Ysgwydd o gig oen Cymreig gyda rhosmari, lemwn a bara lawr | Blas o lyfr coginio ‘Bwyd Cymru yn ei Dymor’ gan Nerys Howell

Arferai nifer o gogyddion arbrofi gyda bara lawr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gan ei weini gyda chig dafad Cymreig rhost mewn saws a wnaed gyda sudd oren. Mae’r rysáit hon yn fersiwn gyfoes a hwnnw. Gellir defnyddio coes cig oen heb asgwrn a’i goginio mewn 50 munud ar wres 180°C/Nwy 4.

Digon i 6

CYNHWYSION

  • 4 llwy fwrdd o olew olewydd
  • 4 ewin o arlleg
  • 2 lwy fwrdd o sbrigynnau rhosmari ffres
  • Llond llaw o ddail mintys ffres
  • 1 lemwn
  • 2 lwy fwrdd o fara lawr
  • Halen Môn a phupur du
  • Ysgwydd o gig oen Cymreig heb asgwrn wedi’i rowlio, tua 1.6kg
  • 1 llwy fwrdd o fêl

DULL

  1. Rhowch yr olew, y garlleg wedi pilio, y perlysiau a chroen a sudd y lemwn mewn prosesydd bychan er mwyn cyfyno popeth. Ychwanegwch y bara lawr at y gymysgedd ynghyd â halen a phupur.
  2. Gwnewch dyllau bychan ond dwfn yn y cig oen a gwthio’r gymysgedd i’r tyllau, yn ogystal â’i thaenu dros arwyneb y cig. Rhowch y cig mewn tun rhostio, ei orchuddio a’i adael yn yr oergell am 3 awr neu dros nos.
  3. Tynnwch y tun rhostio o’r oergell a gadael y cig am hanner awr tan y bydd yn cynhesu i wres yr ystafell.
  4. Cynheswch y popty i 190°C/Nwy 5. Rhostiwch y cig oen yn y popty am 20 munud. Yna trowch y tymheredd i lawr i 160°C/Nwy 2 a choginio’r cig am 2.5 – 3 awr, gan arllwys ychydig o’r sudd drosto bob hyn a hyn.
  5. Tynnwch y cig o’r tun rhostio a’i roi ar blât gweini cynnes tra y byddwch chi’n gorffen gwneud y sudd.
  6. Codwch y saim oddi ar y sudd a dod â’r cyfan i’r berw. Chwisgiwch y mêl i mewn, ychwanegu halen a phupur a’i weini gyda’r oren.

Rysáit o Bwyd Cymru yn ei Dymor gan Nerys Howell, ar gael nawr (£14.99, Y Lolfa).

www.ylolfa.com

Gadael sylw