Blas o’r nofel | Rhwng y Silffoedd gan Andrew Green

Mae Rhwng y Silffoedd yn nofel llawn sylwadau dychanol am fyd addysg uwch

Mae’r nofel gampws glyfar a ffraeth yn defnyddio arddulliau gwahanol i ddweud y stori, ac mae erthyglau o bapurau newydd, llythyrau, darn o raglen deledu, cofnodion, dyddiadur a ffrwd Twitter ar wasgar trwy’r naratif.

“Doniol, crafog… a phryderus o gredadwy.”

Catrin Beard

Marwolaeth sydyn yr Athro Diocletian Jones, Is-Ganghellor ac unben Prifysgol Aberacheron, yw man cychwyn y stori. Y farn gyffredinol yw bod damwain wedi digwydd, ond mae gan Dr Llŷr Meredydd, darlithydd yn yr Adran Griminoleg, ei amheuon. Gyda help y Llyfrgellydd, Menna Maengwyn, mae’n mynd ar ôl nifer o bobl y byddai rheswm da ganddynt i lofruddio’r Is-Ganghellor. Ond mae’r gwir, yn y pen draw, yn rhyfeddach byth.

Dyma flas o’r Rhagair , sy’n dod mewn ffurf ‘Nodyn Golygyddol’ yn y nofel wahanol yma, a’r bennod gyntaf…

Nodyn golygyddol

Gwelais destun Rhwng y Silffoedd am y tro cyntaf ym mis Medi 2075.

Yr hanesydd Robert ap Gwyn ddaeth ar ei draws, fel ffeil ar ‘liniadur’ (hen fath o gyfrifiadur), yn archifau Prifysgol Cymru Aberystwyth, ynghyd a nifer o destunau eraill o ail ddegawd y ganrif hon. Llwyddodd Dr ap Gwyn i adfer y testun trwy  ddefnyddio meddalwedd arbenigol. Tan hynny nid oedd neb wedi’i ddarllen, yn ôl pob tebyg, ers y flwyddyn 2016. Trwy garedigrwydd Dr ap Gwyn cefais y cyfle i’w astudio’n fanwl.

Perthyn Rhwng y Silffoedd i genre llenyddol oedd yn lled ffasiynol ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif, y ‘nofel gampws’. Fel yn achos yr esiamplau cynt, comedi ffantasiol yw hi. Ond mae’r awdur yn tasgu cymaint o asid dros ei stori nes gadael blas annymunol ar dafod y darllenydd.

Awdur y gwaith, yn ôl y testun, yw ‘Andrew Green’. Ffugenw yw hwn, debyg iawn. Ni allai unrhyw un gysylltu’r enw hwn yn gredadwy a llen o’r cyfnod. Gellir deall yn hawdd pam y byddai’r awdur yn dewis bod yn anhysbys, o ystyried y nifer o ymosodiadau ffyrnig ar arweinwyr prifysgolion – yn arbennig os oedd e neu hi’n aelod o staff mewn un ohonynt. Mae ei ffieidd-dra at y byd cyfoes mor eithafol nes bod rhywun yn amau a oedd e yn ei iawn bwyll.

Academydd cudd o bosibl, felly, yw ‘Andrew Green’. Mae’n bell iawn, fodd bynnag, o fod yn awdur wrth reddf. Er ei fod yn gyfarwydd a rhai o gonfensiynau’r nofel Awdur y gwaith, yn Awdur y gwaith, yn ôl y testun, yw ‘Andrew Green’. Ffugenw yw hwn, debyg iawn. Ni allai unrhyw un gysylltu’r enw hwn yn gredadwy a llen o’r cyfnod. Gellir deall yn hawdd pam y byddai’r awdur yn dewis bod yn anhysbys, o ystyried y nifer o ymosodiadau ffyrnig ar arweinwyr prifysgolion – yn arbennig os oedd e neu hi’n aelod o staff mewn un ohonynt. Mae ei ffieidd-dra at y byd cyfoes mor eithafol nes bod rhywun yn amau a oedd e yn ei iawn bwyll.

Ac eto rhaid cyfaddef fod gan y nofel ryw werth fel dogfen hanesyddol. Fe’i lleolir yn y flwyddyn academaidd 2015–16: blwyddyn allweddol yn hanes y wlad oedd yn dal i ddwyn yr enw ‘Y Deyrnas Unedig’ ar y pryd. Tua diwedd y flwyddyn honno, mewn refferendwm ym mis Mehefin 2016, penderfynodd pobl y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd. Dros y cyfnod nesaf datododd nifer o ddigwyddiadau tyngedfennol: yr argyfwng Coronafeirws, cwymp andwyol yr economi, annibyniaeth i’r Alban ac i Gymru, aduno ynys Iwerddon a chais Lloegr i fod yn un o daleithiau Unol Daleithiau America.

Dim ond ambell sôn sydd am ‘Bregsit’ yn Rhwng y Silffoedd, ond cawn ddarlun byw o gyflwr diwylliannol y wlad yn union cyn y penderfyniad trychinebus hwnnw: yr agendor mawr rhwng yr elite breintiedig a’r lleill, yr ysfa i addoli arian a’r hawl i reoli bywydau pobl eraill, arweinwyr – dynion i gyd bron – sy’n ddigon parod i dorri’r gyfraith i gael eu ffordd. O gymharu â’n prifysgolion heddiw yn y Gymru annibynnol, mae ‘Aberacheron’ ac ‘Aberlethe’ yn ymddangos yn llefydd dieflig ac uffernol. Nid ar hap y daw enwau lleoedd yn y nofel o Hades, is-fyd y Groegiaid gynt. Wrth gwrs, rhaid cadw mewn cof mai ffuglen yw’r testun hwn. Nid yw ystadegau hanesyddol o’r cyfnod yn dangos lefel uchel o farwolaethau annisgwyl ymysg arweinwyr prifysgolion.

Dyma felly yw Rhwng y Silffoedd. Mae’n haeddu cael y cyfle i ymddangos yn gyhoeddus. Dwi heb newid y testun – er ei bod yn amlwg y byddai wedi elwa ar bensil coch golygydd da yn 2016 – ac eithrio i ychwanegu rhifau tudalen i’r mynegai amaturaidd – nodwedd anghyffredin mewn nofel, lle mae’r awdur yn colli pob rheolaeth ar ei ddicter a’i odrwydd. Rwyf wedi gwrthsefyll y temtasiwn i ychwanegu troednodiadau i egluro’r cyfeiriadau yn y testun. Hanner canrif ymlaen mae’n amhosibl inni adnabod yr union dargedau oedd gan yr awdur mewn golwg – os oedd e’n targedu unigolion o gwbl.

Dr Catrin Rowlands

Adran y Gymraeg

Prifysgol Cymru Aberystwyth

Mai 2076

1.

Cerddodd Llŷr yn fyfyriol i lawr y coridor a stopio o flaen drws y swyddfa. Am y canfed tro syllodd ar yr arwydd.

Dr Llŷr Meredydd

Darlithydd

Adran Griminoleg

Ac am y canfed tro ceisiodd wneud nodyn meddyliol i ofyn i rywun newid y geiriau. Llinell 2: cafodd ei ddyrchafu i fod yn Uwch Ddarlithydd dair blynedd yn ol. Llinell 3:

llynedd, amlyncwyd yr hen Adran gan y ‘Coleg Astudiaethau Cyfreithiol’. O leiaf doedd ei enw personol ddim wedi newid, hyd y gwyddai. Ond fyddai e ddim yn synnu petai’r Brifysgol yn e-bostio cylchlythyr at bawb yn dweud y byddai’n rhaid ‘addasu enwau’r staff am resymau busnes’.

Roedd yn chwilio am ei allwedd pan glywodd lais uchel o ben arall y coridor. Perchennog y llais oedd pennaeth y Coleg, Lisa Williams. Gwaeddai ei siaced goch, lachar mor uchel â’i llais, a chlaciodd sodlau ei sgidiau synhwyrol ar y llawr pren.

‘Llŷr! Cyfarchion! Dyma syrpreis – does bosib dy fod yn darlithio cyn deg o’r gloch y bore?’

‘Paid â bod yn ddwl, Lisa.’

Doedd dim angen bod yn ffurfiol. Roedd y ddau ohonynt wedi dechrau gweithio yn y Brifysgol ar yr un diwrnod, ddeng mlynedd yn ôl, ac wedi bod yn gyfeillion ers hynny.

‘Dwi’n ddarlithydd mor boblogaidd mae’r myfyrwyr wedi gofyn imi drefnu darlithoedd ychwanegol am naw o’r gloch bob dydd.’

‘Debyg iawn. Dyna’n gwmws beth mae’r awdurdodau’n lico’i glywed, Llŷr.’

Er bod Lisa wedi dringo’r polyn llithrig i fod yn Bennaeth y Coleg, ac ar yr wyneb yn rhannu ‘gweledigaeth newydd’ y Brifysgol, doedd hi ddim wedi anghofio’n llwyr am ddyletswydd hen ffasiwn yr academydd i gadw meddwl sgeptigol ac annibynnol ar bob pwnc.

Ond doedd hi ddim ond yn dweud y gwir. Y myfyrwyr, y dyddiau hyn, oedd yn rheoli gwaith y staff. Neu, ‘ein cwsmeriaid’, yng ngeirfa newydd yr Is-Ganghellor. ‘Nhw sy’n talu eu ffioedd, felly nhw sy’n talu eich salari’ oedd ei eiriau cwta mewn communique i’r holl staff yn ddiweddar.

‘Ti ddim wedi anghofio am y prynhawn ’ma, wyt ti, Llŷr?’

Chwiliodd yn ei gof. Yr unig beth ddaeth i’r wyneb oedd y trip car wythnosol i Lidl, a’r cyfle pleserus i bori yn y biniau yn yr ‘eil freuddwydion’ am set o ddriliau newydd, sliperi porffor neu ryw eitem ddiangen arall.

‘Yr Is-Ganghellor. Ei anerchiad blynyddol i staff y Brifysgol. Dau o’r gloch ar ei ben. Cofia fod ’na chwip tair llinell y tro yma, o’r top. Os na fyddi di yna, bydd rhywun yn siŵr o sylwi ar dy absenoldeb.’

Suddodd calon Llŷr i’w sgidiau.

‘Paid becso, Lisa. Bydda i’n ishte yn y rhes flaen, fel arfer, yn cadw nodiadau, fel criminolegydd da. A fydda i ddim yn codi cwestiynau lletchwith, dwi’n addo.’

‘Fydd dim cyfle ’da ti, gwboi. Dyw’r Is-Ganghellor byth yn caniátau cwestiynau. Dylet ti wybod ’nny. Fyddai Vladimir Lenin neu Joseph Stalin ddim wedi llwyddo, fydden nhw, tasen nhw wedi gofyn am farn onest gan bob un o gwmpas y bwrdd cyn gwneud eu penderfyniadau caled?’

Gwyddai Lisa’n iawn mai teitl traethawd Dr Llŷr, ugain mlynedd ynghynt, oedd ‘Llywodraeth, democratiaeth a chyfiawnder yn yr Undeb Sofietaidd’. Troiodd ar ei sawdl swnllyd a hwylio i ffwrdd, er mwyn cyfleu ei neges swyddogol, ysbrydoledig i’w chyd-weithwyr eraill yn y Coleg.

Gwyliodd Llŷr gorff athletaidd Lisa yn byrlymu i lawr y coridor. Yn ferch ifanc roedd hi’n seren ar y cwrt sboncen, a heddiw fe ellid ei gweld yng nghampfa’r Brifysgol bob bore cyn saith o’r gloch, yn ôl y sôn. Wedyn aeth e i mewn i’w ystafell, cau’r drws a gosod ei gorff sylweddol yn y gadair freichiau, gan ryddhau ochenaid flinedig. Roedd newyddion Pennaeth y Coleg bron yn ormod iddo. Un oedd yn gwerthfawrogi bywyd sefydlog, rhagweladwy oedd Llŷr. Er ei fod yn radical o ryw fath o hyd yn ei ddaliadau cyhoeddus, ceidwadwr wrth reddf oedd e yn ei fywyd preifat. Sioc felly oedd clywed bod dim dewis ’da fe ond gwrando ar yr Is-Ganghellor, yr Athro Diocletian Jones CBE, yn parablu am ei orchestion, heb obaith am gyfle i’w gywiro neu ei herio.

Edrychodd Llŷr o gwmpas ei swyddfa. Ar yr wyneb doedd ond ychydig o bethau wedi newid ers iddo symud i mewn ddeng mlynedd ynghynt. Ac eto roedd popeth bron wedi’i drawsnewid.

Ar y ddesg safai hen luniau du a gwyn o’i wraig Teleri a’r ddwy ferch fach. I bob pwrpas, cyn-wraig oedd Teleri erbyn hyn – er bod y ddau am ryw reswm wedi anghofio mynd i’r drafferth o ysgaru – ac roedd Gwawr a Bethan wedi tyfu a hedfan y nyth. Yn ei fflat ddeulawr yn y marina roedd copïau o’r un lluniau, arwyddion o fywyd oedd wedi hen ddod i ben.

Ar y silffoedd a ymestynnai ar hyd un o’r waliau hir, gallai weld llyfrau, cylchgronau ac allbrintiau di-rif. Ond dim byd mwy na hen gelfi oedden nhw nawr. Yn anaml byddai Llŷr yn eu tynnu o’r silff. Yn hytrach, roedd e’n gaeth i’r peiriant ar ei ddesg. Trwy’r cyfrifiadur y cyrhaeddai’r cyfan o’r wybodaeth oedd yn berthnasol i’w ymchwil, ac ar ei allweddfwrdd yr ysgrifennai ei erthyglau – a’r llyfr oedd wedi bod ar y gweill nawr ers tair blynedd, heb ddod yn agos at y bennod derfynol. Weithiau teimlai Llŷr nad oedd ei waith yn wahanol i waith y trueiniaid oedd yn llafurio yn y canolfannau ffon a frithai’r ddinas, a’r ‘ganolfan fodloni’ oedd yn perthyn i siop ar-lein ryngwladol MegaMagic.

Unwaith, ymwelodd Llŷr a warws enfawr MegaMagic, fel rhan o’i ymchwil. Denwyd y cwmni i hen safle diwydiannol ar gyrion Aberacheron trwy grant hael gan y llywodraeth, ar y ddealltwriaeth y byddai’n creu miloedd o swyddi. A dyna beth ddigwyddodd. Ond roedd y cyflogau’n isel, yr amodau gwaith yn llym a’r gweithwyr yn ddigalon. Byddent yn rhedeg rhwng y silffoedd dan orchymyn y cyfrifiaduron bach yn eu dwylo, oedd yn rheoli eu hamser yn fanwl ac yn nodi eu camgymeriadau. Byddai mwy nag un camgymeriad yn arwain at gosb a rhybudd; gormod o gamgymeriadau at ddiswyddo disymwth. Fyddai neb yn meiddio bod yn sâl, achos byddai hynny’n arwain yn syth at ddiswyddiad, na hyd yn oed yn meiddio mynd i’r tŷ bach, rhag ofn colli amser. Roedd Llŷr wedi llwyddo i gipio ambell sgwrs slei gyda’r ychydig weithwyr oedd yn fodlon siarad ag e. Fyddech chi ond yn ceisio am swydd yn MegaMagic, meddai un ohonynt, os oeddech chi ar ben eich tennyn ac yn ffaelu dod o hyd i unrhyw job arall.

Llwyddodd Llŷr i wasgu erthygl ymchwil o’r ymweliad. Ei theitl oedd ‘Thomas Gradgrind Cyf. a gorthrwm y gweithiwr cyfoes’. Ychydig wythnosau ar ôl iddi ymddangos yn Cylchgrawn Gwaith a Llafur derbyniodd Llŷr lythyr byr oddi wrth Bernice Scrawn, Prif Reolwraig Ansawdd a Rheolaeth, MegaMagic Inc. Neges Ms Scrawn oedd na fyddai croeso cynnes iddo eto yn swyddfeydd y cwmni. Yn wir, ni fyddai croeso iddo o gwbl, gan nad oedd e wedi derbyn caniatâd y cwmni i gyfweld ei weithwyr. Fel oedd hi’n digwydd, doedd dim cynlluniau ganddo i ailymweld, felly aeth llythyr Ms Scrawn yn syth i’r bin sbwriel.

Cafodd yr erthygl gryn sylw yn y wasg. Penderfynodd papur dydd Sul cenedlaethol anfon un o’i ohebwyr arbennig o Lundain i’r warws dan gudd i ymuno a’r gweithwyr a chael blas o’u sefyllfa druenus. Ond yn anffodus chafodd yr erthygl fawr o impact academaidd. Daeth Llŷr dan bwysau cynyddol yn yr Ysgol i gyhoeddi llyfr swmpus fyddai’n cyfrif tuag at y ‘Gystadleuaeth Ymchwil Flynyddol’. Roedd clywed sôn am CYBol yn ddigon i yrru ias o ofn i lawr cefn ymchwilydd. Os na chafodd eich magnum opus farciau uchel, neu, yn waeth, os nad oedd eich gwaith yn ddigon cryf i fynd i mewn i CYBol yn y lle cyntaf, wedyn roedd eich gyrfa fel ymchwilydd ar ben, a dysgu myfyrwyr am byth, ar gyflog is, fyddai’r unig opsiwn.

Roedd Llŷr yn siŵr iddo wneud y dewis cywir ar gyfer testun ei lyfr, sef trosedd coler wen. Sylweddolodd beth amser yn ôl fod troseddau traddodiadol yn mynd allan o ffasiwn. Dangosodd yr ystadegau bob blwyddyn fod trais a lladrata yn colli tir ac wedi peidio ag apelio at droseddwyr cyfoes. Doedd neb yn medru dweud pam, ond gwyddai Llŷr nad oedd e’n ddigon galluog i gynnig esboniad, felly troes at faes newydd, lle roedd y lefel trosedd yn cynyddu’n aruthrol: twyll a dwyn ar-lein.

Ond ar ôl ymchwilio’n ddiwyd am flwyddyn a hanner dechreuodd Llŷr golli stem. Bu’n rhaid iddo dreulio gormod o amser o flaen ei gyfrifiadur. Roedd y bobl y byddai’n eu cyfweld yn gymeriadau llwyd ac anniddorol. Yn yr hen ddyddiau byddai’n cwrdd â throseddwyr lliwgar, fel Harri Hoelen, y gangster o Aberlethe oedd yn adnabyddus am adael ei elynion yn hongian yn uchel ar waliau mewn hen ffatrïoedd gwag yn y dociau (yn y pen draw yr un oedd ei dynged e). Roedd y plismyn yn fwy blodeuog bryd hynny hefyd. Cofiai am Dic Driscoll, uwch-arolygydd yn Aberacheron. Bob dydd byddai Dic yn y King’s Arms erbyn amser cinio, lle roedd ganddo swyddfa answyddogol mewn cornel dawel i lyncu cwrw tywyll a chloncan gyda’i ffrindiau, gohebwyr y wasg neu hyd yn oed ymchwilwyr ifainc fel Llŷr. A dyna sut lwyddai Dic i ddatrys ambell drosedd ddryslyd, trwy wrando ar y bobl wahanol fyddai’n dod trwy ddrysau’r King’s a phwyso arnyn nhw am wybodaeth werthfawr.

Erbyn heddiw roedd trais ac alcohol ill dau wedi mynd allan o ffasiwn. Treuliai’r troseddwr a’r plismon eu holl amser o flaen sgrin gyfrifiadurol. A dyna lle y dylai Llŷr fod nawr, er mwyn dechrau gwaith ar Bennod 5 o’i lyfr, oedd yn dwyn y teitl dros dro, ‘Phishing, vishing ac enghreifftiau eraill o dwyll’.

Roedd e’n dal i syllu trwy’r ffenestr ac yn hiraethu am yr oes a fu pan ddaeth cnoc swnllyd ar y drws.

‘Dewch!’

Trwy’r drws camodd ffigur talsyth, awdurdodol y Dr Eugene Drinkwater, cyfreithiwr a brodor o Syracuse, Talaith Efrog Newydd, yr oedd safon ei Gymraeg yn fwy cywir a gloyw na Chymraeg unrhyw drigolyn arall yn Aberacheron.

‘Llŷr!’ gwaeddodd ar uchaf ei lais, ‘Cnociais i, rhag ofn bod lladratwr yn dy stafell. Do’n i ddim yn disgwyl dy weld am sbel.’

‘Paid â bod mor sinigaidd, Gene. Fe ddes i i mewn yn fwriadol i gael llonydd i weithio ar fy llyfr, cyn bod y flwyddyn academaidd yn dechrau.’

‘Yr hen lyfr ’na ar droseddwyr cyfrifiadurol? Wyt ti’n dal i geisio dadwisgo hacwyr ifainc? Mae ’na rywbeth rhyfedd am ddyn yn ei chwedegau’n mynd i ryfel yn erbyn bachgen smotlyd sy’n syllu ar ei gyfrifiadur mewn stafell wely yn nhŷ ei rieni.’

Allai Llŷr ddim gwadu’r cyhuddiad. Roedd Eugene, yr unig griminolegydd arall yn y Brifysgol, wedi aros yn driw i’w ddiddordebau ymchwil. Roedd e newydd gyhoeddi cyfrol o’r enw Osgoi trethi: persbectifau ôl-fodernaidd. Roedd y llyfr hwn yn rhwym o dderbyn adolygiadau da gan ysgolheigion ôl-fodernaidd eraill a sicrhau lle i’w awdur ar restr CYBol yr Adran. Yn fwy na hynny, gallai fod yn basbort i swydd dda i Eugene – Cadair, siŵr o fod – mewn prifysgol fwy ffasiynol nag Aberacheron.

Roedd yn well gan Llŷr anwybyddu’r sylw. ‘Oes rheswm ’da ti i dorri ar draws fy ngwaith pwysig?’

‘Oes, fel mae’n digwydd. Newydd glywed si cwbl frawychus y funud hon.’

‘Mae’r Brifysgol am i’n hadran ni symud i’r campws newydd yn Indonesia?’

‘Gwath na ’nny. Ti’n gwbod bod yr Is-Ganghellor yn bwriadu ymweld â phob adran yn ei thro, a chael sgwrs ddifrifol gyda’r staff i gyd? Wel, y gair ar y Mall yw taw ein hadran ni fydd y gynta ar ei restr. Ac ar ben ’nny, yr adrannau cynta i gael eu gweld, medden nhw, fydd yr adrannau dan y lach, y rhai mewn perygl o gael e –’

‘Gene, paid. Paid a dweud y gair.’

‘Rhesymoli’ oedd y gair, roedd Llŷr yn gwybod i sicrwydd. Gair iwffemistig, gair marwol. Bu hanes hir, sinistr iddo yn y Brifysgol. Cofiodd i bennaeth yr Adran Eidaleg, rai blynyddoedd yn ôl, dderbyn gwahoddiad i alw ar yr Is-Ganghellor yn ei swyddfa foethus yn y Plas. Pan aeth yno, amneidiodd yr Is-Ganghellor arno i eistedd o flaen ei ddesg, oedd yn edrych mor fawr â maes pêl-droed. Wedyn daeth ond un cwestiwn:

‘Dr Price, ydych chi’n digwydd bod yn hoff o arddio?’

A chyn bod cyfle gan Dr Geraint Price, oedd wedi gwasanaethu’r Brifysgol yn ffyddlon am ddeugain mlynedd, feddwl am ystyr y cwestiwn, daeth eglurhad o ochr arall y ddesg.

‘Dr Price, dwi wedi dod i’r casgliad anochel bod rhaid rhesymoli’ch Adran. Does dim dewis arall ’da fi ond eich gadael chi fynd, i hala mwy o amser gyda’ch hollyhocks a’ch moron. Diolch am eich gwaith i’r Brifysgol dros y blynyddoedd.

Prynhawn da ichi!’

Safodd Geraint yn stond am hanner munud, fel petai e o flaen ei well mewn llys. Wedyn, am ryw reswm doedd e ddim yn gallu esbonio yn nes ymlaen, ysgydwodd law’r Is-Ganghellor, oedd wedi’i hestyn tuag ato, a cherdded i ffwrdd yn araf, heb ddweud gair. Erbyn y dydd Llun canlynol roedd ei ystafell yn wag, ac roedd e wedi diflannu o’r campws.

‘Bastard! Y bastard!’

Roedd wyneb Eugene wedi cochi’n sydyn iawn, ac roedd ei wddw yn chwyddo’n drawiadol. Edrychai top ei ben fel petai ar fin ffrwydro. Roedd Llŷr yn ymwybodol bod gan Eugene dymer ddrwg iawn. Enillodd ei blwyf fel ymchwilydd ar strydoedd Chicago yn yr wythdegau, ymysg gangiau treisgar yr Ochr Ddeheuol. Yn hytrach nag ymgolli yn y cefndir, roedd e wedi ymyrryd, yn annoeth, mewn brwydr waedlyd rhwng dau o’r gangiau, y Latin Cobras a’r Killing Boys, ac wedi colli un o’i freichiau mewn ymosodiad machete. Chwarae teg, roedd e wedi cwblhau’r ymchwil a’i gyhoeddi mewn llyfr yn dwyn y teitl Disarming Chicago: confronting violent crime in a US city. Ond roedd y profiad wedi gadael marc ysbrydol arno, a thuedd i golli ei dymer yn wyneb unrhyw anghyfiawnder canfyddedig.

‘Gan bwyll nawr, Gene, alli di ddim bod yn siŵr am natur perthynas rhieni’r Athro Jones!’

‘Dwi wedi cwrdd â nifer o gymeriadau seicopathig dros y blynyddoedd, ond does dim un ohonyn nhw sy’n gallu cystadlu yn ei erbyn. Dim syndod bod troseddwr fel fe’n benderfynol o gau Criminoleg!’

‘Allwn ni ddim bod yn siŵr taw dyna yw ei fwriad, Gene. Bydd rhaid inni ddadlau ein hachos, chwilio am ffrindiau, bod yn rhesymol.’

‘Bod yn rhesymol! Pwff! Ers pryd mae Diocletian Jones yn gweithredu’n rhesymol? Dyw e ddim yn gwbod ystyr y gair, y domen gachi.’

Gyda hynny troes Eugene ar ei sawdl a gadael yr ystafell. Gallai Llŷr glywed corwynt bach o awyr poeth yn chwyrlio yn ei sgil ar ôl i’r drws gau.

Plygodd Llŷr yn ôl yn ei gadair a dechrau myfyrio. Roedd e’n hoff iawn o Eugene. Edmygai ei allu i regi mor huawdl yn y Gymraeg. Yn ei ffordd Americanaidd roedd e bob amser yn barod i ddangos ei deimladau greddfol. Ar y llaw arall, gallai fod yn fyrbwyll ac yn beryglus o eithafol yn ei ymateb i bobl eraill.

Ond eto, tybed a oedd rhyw wirionedd yn ei eiriau am fwriadau’r Is-Ganghellor? Oedd hwnnw’n benderfynol o yrru’r isadran i ebargofiant? Edrychodd Llŷr allan trwy’r ffenestr eto, gan feddwl am y canlyniadau posibl, cyn dychwelyd i’r sgrin a straffaglu trwy’r e-byst di-rif.

Mae Rhwng y Silffoedd gan Andrew Green (Y Lolfa, £8.99) ar gael nawr.

www.ylolfa.com

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s