ar hyd fy oes.’

Cododd Galena ei haeliau arni.

‘“Twmplen fach gron”? Wel, diolch yn fawr am hynna,’ meddai. ‘A dwi’n siŵr y byddai Cara yn falch iawn dy fod ti’n genfigennus o’i phlorod hi.’

‘Do’n i ddim yn ei feddwl o fel’na,’ meddai Efa.

‘Na, dwyt ti byth,’ meddai Galena. ‘Lwcus ’mod i wedi hen arfer efo dy ffordd di o agor dy geg cyn meddwl be sy’n mynd i ddod allan ohoni. Ond nid pawb sydd wedi cael eu magu fel ti, ac mi fydd yn rhaid i ti wella dy sgiliau diplomyddol cyn cael dy neud yn frenhines.’

‘O, paid â’n atgoffa i, bendith mam! Mae’r peth fel maen am fy ngwddw i.’

‘Hen bryd i ti ddod i arfer, tydy?’ chwarddodd Galena.

‘Dim ond chydig fisoedd sydd gen ti ar ôl! Ac wedyn – tadaaa! Ti fydd brenhines newydd Melania!’

‘Dwi’n falch bod rhywun yn edrych ymlaen, achos tydw i ddim,’ meddai Efa.

‘Man gwyn man draw, myn diain i,’ meddai Galena. ‘Mae ’na bobol yn mynd i ryfel i gael pŵer fel yna!’

‘Ond dwi’m isio pŵer fel’na…’

‘Hisht! Paid â siarad mor wirion. Wrth gwrs dy fod ti. A does gen ti ddim rheswm i gwyno ar dy fyd – mae gen ti bob dim! Rwyt ti’n cael gwisgo’r dillad gorau a drutaf yn y deyrnas; mae ’na weision a morynion a chogyddion fel fi yn gweini arnat ti ddydd a nos, a dyma ti – yn cwyno! Callia ac yfa dy neithdar, wnei di?’

‘Dwi’n siŵr nad ydy morwyn i fod i siarad fel’na efo brenhines,’ meddai Efa gyda gwên.

‘Llai o’r “morwyn”! Dwi’n gogydd swyddogol rŵan. A dwyt ti ddim yn frenhines eto, nag wyt? A dwyt ti’n bendant ddim yn ymddwyn fel un. Ro’n i’n meddwl bod dy fam i fod i dy ddysgu di am bethau fel ymddygiad brenhinol?’

‘Ydy. I fod. Ond dwi byth yn ei gweld hi y dyddiau yma, nac’dw? Mae hi mor ofnadwy o brysur drwy’r amser.’

‘Does ganddi ddim llawer o amser ar ôl i neud bob dim, nag oes, chwarae teg. Rŵan, yfa’r neithdar ’na cyn i mi eistedd arnat ti a’i dywallt i lawr dy gorn gwddw di!’

Chwarddodd Efa. Roedd hi wrth ei bodd yng nghwmni Galena, oedd wedi bod yn fwy o ffrind na morwyn iddi erioed, ers i’r ddwy gael eu geni o fewn deufis i’w gilydd a chael eu magu yn y palas. Roedd mam Galena angen canolbwyntio ar ei gwaith fel cogydd a mam Efa angen canolbwyntio ar fod yn frenhines, ac roedd gadael i’r ddwy fach chwarae gyda’i gilydd yn gyfleus i bawb.

‘Pam na wnei di gymryd sip bach ohono fo, os ydy o’n gneud cymaint o les?’ meddai Efa gyda gwên ddrwg.

‘Cha’ i ddim, ti’n gwybod hynny’n iawn.’

‘Ond ddeuda i ddim gair wrth neb. A phwy a ŵyr, efallai y tyfith y coesau bach tewion ’na ryw fymryn wedyn…’

‘Ha! Fiw i mi!’

‘Ond ti jyst â marw isio’i flasu o, dwyt? A deud y gwir, mi fyddai’n syniad i ti ei flasu o cyn fi bob tro, rhag ofn bod rhywun wedi’i wenwyno fo…’

‘A phwy fyddai isio dy wenwyno di, Efa?’

‘Rhai o fy chwiorydd bach i?’

‘O, callia, wnei di!’

‘Wel, efallai fod un ohonyn nhw’n meddwl y byddai’n gwneud gwell brenhines na fi?’

‘Dwi’n amau’n fawr. Mae pawb yn gwybod mai ti sydd wedi cael dy fagu i arwain. O ddifri, pwy fyddai isio dy wenwyno di?’

‘Rhai o elynion y Melanai, yndê… fel y Picyniaid. Maen nhw’n trio’n difa ni ers milenia, a fyddai o ddim y tro cynta iddyn nhw fedru cael ysbïwr i mewn yma. Felly mi ddylet ti, fel un o fy nghyfeillion gorau i erioed, flasu’r neithdar ’ma i mi.’

Astudiodd Galena lygaid duon ei chyfaill ac yna’r gwydraid o neithdar lliw aur. Roedd hi’n cael ei themtio; yn cael ei themtio ganddo bob dydd, a dweud y gwir. Llyfodd ei gwefus.

‘Iawn, ty’d â fo yma ’ta, jyst rhag ofn.’

‘Ia. Rhag ofn. Ond eto, rhag ofn… pa gân wyt ti am i ni ei chanu yn dy angladd di?’

Chwarddodd Galena.

‘Be am yr hen ffefryn “Fe wnaf yr aberth eithaf ”?’

‘Ha! Addas iawn. Iawn, mi ofala i y byddwn ni gyd yn ei chanu hi nerth ein pennau. Rŵan, blasa’r neithdar ’na!’

Cododd Galena’r gwydryn at ei gwefusau. Yfodd lond ceg yn araf, â’i llygaid ar gau i gael canolbwyntio’n llwyr ar y blas. Yna gostyngodd y gwydryn gan wenu â phleser.

‘Blasus?’ meddai Efa.

‘Blasus iawn,’ meddai Galena, gan roi’r gwydryn yn ôl i Efa.

‘Blasus iawn, iawn, iawn! A deud y gwir —’ Oedodd Galena ar ganol y frawddeg, a chodi ei llaw at ei cheg.

‘Be sy?’ meddai Efa.

Ond allai Galena mo’i hateb. Roedd ei llygaid yn fawr ac yn llawn ofn, a’i gwefusau’n crynu. Yna, roedd hi’n cyfogi, ac yn gwingo mewn poen.

‘Galena?’

Syrthiodd Galena i’r llawr gan riddfan, a dechreuodd ei chorff neidio a chicio fel pe bai anifail gwyllt yn ceisio brwydro’i ffordd allan ohoni. Roedd ei hwyneb wedi troi’n fflamgoch a’i llygaid yn rhowlio yn ei phen, ac roedd y sŵn oedd yn dod o’i cheg yn erchyll, fel petai hi’n tagu i farwolaeth.

‘Galena!’ Neidiodd Efa ati gan geisio’i hatal rhag taro’i phen ar gerrig gwynion y llwybr. ‘Help!’ gwaeddodd. ‘Rhywun! Helpwch fi! Yn yr ardd! Mae Galena yn—’

‘Diolch am boeni amdana i…’

Allai Efa ddim credu’r peth. Roedd y ferch bellach yn gwbl lonydd, yn edrych yn berffaith iach ac yn gwenu’n ddel arni.

‘Galena!’

‘Dim ond tynnu dy goes di,’ meddai Galena, gan godi ar ei heistedd. ‘Mi fyddi di’n falch o glywed bod y neithdar ’na’n berffaith ddiogel i’w yfed.’

Trodd llygaid y ddwy i edrych ar y gwydryn gwag ar y gwair.

‘Wps,’ meddai Galena. ‘Sori.’

Eisteddodd Efa ar y llawr wrth ymyl ei ‘chyfaill’ a rhoi pwniad iddi yn ei braich.

‘Aw!’

‘Roeddet ti’n haeddu honna, y jaden.’

‘Am fod cystal actores?’

‘Ia. Ar y llwyfan ddylet ti fod.’

‘Cytuno. Ond ges i ’ngeni i weini arnat ti, yn do, a dyna fo. ’Dan ni i gyd yn gorfod derbyn ein tynged yn y lle ’ma, Efa.’

Ciledrychodd Efa arni a rhoi hanner gwên iddi.

‘Hei! Be oedd y gweiddi ’na?’ meddai llais dwfn y tu ôl iddyn nhw. ‘Dach chi’n iawn? Pam dach chi’n gorwedd ar lawr?’

‘Helô, Dalian,’ meddai Efa. ‘Dim ond sbio ar yr ardd o ongl wahanol oedden ni, yndê, Galena?’

‘Ia. Esgus bod yn forgrugyn o’n i. W! Dwi’n gallu gweld reit i fyny dy drwyn di o fan’ma…’ meddai Galena wrth y llanc ifanc cyhyrog oedd yn gwisgo lifrai Gwarchodwr y Palas.

‘Callia,’ meddai hwnnw, cyn troi at Efa. ‘Pam oeddet ti’n gweiddi fel tase rhywun ar farw?’

‘Actio oedden ni. I weld pa mor gyflym fyddai rhywun yn dod i’n hachub ni. A doeddet ti ddim yn gyflym iawn, nag oeddet?’

‘Galw dy hun yn Warchodwr…’ meddai Galena, gan ysgwyd ei phen yn drist. ‘Mi fydd rhaid i ti siapio dy stwmps os wyt ti am fod yn un o Warchodwyr y frenhines newydd.’

Oedodd Dalian. Weithiau, roedd hi bron yn amhosib dyfalu pryd roedd y ddwy yma o ddifri. Ond sylwodd fod ochr ceg Efa yn crynu.

‘Dach chi’ch dwy yn boen!’ meddai’n flin. ‘Tynnu arna i yn dragwyddol! Mi fydd raid i ti roi’r gorau i ryw hen lol wirion fel hyn wedi i ti gael dy goroni, Efa!’

‘Wwww! Wedi cysgu’n gam neithiwr, do, Dalian?’ chwarddodd Efa.

‘O, cau hi!’

‘Hm. Dwi wir ddim yn meddwl dy fod ti i fod i ddeud wrth ddarpar-frenhines i’w chau hi…’ meddai llais hynod gyfarwydd y tu ôl i’r tri.

Rhewodd pawb. Yna neidiodd Galena ar ei thraed a gostyngodd Dalian a hithau eu pennau. Aros yn llonydd wnaeth Efa.

‘Mae… mae’n ddrwg iawn gen i, eich Mawrhydi —’ dechreuodd Dalian, ond chwifiodd Brenhines Melania ei llaw i ddangos nad oedd angen iddo ddal ati i egluro nac ymddiheuro.

‘Twt,’ meddai. ‘Dwi’n difaru na fyddai rhywun wedi dysgu Efa i’w chau hi pan oedd hi’n llawer iawn iau. Roedd hi’n hen bryd i rywun drio ei rhoi hi yn ei lle. Cwyd, Efa, rwyt ti’n rhy hen i chwarae plant.’

Ufuddhaodd Efa yn fud, a chan osgoi llygaid y ddau arall, dilynodd ei mam yn ôl i fyny’r llwybr at y palas.

Edrychodd Galena a Dalian ar ei gilydd.

‘Oes raid iddi drin Efa fel plentyn o flaen pawb?’ meddai Galena.

‘Wel,’ meddai Dalian, ‘mae’n ei gneud hi’n haws i Efa ei lladd hi pan ddaw’r amser, tydy?’


Mae Efa gan Bethan Gwanas ar gael nawr (Y Lolfa, £5.99)

Mae gweddill y drioleg – Y Diffeithwch Du ac Edenia – hefyd ar gael nawr.

www.ylolfa.com

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s