Blas ar nofel | Ysbryd Sabrina gan Martin Davis

Mae Hayley yn trio dod o hyd i’w brawd a ddiflannodd o’r cartref bymtheng mlynedd ynghynt. Mae’r daith yn mynd â hi i Amwythig, lle mae’n cwrdd â phob math o gymeriadau brith. Ond a fyddan nhw’n ei harwain at ei brawd, Dylan? Nofel ddirgelwch, gyfoes, gan feistr ar adrodd stori afaelgar.

“Mae cwestiynau’n codi wrth chwilio am atebion, gydag adleisiau hanes a chwedlau’n sibrwd yn y cof. Stori am berthyn a’r clymau sy’n ein cysylltu ar draws ffiniau gwlad ac amser.”

– Catrin Beard

Dyma’r bennod gyntaf o nofel newydd Martin Davis, Ysbryd Sabrina.

___________________________________________________________________


Wrth iddi nesáu at Bont y Saeson cyflymu wnaeth curiad y drwm. Cyflymu hefyd wnaeth ei chamau
hithau wrth i darddiad y sŵn ddod i’r fei. Y tu ôl iddi roedd olwynion ei chês mawr yn rymblo a chlecian yn gysurus braf ar y pafin. Roedd yna ryw gyffro yng nghuriad y drwm ar y bont ond roedd hefyd yn peri anesmwythyd iddi, gan ei hatgoffa o ansicrwydd ei chwest.
Gallai weld y drymiwr erbyn hyn yng ngolau’r stryd tua hanner ffordd ar draws y bont lydan, yn fwbach blêr yn ei gwman dros ei offeryn a chi nychlyd yn dorch dynn wrth ei draed. Oedodd Hayley Havard a symud y bag trwm arall oedd ganddi o’r naill ysgwydd i’r llall.
Ymlaen â hi eto, ond yn ddisymwth, a hithau’n mynd heibio i le safai’r drymiwr, dyma olwynion y cês yn stopio troi a daeth sŵn crafu annifyr yn lle’r powlio cartrefol a dechreuodd y cês sgiwio i bob cyfeiriad.
Stopiodd Hayley a phlygu i weld beth oedd o’i le ac wrth iddi wneud, llithrodd y bag o’i hysgwydd gan daro’n glewt ar y pafin.
‘O, shit!’
Cododd y bag a cheisio symud yn ei blaen eto, ond roedd un o olwynion y cês yn amlwg wedi’i chloi – rhaid bod carreg fach wedi mynd yn sownd yn rhywle. Ymbalfalodd yn ofer â’r ddisg blastig, ei bysedd rhynllyd yn colli teimlad wrth boitsian yn y rhigol gul rhwng yr olwyn a’r cês.
Roedd y naill olwyn yn dal i droi’n iawn ond doedd dim modd symud y llall.
Roedd y drymiwr wedi stopio hefyd ac erbyn hyn yn syllu arni. Wrth ei draed dyma’r sgrepyn mwngrel yn codi’i ben ac yn cyfarth yn siarp. Swatiai Hayley ar bwys ei chês ychydig lathenni’n unig oddi wrthyn nhw. Roedd y traffig hefyd wedi peidio am y tro, a’r bont yn hollol dawel fel pe bai wedi’i hynysu o’r byd mawr y tu allan. Roedd aer y nos yn fregus, yr oerni’n treiddio, yn deifio’r llwnc ac yn cipio’r anadl…
Ai noson fel hon oedd hi ar y noson y diflannodd Dylan, meddyliodd Hayley.
Rhoddodd gynnig arall ar symud yn ei blaen – ond, na, dyma sŵn crafu cras unwaith eto. Chwarddodd y drymiwr a dywedodd rywbeth aneglur mewn llais cryg a chwerthin drachefn. Cododd y ci ar ei draed a chyfarth ddwywaith eto.
Gwasgodd Hayley yr handlen dowio i mewn i’r cês a’i godi a cherdded yn fân ac yn fuan ar ei sodlau – pam ddiawl wisgodd hi’r rhain? – tuag at ben arall y bont, a phwysau’r cês yn brathu i’w llaw bob cam.
Gwaeddodd y drymiwr rywbeth arall a swniai fel ‘Sdim troi’n ôl’ – ond allai hi fyth bod yn siŵr.
Drwy hanner lleuadau bwâu’r bont dan gysgod hen furiau rhithiol Pengwern, ymestynnai cyhyr du afon Hafren, yn feichiog â glawogydd y gaeaf, ar ei hirdaith o Bumlumon bell i’r môr – afon y dduwies Geltaidd, Sabrina, a foddodd yn llif tragwyddol ei dyfroedd.
Ailgydiodd curiad y drwm wrth i Hayley wegian ar ei hynt i’r gwyll…

Mae Ysbryd Sabrina gan Martin Davis ar gael nawr (Y Lolfa, £8.99)

www.ylolfa.com

One comment

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s