Adolygiad | Lloerganiadau gan Fflur Dafydd

Lloerganiadau gan Fflur Dafydd

Lloer-gofiant unigryw sy’n ein tywys drwy nosweithiau amrywiol yr awdur amryddawn, Fflur Dafydd. Mae Lloerganiadau yn gyfrol hudolus, doniol ac cignoeth. Mae’r llyfr hunangofiannol yma’n pontio rhwng y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.

Dyma adolygiad gan Sioned Erin Hughes:

Mae hon yn gyfrol sy’n mynd â ni ar daith bywyd drwy blethu’r gorffennol, y presennol a’r dyfodol i’w gilydd yn gymen. Cawn brofi ias a chynnwrf nos Galan Gaeaf plentyndod, gwefr a ffolineb cariadon cyntaf, nosweithiau di-gwsg o lafur cariad wrth fwydo baban newydd-anedig o’r fron – mae hyn oll a chymaint mwy yma, yn bytiau drudfawr o fywyd. Ac i ychwanegu at y swyn a’r cyfaredd, mae’r lloer yn taro’i lewyrch dros y cwbl, yn bresenoldeb parhaus sy’n cadw’r cyfan yn dynn.

Mae gan yr awdur ffordd o siarad sy’n amheuthun o dyner, a’r gallu i greu rhyw fregusrwydd hardd o bob sefyllfa. Mae’n grefft medru gwneud hynny mewn modd sy’n ymddangosiadol ddigymell, ond mae’r awdur yn llwyddo drwodd a thro. Er iddi fod yn gyfrol athronyddol ei naws ar adegau, rhyfedda’r darllenydd at allu’r awdur i drafod y dwys mewn ffordd ysgafn, braf, sydd byth yn llethu.

Dyma’r math o gyfrol y byddwch yn eich canfod eich hun yn rhoi seren fach gyferbyn â dyfyniad sy’n eich cyffwrdd i’r byw, a gallaf ddweud yn ddiffuant bod fy nghopi yn gyforiog o’r ser bychain hynny – teyrnged bellach i seryddiaeth. Ac maen nhw’n ddyfyniadau gobeithiol, yn rhai sy’n cynnal. Enghraifft nodweddiadol o hyn yw’r dyfyniad a ganlyn: ‘Y cyfan sydd ei angen yw bod y goleuni yn dychwelyd; ar yr adeg iawn, a daw popeth fu’n gudd, pob dim a aeth yn honedig angof, yn weledol unwaith yn rhagor.’

Cyfrol i’w darllen mewn un eisteddiad, mae hynny’n sicr. Anodd iawn yw gollwng gafael arni, a hyd yn oed ar ôl llwyddo i wneud hynny, mae’r dynfa i ddychwelyd ati’n aros.

Mae Lloerganiadau gan Fflur Dafydd ar gael nawr am £9.99.

Cyhoeddir yr adolygiad yma yn rhifyn Ebrill 2021 Y Cymro yn y lle cyntaf.

www.ylolfa.com

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s