Y Fedal Ryddiaith | Enillwyr y Gorffennol

Yn sgil y Coronafeirws mae Eisteddfod Genedlaethol Tregaron wedi’i gohirio tan 2021. Dyma ymweld â rhai o’r cyfrolau sydd wedi dod i’r brig dros y blynyddoedd yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith…


Si hei Lwli – Angharad Tomos (1991)

1991 Ionawr, cyhoeddi Si Hei Lwli, ein nofel mwyaf poblogaidd (7,600 copi)Mae dwy ferch mewn car yn gwneud yr un daith, ond ar gyflymder gwahanol; mae pellter oes yn eu gwahanu, ond ar eiliad fer, cyll amser ei rym. Mae’r daith yn cynrychioli taith amseryddol trwy fywyd. Mae Eleni yn ferch ifanc sydd wedi penderfynnu mynd â’i hen fodryb, Bigw, yn y car i weld bedd ei chwaer. Llyfr gafaelgar a gwreiddiol.

‘Trafodir y brif thema, sef henaint a marwolaeth, yn gelfydd dros ben, ac er i’r thema hon gael ei thrafod drosodd a throsodd yn ein llenyddiaeth, llwydda Angahrad Tomos i roi gwedd ffres, unigryw i ni ar fywyd yr hen wraig ‘naw-deg-rwbath’ hon. Ar adegau, mae’r ysgrifennu mor amrwd a chignoeth fel ein bod yn ebychu mewn syndod, a’r munud nesaf cawn ein gorfodi i golli dagrau wrth gydymdeimlo gyda’r cymeriadau.

Gadawyd fi a’m calon yn fy ngwddf – nofel gyfoes, ddiddorol, gwerth ei darllen fwy nag unwaith.’ – Hawys Tomos


Wele’n Gwawrio – Angharad Tomos (1997)

Nofel llawn dychymyg am Ennyd Fach a’i ffrindiau sy’n dal i herio confensiwn, ac wrth i’r milflwydd newydd wawrio maent yn dod wyneb yn wyneb â breuder bywyd.

Cofnod Ennyd Fach, merch sengl yn ei phedwar degau, o ddyddiau olaf y mileniwm. Cawn gipolwg o’i bywyd hi a’i ffrindiau ecsentrig – o Her sy’n byw bywyd i’r eithaf i Giaff a gollodd bob blas ar fyw. Dyma gyfle i drafod y teulu, breuder bywyd, ffrindiau, crefydd, heneiddio, tirwedd Cymru ac yn bennaf oll, efallai, tynged yr iaith sydd fel petai wedi ei phlethu â byw a marw sydyn Ennyd.

‘Yn Wele’n Gwawrio rydym ar ein pennau ym myd chwedlau Angharad Tomos lle mae pob enw yn symbol, a phob digwyddiad yn arwyddocaol, a dyma hi yn dewis rhaffu’r chwedl eithaf, yn llefaru trwy enau’r meirw. Mae’r iaith Gymraeg y mae’r awdur ac Ennyd yn brwydro mor danbaid drosti yn dawnsio o dudalennau’r nofel, yn fyw ac yn iach o fewn ei chloriau os nad mewn bywyd go-iawn. Er gwaethaf dyfodiad y Cynulliad ar ôl 1997, ychydig iawn o newid sydd wedi bod yn y sefyllfa wleidyddol ac mae’r nofel, gyda’i chwestiynau dyfnion, mor oesol â bywyd ei hun. Dyna, yn anad dim, sy’n ei gwneud yn nofel sy’n werth ei darllen, a’i hail ddarllen unwaith eto.’ – Gwenan Mared


Blodyn Tatws – Eirug Wyn (1998)

Nofel ffantasïol yng Nghymru’r dyfodol lle mae ymgais dechnolegol i greu y ferch berffaith yn mynd allan o reolaeth.

Dyma nofel sy’n ail-greu stori creu Blodeuwedd, ond hynny mewn cyd-destun ffantasÏol a thra thechnegol y dyfodol gan y llunnir y ferch ‘newydd’ o tjips cyfrifiadurol (ac wele felly ystyr teitl y nofel ‘Blodyn Tatws’ a’r chwarae gogleisiol ar gyd-destun ystyr geiriau).

‘Stori garlamus, dychymyg rhemp, cymeriadau cofiadwy (megis Parri), caru gwyllt, hiwmor slei a’r cyfan wedi’i socian mewn Cymreictod cadarn, o lenyddiaeth uchel-ael I dafodiaith y dafarn.’ – Gwenllian Dafydd


Atyniad - Fflur DafyddAtyniad – Fflur Dafydd (2006)

Ynys Enlli yw prif gymeriad y nofel hon – yr ynys a’i hatyniad sy’n rheoli llanw a thrai teimladau’r cymeriadau lliwgar, yn ynyswyr, ymwelwyr ac awduron ddaw i’r ynys am gyfnod byr i chwilio am ddihangfa, llonyddwch a serch. Yng nghwmni un o’r awduron preswyl ceir darlun cyfareddol o ddylanwad yr ynys ar bobl a’u breuddwydion…

‘Yr hyn sy’n atyniadol yn y nofel yw ei ffresni, ffresni ei chymeriadaeth, ffresni ei harddull farddonol, ffresni ei digwyddiad a’i hadroddiadau. Nodaf hefyd fy mod yn berffaith sicr fod Eisteddfod Abertawe a’r Cylch, wrth wobrwyo Matigari, yn gwobrwyo awdur a rydd gryn ddiddanwch llenyddol i bawb a gâr rialtwch a difrifwch bywyd rhwng dau glawr.’ – Derec Llwyd Morgan

‘Dyma wir artist y gystadleuaeth… prin bod tudalen o’r gwaith heb enghraifft o ddawn dweud anghyffredin, gyda’r awdur ar ei orau wrth ddangos y mân ganfyddiadau sydd yn dadlennu newidiadau sylfaenol mewn perthynas pobl â’i gilydd.’ – Grahame Davies

‘Crefft Fflur Dafydd yw gwau [y cymeriadau] hefyd i gyfangorff y stori, gan fod mynd a dod a chyswllt â’r tir mawr hefyd yn dod yn rhan o’r tensiwn, o’r trai a’r llanw, a’r cymeriadau o’r “tu allan” ymddangosiadol hefyd yn dod â’u dylanwadau.’ – Meg Ellis, Golwg


saith-oes-efa-lleucu-robertsSaith Oes Efa – Lleucu Roberts (2014)

Saith stori am y saith oes mewn bywyd merch, i gyd mewn cyweiriau a thafodieithoedd gwahanol. Yn ôl John Rowlands, un o feirniaid y Fedal Ryddiaith, ‘un o gyfrolau mwyaf gwreiddiol y Gymraeg ar hyd yr oesoedd.’

‘Mae’r awdures yn feistr ar greu coctel y chwerw-felys.’ – Mair Rees, Taliesin

 

 


Llyfr Glas Nebo - Manon Steffan RosLlyfr Glas Nebo – Manon Steffan Ros (2018)

Dyma stori ryfeddol Siôn, ag orfodwyd i dyfu’n ddyn yn sydyn iawn, ei fam Rowenna, a’i chwaer fach, Dwynwen. Mae’r hanes hynod wedi’i gofnodi mewn llyfr nodiadau glas wrth geisio goroesi ar ôl Y Terfyn – yr hunllef a gafodd effaith ddychrynllyd ar drigolion pentref Nebo a thu hwnt.

– Enillydd y Fedal Ryddiaith 2018

– Rhestr Fer Gwobr Tir na n-Og 2019

– Llyfr y Flwyddyn 2019

‘Mae Manon Steffan Ros yn dod yn agos at berffeithrwydd yn y nofel hon… Dynol. Darllenadwy. Deifiol…. Credwch yr heip.’ – Llwyd Owen

‘Dwi’n credu mai dyma’r gyfrol Fedal Ryddiaith fuddugol sydd wedi cael y fwya o sylw ers rhai blynyddoedd… Oes modd credu’r heip? Wel, mewn gair, oes. Dyma nofel fel, ysgytwol a brawychus o berthnasol.’ – Elen Ifan, Blog Lico Llyfre Lot

‘Sai eriod ‘di gweld nofel Gymraeg yn cael gymaint o ymateb cadarnhaol ar y cyfrynge cymdeithasol â beth mae Llyfr Glas Nebo wedi’i chael ers iddi ennill y Fedal Ryddiaith yn y Steddfod. A ma ‘na rheswm pam. Alla i wirioneddol weud mai co un o’r nofele gore dw’i erioed wedi’i darllen… Am nofel afaelgar, agos-atoch, annwyl, cynnil ond pwerus. Mae’r ffordd y ma’r nofel wedi ei gosod yn hynod apelgar ac yn gwneud y darllen mor rhwydd… Dyma nofel arbennig iawn, ac un a wnaeth gydio o’r cychwyn cynta’. Alla i ddim argymell ei darllen hi ddigon – mae’n wych ym mhob ffordd a mor rhwydd i ddarllen.’ – Sioned Haf Thomas, Cylchgrawn Y Stamp

‘Mae Llyfr Glas Nebo yn gampwaith! Mor gynnil, annwyl, clyfar, agos-atoch. Popeth sydd ei angen mewn nofel. Llongyfarchaidau mawr iawn Manon Steffan Ros – wir dan deimlad wedi mi orffen darllen, ychydig iawn o lyfrau sy’n gwneud hynny i mi!’ – Fflur Dafydd

‘Y nofel berffaith.’ – Gareth Miles

‘Waw. Jyst… waw. Plis darllenwch, hyd yn oed os nad ydych chi’n darllen Cymraeg fel arfer. Mae’r geiriau’n ddigon hawdd. Yr hyn mae hi’n ei wneud i’ch calon sy’n anodd.’ – Bethan Mair

‘Môr o gariad mewn byd ôl apocaliptig. Dwi ddim yn cofio’r tro diwethaf i mi ddarllen llyfr mewn un eisteddiad. Campus. Diolch.’ – Tim Hartley

‘Dyma gyfrol fer, ond un sy’n llawn i’r ymylon. Ydy, mae’n hawdd ei darllen, ond mae’n codi cwestiynau am flaenoriaethau ein hoes a’n ffordd o fyw nad oes iddynt atebion hawdd o fath yn y byd.’ – Catrin Beard, Western Mail Week End

‘Un o’r nofelau mwyaf ysbrydol i’w chyhoeddi ers blynyddoedd.’ – Arwel Rocet Jones, Y Goleuad

‘Y cwestiwn y mae’r gyfrol yn eu gofyn yw beth mewn gwirionedd yw hanfod bywyd, ac beth yw pwrpas byw….[erbyn diwedd y nofel] fe welir mai un ateb sydd i’r cwestiynau i gyd: beth yw pwrpas bywyd, beth yw hanfod bywyd, beth yw gwirionedd. Yr ateb bob tro yw cariad.’ – John Gwilym Jones, Y Tyst


Ingrid - Rhiannon IfansIngrid – Rhiannon Ifans (2019)

Mae’r siampên yn llifo yn ninas Stuttgart, y neuaddau jazz yn orlawn a’r tŷ opera dan ei sang. Ac yng nghanol y bwrlwm mae Ingrid, yn barod ei gwên a’i barn.

Ond mae salwch meddwl yn cael ei effaith greulon ar deulu cyfan wrth iddo daro’r un mae pawb yn ei charu. Stori ingol, lawn ffraethineb, am ddynes gyfareddol sy’n araf golli ei meddwl.

‘Gwaith llenor arbennig iawn, un crefftus a gwreiddiol.’ – Mererid Hopwood, Beirniad y Fedal Ryddiaith 2019

‘Awdur [sy’n] feistr ar ei grefft… Campus!’ – Alun Cob, Beirniad y Fedal Ryddiaith 2019

‘Mae gan Ingrid y gallu i gyfareddu o’r eiliad y cyfarfyddwn â hi gyntaf.’ – Aled Islwyn, Beirniad y Fedal Ryddiaith 2019

‘Mae’r cylchoedd yn y dŵr yn dal i ledu ymhell ar ôl gorffen darllen…’ – Dylan Iorwerth, Cylchgrawn Barn

‘… Mae rhywbeth agos-atoch a chyfarwydd iawn am gynnwys y berl hon o nofel – a rhywbeth sydd eto’n eich dwyn i dir hollol anghyfarwydd… Ni ddarllenais waith y gallwn ymgolli mor llwyr ynddo ers tro, ac rwyf wedi dotio at arddull grefftus, wreiddiol a deniadol yr awdur.’ – Bethan Mair, Cylchgrawn Week-End, Western Mail

‘Os bu gwaith erioed fu’n haeddu darllen ac ail-ddarllen, dychwelyd a darganfod dro ar ôl tro nes i’r holl gylchoedd ddatgelu eu hunain, y nofel hon yw hi.’ – Meg Elis, Golwg

‘Mae cefndir tramor y nofel yn chwa o awyr iach yn ein llenyddiaeth… Mae gan Rhiannon Ifans ddawn ysgrifennu hynod.’ – Meinir Pierce Jones, O’r Pedwar Gwynt

‘Newydd orffen darllen ‘Ingrid’ ac yn ysu am ei hailddarllen yn syth! Soffistigedig, iaith a thafodiaith goeth ac agos-atoch, hiwmor cynnil, cymeriadau sy’n gafael. Mae cystadleuaeth y Fedal wedi cynhyrchu clasur arall eleni.’ – Annes Glynn

‘Cyfareddol, a gwahanol i unrhyw beth dwi ‘di’i ddarllen yn Gymraeg o’r blaen.’ – Geraint Løvgreen

‘Ces fy nhynnu bendramwnagl i fyd Ingrid yn syth. Cymeriadau difyr, stori afaelgar a theimladwy. Nofel arbennig.’ – Eiry Miles


www.ylolfa.com

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s