Blas o’r nofel | Y Bwrdd gan Iwan Rhys

Y Bwrdd - Iwan Rhys

Os daeth un peth da o Brexit, y nofel yma ydi hwnnw!’ Dyna eiriau Rhys Iorwerth am Y Bwrdd.

Mae Carwyn wedi diflasu wrth ei ddesg ym Mwrdd Comisiynu’r Gymraeg. Llawer gwell fyddai ganddo fod adre’n coginio i’w bartner Laticia a’u merch Alaw Abril. O leia roedd y byd yn ei le yng nghegin 8 Stryd Cynon. Ond efallai nad oedd Carwyn wedi talu digon o sylw, hyd nes i’r llythyr gyrraedd.

Yn y rom-com o nofel ddychanol hon am deulu, y Gymraeg a Brexit, awn ar daith o Gaerdydd i’r Tymbl ac i Valencia. Gymerwch chi apéritif?

“Llwydda i gynnal diddordeb o’r dechrau’n deg tan y gair olaf. Mae’r cymeriadau a’r cynllun yn wreiddiol a’r dweud yn sylwgar-ddychanol.” – Mererid Hopwood

“Nofel dreiddgar, annwyl a doniol i oes drist Brexit.” – Rhys Iorwerth

“Nofel ddifyr yw Y Bwrdd, un y gellir ei disgrifio fel comedi ramantus, ond nid nofel ddisylwedd mohoni o gwbl gan fod yna ddychan a themâu mwy difrifol ynddi hefyd.”      – Arwel Vittle, Cylchgrawn Barn

“Y mae stori ysgafn a bywiog i’w darganfod rhwng cloriau Y Bwrdd, a sgwennu sy’n naturiol a byrlymus. Mae’r disgrifiadau craff a synhwyrus o fwyd yn ei gwneud yn bleser i’w ddarllen…” – Grug Muse, O’r Pedwar Gwynt

“Mae Y Bwrdd yn wych! Fe wnes i ei darllen mewn dau eisteddiad, rhwydd i’w darllen ond yr ysgrifennu’n gyfoethog. Hoffi’r naws hamddenol ar brydiau, yna sut gyflymodd y plot a’r stori. Mae hi’n nofel sydd werth ei darllen!” – Seiriol Dawes-Hughes, Trydar

“Newydd fwynhau darllen Y Bwrdd – stori gyfoes yn cael ei hadrodd mewn ffordd fywiog a darllenadwy iawn. Llongyfarchiadau i Iwan Rhys.” – Marian Beech, Trydar

“Nofel sydd yn pwyntio bys yw hon i bob pwrpas, ond mae ganddi resymau cwbl deilwng dros wneud hynny. Dyma’r nofel bwysicaf imi ei darllen ers tro, ac os mai ei bwriad oedd sobri’r darllenydd ynghylch gwirionedd Gadael, yna’n ddigamsyniol, llwyddodd i wneud hynny.” – Sioned Erin Hughes, Y Cymro

Dyma flas o’r bennod gyntaf…


O leiaf llwyddodd i’w gymell ei hun, rywfodd, i wneud prynhawn deche o waith. Haeddai beint, felly ar y ffordd adref o’r gwaith y noson honno ac fel y gwnâi dair neu bedair noson yr wythnos, stopiodd am un cyflym yn y Victoria Vaults, i feddwl ac ymchwilio ar ei ffôn. Nid Ken oedd y tu ôl i’r bar heno, felly cafodd dawelwch i ddwysystyried. Ond ymhen dwy funud, wrth i ddwy

lythyren wen yr SA ddiflannu yn yr ewyn, roedd y penderfyniad wedi’i wneud. Tarka dhal a kurkuri bhindi. Cododd y gwydryn i’w geg, a chwyrlïodd gweddill y chwerw i lawr ei lwnc yn yr un amser ag a gymerodd i roi’i ffôn yn ei boced.

Taflodd ei got amdano’n reddfol wrth gamu o’r Vaults a sylwi bod mwy o ddail dan draed na phan gerddodd tua’r gwaith toc wedi naw y bore hwnnw. Wrth groesi afon Taf, taerai fod y dŵr yn agosach at ei draed a bod sŵn yr afon i’w glywed dros beiriannau disel y bysus a thecno radios y tacsis. Trodd i lawr Clare Road tuag at y siop fwyd gyntaf ar y chwith, Pashal’s. Hon yw ei ffefryn o blith y siopau bach Asiaidd yn Grangetown. Mae’n syndod o fawr am siop fach, gan fod y perchennog, yn raddol dros bymtheng mlynedd, wedi ehangu drwy brynu’r tŷ drws nesa ar y chwith, ac wedyn yr hen gaffi rhyngrwyd drws nesa ar y dde.

Arafodd wrth agosáu at y siop a chaeodd ei lygaid. A phum cam i fynd cyn cyrraedd y drws, clywai’r gwynt cyntaf – y winwns a’r garlleg ffres. Dau gam wedyn, clywai’r coriander a’r cardamom yn ymuno a chyfuno. Ac wrth gyrraedd y drws agored, arhosodd yn stond wrth glywed y cwmin yn galw’i enw.

‘Come in, Carwyn!’ galwodd Arham o’r tu ôl i’r cownter. ‘What are you cooking tonight?’

Agorodd Carwyn ei lygaid, a gwenu’n braf ar berchennog y siop.

‘Tarka dhal and bhindi. Kurkuri bhindi.’

‘Bendigedig!’ meddai Arham yn ddifrifol gan ledu’I ffroenau wrth ddychmygu’r pryd. Taenodd ei lais trwchus, gheeaidd dros y cownter ac i lawr rhwng y rhesi. ‘Wonderful, deep dhal now the weather has turned. Plenty of turmeric, remember.’ Ff lachiodd ei lygaid yn sydyn. Cododd ei fysedd at ei geg fel petai ar fin cymryd darn o’r llysieuyn gwyrdd, crensiog i’w geg. A chododd traw ei lais yn wich. ‘And the bhindi, so crispy!’

Ymlwybrodd Carwyn i lawr rhes y llysiau ffres. Gwyddai’n union ble’r oedd yr ocra. Estynnodd ei law atynt, a llithrodd ei fysedd dros ambell un yn araf. Teimlai’r blew mân, mân. Gwasgodd un yn dyner. Diwrnod neu ddau arall ac fe fydden nhw’n rhy aeddfed. Perffaith felly. Llenwodd sach bapur. Cododd lond sgŵp o tshilis gwyrdd ffres i ail sach. A sgŵp o ddail cyrri i un arall. Gwyddai iddo ddefnyddio’r rhai olaf dridiau’n ôl. Roedd yn go siŵr bod ganddo bopeth arall gartref. Aeth at y cownter i dalu, holi am iechyd Thawab a chwrs

Zehna yng Nghaergrawnt, a ffarwelio. Profiad cynnes a maethlon bob tro oedd ymweld â Pashal’s.


‘¿Dónde está Alaw?’ holodd Laticia mewn llais chwarae gêm, ei hysgwyddau’n uchel a chledrau ei llaw tuag i fyny. Ble’r wyt ti? ‘¿Dónde está?’

Daeth pwffian chwerthin o’r tu ôl i’r soffa.

‘No está debajo de las escaleras. No está detrás de las cortinas.’ Doedd hi ddim o dan y grisiau na’r tu ol i’r llenni. Gwnâi Laticia ei gorau glas i beidio â chwerthin. Daeth rhoch a gwich o’r tu ôl i’r soffa. Dim ond pen ac ysgwyddau Alaw Abril oedd o’r golwg. Ble gallai hi fod? ‘¿Dónde podrÍa estar? ¿Está detrás del sofá?’

‘¡Si!’ gwaeddodd Alaw, gan garlamu am yn ôl drwy’r teganau a chwerthin yn uchel. Cydiodd Laticia ynddi a’i chodi. ‘¡Aquí está!’ Dyma hi!

Ar hynny, taflodd Carwyn ei freichiau amdanynt. ‘A dyma nhw’u dwy!’

Gollyngodd Laticia sgrech fach sydyn. Nid oedd wedi clywed ei chariad yn dod i mewn am fod Dora la Exploradora yn dal i anturio ar yr iPad. Yna ochneidiodd dan wenu, a thoddi i’w freichiau.

‘Dadi!’ pefriodd Alaw, a rhoddodd Carwyn gusan fawr yr un ar dalcen ei ferch a gwar ei gariad.

‘Sut oedd gwaith?’ gofynnodd Laticia, gan fwytho’I ysgwydd.

‘Iawn. Fel arfer. Diflas.’

‘Ti wedi gweithio felly heddiw?!’ gofynnodd yn gellweirus.

‘Hei, wrth gwrs!… Rhywfaint,’ ebychodd. ‘Ond yffach, mae amser yn symud mor araf ’na. Pob chwarter awr yn llusgo ’mlaen fel…’

Ffrwydrodd Alaw. Gwaeddodd rywbeth annealladwy yn un o’i hieithoedd, llithrodd o freichiau ei mam, trawodd y pentwr llyfrau oddi ar y bwrdd coffi’n grac a thasgu o’r ystafell gan weiddi ‘¡Mierda!’ Edrychodd Laticia a Carwyn ar ei gilydd heb lawer o syndod.

‘Ti eisiau… ¿Que es swap en galés?’ gofynnodd Laticia.

‘Swop,’ atebodd Carwyn ar ôl eiliad o feddwl. ‘Dwlen i!’

Gwyddai’r ddau na fyddai hynny’n bosib. Roedd ganddynt forgais, yn un peth. Doedden nhw ddim wedi benthyg yn wirion. Tŷ teras dwy lofft, gydag ystafelloedd bach a nenfydau isel ar stryd fach yn Grangetown, a dim ond un tŷ arall ac ychydig fetrau o fancyn a ffens rhyngddyn nhw a’r rheilffordd. Ar gyflog diogel Carwyn yr oedd y morgais yn seiliedig. Ac i gymdeithas adeiladu rhieni Carwyn yr oedd y diolch am y blaendal. Roedd pethau’n ddigon tyn arnyn nhw fel roedd hi, rhwng y morgais, cynnal y cartref, a ffioedd cwrs Laticia. Heb sôn am y ffaith mai anodd iawn fyddai iddi hithau gael swydd ar gyflog tebyg i’r hyn a gâi Carwyn yn y Bwrdd. Na, doedd ceisio cyfnewid ddim yn opsiwn.

‘Paned?’ gofynnodd Laticia.

‘Fe wna i’r paneidiau,’ atebodd Carwyn. ‘Cer di at dy ddesg.’

Dyma oedd nos Lun arferol yn 8 Stryd Cynon. Carwyn fyddai’n paratoi Alaw i’r gwely ac yn darllen stori iddi, cyn dechrau coginio, tra byddai Laticia, ar ôl diwrnod o ofalu, yn cael cyfle i fwrw at ei llyfrau am awr neu ddwy.

Newydd gychwyn ar ail flwyddyn ei chwrs Meistr rhanamser mewn busnes oedd hi. Er bod ganddi radd mewn economeg o Brifysgol Valencia, a’i bod yn siarad Sbaeneg a Saesneg yn rhugl pan ddaeth hi i fyw yma bedair blynedd yn ôl, ni lwyddodd i gael dim mwy na gwaith mewn caffis a barrau. Roedd cyflogwyr yn gyndyn i roi swyddi parhaol i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd oherwydd, er i Brexit ddigwydd chwe mis yn ôl, roedd hawliau byw a gweithio rhai fel Laticia yn dal i fod yn destun trafodaeth. Ac wrth gwrs, roedd dyfodiad annisgwyl Alaw ddwy flynedd a hanner yn ol wedi cyfyngu ar ei gallu i gymryd shifftiau.

Hwyliodd Carwyn y te, a daeth o hyd i Alaw yn y cwtsh dan star yn prysur dynnu popeth allan o’r bocs ailgylchu. Fel arfer, bu cryn strancio i’w chael lan llofft ac wrth frwsio ei dannedd. Ond unwaith yr oedd yn ei hystafell wely, gostegodd. Aeth at ei chwpwrdd llyfrau a chwilio ar draws y silff Sbaeneg. Cydiodd yn llyfr ¡Pío Peep!

‘Hwn, Dadi!’ meddai, gan estyn y llyfr i’w thad a neidio ar y gwely.

‘Na, Mamá sy’n darllen hwnna gyda ti,’ atebodd. ‘Edrych, beth am hwn?’ Cydiodd yn ei hoff lyfr yntau o’r silff Gymraeg a’i ddangos iddi.

‘Fi moyn Pío Peep,’ meddai Alaw’n bwdlyd, a’i blinder yn bygwth deigryn.

Dyfal donc, meddyliodd Carwyn. ‘Wyt ti’n cofio be fwytodd y teigr?’

‘Pob sandwej en la cocina,’ atebodd, ar ôl eiliad o feddwl.

‘Rwy’n meddwl falle dy fod ti’n iawn.’ Haws na’r arfer tro ’ma. ‘Dere i ni gael gweld.’

Cwtsiodd Alaw rhwng Tedi Mawr a braich ei thad.

Un tro roedd yna ferch fach o’r enw Catrin, ac roedd hi’n cael te gyda’i mam, yn y gegin. Yn sydyn canodd cloch y drws.


Mae Y Bwrdd gan Iwan Rhys ar gael nawr (Y Lolfa, £8.99)

www.ylolfa.com

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s