Wythnos Iechyd Meddwl 2021 | Meddwl am Man U gan Rhodri Jones

Cyhoeddwyd hunangofiant Rhodri Jones yn ddiweddar, Meddwl am Man U, sy’n olrhain ei yrfa fel cyn-pêl-droediwr proffesiynol ifanc – gan gynnwys chwarae i dîm cyntaf Manchester United yn ôl yn ‘Oes Aur’ y clwb rhwng 1996 a 2000. Chwaraeodd I Rotherham ac yn Uwch Gynghrair Cymru i Gwmbrân a Chaerfyrddin, cyn ymddeol o’r gêm yn dilyn anafiadau i’w ben-glin.

Yn ogystal â straeon difyr am fawrion y byd pêl-droed megis Giggs, Beckham a Keane, mae Rhodri yn trafod ei berthynas â’i iechyd meddwl. Mae Rhodri wedi wynebu heriau gyda’i iechyd meddwl erioed, ac yn y gyfrol, mae’n archwilio yr effaith a gafodd hynny ar ei fywyd ac ei yrfa – yn enwedig yn ystod yr amser y ddiddymwyd ei gytundeb gyda Manchester United.

Dyma rannau o Meddwl am Man U sy’n trafod hyn:

_______________________________________________________________________________________________________________

“Am gyfnod helaeth o fy mywyd, credais fod fy meddyliau bygythiol yn arwydd o wendid. Deallaf erbyn hyn nad yw hyn yn wir. Mae meddyliau pawb yn brysur o bryd i’w gilydd. Yr hyn sy’n bwysig yw peidio â gwrando’n ormodol ar y llais yn y pen. O wneud hynny, daw rhyddid rhag crafangau caeth y meddwl. Bu adeg pan ystyrid bod mynd i’r gampfa i ymarfer y corff yn rhywbeth i rai pobl yn unig ond bellach mae’n weithgaredd poblogaidd a chyffredin sy’n rhan o’n diwylliant. Mae gofyn rhoi yr un sylw i hybu iechyd y meddwl hefyd. Ein cyrff yw ein cerbydau ond rhaid cofio taw ein meddyliau sydd wrth y llyw.”

Arwyddo cytundeb ysgolion Man U gyda Syr Alex Ferguson yn Old Trafford.

“Does dim elfen flodeuog yn perthyn i iselder. Mae fel petai lladron wedi torri i mewn trwy’r drws ffrynt yn dy ben. Mae’r larwm yn atseinio’n fyddarol yn fewnol, ond nid yw’r sŵn yn cario i’r byd tu fas. Mae’r lladron yn llwyddo i ysbeilio’r tŷ, gan droi popeth ben i waered. Ond hawdd yw cuddio’r difrod pan fo’r waliau’n dal i sefyll.

‘Rwyt yn anobeithiol.’

‘Dwyt ti ddim digon da.’

‘Ti wedi gadael pawb i lawr.’

Byddai’r meddyliau hyn yn chwyrlïo o gwmpas fy mhen ar fore gêm i’r ail dîm. Cynhelid y gemau yn y nos, felly byddai’r ddolen yma o feddwl yn dechrau o’r munud i mi ddeffro tan i mi gyrraedd y stadiwm yn y nos. Roedd fel chwarae gêm o whack a mole gyda fy meddyliau – y morthwyl yn taro un meddwl i lawr a thri arall yn neidio lan yn ei le. Mae hi’n amhosib i berfformio ar y cae yn y fath stad feddyliol. Amcangyfrifir fod yr ymennydd yn defnyddio ugain y cant o egni’r corff bob dydd. Roeddwn wedi blino’n llwyr, cyn hyd yn oed gwisgo’r cit.

Dwi wedi sôn eisoes am y stad o flow pan berfformiwn ar fy nghorau ond roedd y teimlad yma’n hollol gyferbyniol i’r teimlad rhydd hwnnw. Byddai symud pob cyhyr yn y corff yn ymdrech. Roedd disgleirdeb y llifoleuadau yn fy nallu a phob munud o’r naw deg yn llusgo. Syllwn ar y fainc, yn erfyn i’r rheolwr ddod â rhywun arall ymlaen yn fy lle i’m harbed rhag y teimlad annifyr ar y cae. Yswn i dwll du agor a’m sugno o’r hunllef. Roedd fy ngyrfa wedi rhewi ond ar y pryd roedd materion mwy difrifol i’w hystyried.

Ofnwn y cyfnodau hynny a dreuliwn ar ben fy hun yn y fflat. Roedd tafarn gyferbyn â’r adeilad felly o bryd i’w gilydd awn i eistedd yno. Yn ôl yn 2002, doedd yr ymwybyddiaeth am iechyd meddwl ddim fel ag y mae heddiw. Depressed oedd y gair a ddefnyddiwyd yn anystyriol i ddisgrifio diwrnod gwael. Roedd y syniad o ddioddef o salwch iechyd meddwl yn rhywbeth estron.

Pryd oedd y meddyliau ar eu tawelaf?

Pan ro’n i’n cysgu oedd yr ateb.

Sut allaf ymestyn hyd y cyfnod tawelach?

Cysgu am byth meddyliais.

Ro’n i’n ffodus nad oedd alcohol wedi apelio’n gryf ata i neu efallai y byddwn wedi mynd ar drywydd gwahanol. Yn y dafarn eisteddwn yn sipian diod meddal. Efallai y byddai alcohol wedi llwyddo i fyddaru’r llais: Dyw hyn ddim yn iawn. Rhaid i ti wneud rhywbeth am hyn.

Gyferbyn â’r fflat roedd meddygfa. Es i weld y doctor. Wrth edrych yn ôl, dwi’n rhyfeddu fod gen i’r ymwybyddiaeth fel crwtyn ugain mlwydd oed i wneud hyn oherwydd do’n i ddim wedi dweud wrth neb am y gwir reswm dros y dioddef. Hiraethu am adre fyddai’r esgus i’r teulu. Roedd hi’n sefyllfa letchwith i’r doctor oherwydd er nad oedd yn ddoctor swyddogol yn y clwb, fe oedd doctor y clwb i bob pwrpas. Do’n i ddim wedi bod i’w weld yn ystod fy amser yn y clwb hyd yn hyn, ond roedd yn fy adnabod wrth i mi gerdded i fewn. Rhoddodd ddiagnosis o iselder i mi a phresgripsiwn ar gyfer tabledi.

‘Does anyone at the club know?’ gofynnodd.

‘No one does,’ atebais.

Edrychodd arnaf yn syn wrth i mi adael – roedd cyfrinachedd claf yn ei atal yntau rhag dweud wrth neb hefyd.

Awn i ymarfer bob dydd gyda’r tabledi yn siglo yn fy mol. Cymerodd gwpl o wythnosau cyn iddynt gael unrhyw effaith arnaf. Dechreuais deimlo yn ddideimlad fel rhyw fath o zombie. Byddai’n well gen i deimlo rhywbeth na theimlo dim byd, meddyliais. Ro’n i am ddeall o ble deuai’r teimladau hyn er mwyn gallu eu goresgyn. Ers hynny dwi wedi bod yn chwilfrydig i ddarganfod mwy am y llais a lywiodd fi i’r gyfeiriad cywir yn sgil yr holl lanast yn fy mhen ar y pryd. Daeth o rywle tu hwnt i’r meddwl – rhyw fath o ymwybyddiaeth dyfnach. Tabledi yw’r ateb yn y tymor byr i rai ond ro’n i am wella o’r tu mewn ac er mwyn gwneud hynny byddai rhaid cymryd cam eithafol, meddyliais.

Es at Ronnie, y rheolwr, ar ôl ymarfer a gofyn am gyfarfod. Ers y tymor a hanner i mi fod yn y clwb, nid oeddwn wedi cael sgwrs bersonol ag e. Trefnodd i mi alw i’w weld yn ei swyddfa yn y stadiwm yn Millmoor. Mae’n debyg ei fod yn disgwyl i mi gwyno pam nad o’n yn y tîm – dyna’r math o gyfarfodydd y byddai’n eu cael gyda chwaraewyr fel arfer ond gan gofio sut ro’n i’n perfformio ar y pryd, byddai’n embaras llwyr i mi wneud cwyn o’r fath. Roedd yr amgylchiadau dipyn yn wahanol o’u cymharu â’r cyfarfod gyda Syr Alex. Fi oedd yn arwain y sgwrs y tro hwn.

‘I want to rip up my contract.’”

“Dwi’n gwybod fod Mam a Dad yn cwestiynu pam na wnaethon nhw fwy i fy helpu ar y pryd, ond sut wydden nhw fod unrhyw beth difrifol o’i le? Gwisgwn fwgwd o’u blaen nhw hyd yn oed. All teulu na ffrindiau ddim darllen meddwl – hyd yn oed pan fydd rhywun yn erfyn arnynt i sylwi. Efallai y gallent synhwyro fod rhywbeth o’i le, ond dyna i gyd. Roedd hi’n hawdd i mi guddio hefyd, a finnau’n bell o adref. Dyna pam mae siarad gyda rhywun y gellir ymddiried ynddynt mor bwysig. Petai ffrind yn siarad gyda fi fel wnes i yn fy mhen ar y pryd, byddwn wedi dweud wrthynt lle i fynd ond ro’n i’n ufudd i’r llanast. Weithiau mae clywed yn allanol yr holl dwpdra rwyt yn ei ddweud wrthyt dy hun yn fewnol yn ddigon i gael effaith…”

“Doedd fy ffordd o geisio dygymod gyda bywyd drwy anwybyddu pethau a bod mor hunan-feirniadol ddim yn gweithio ac roedd wedi llwyddo i fy arwain at y pwynt hwn. Weithiau mewn bywyd, fel mewn gêm bêl-droed, rhaid newid tacteg.

Am gyfnod roedd rhaid canolbwyntio ar y tu mewn yn hytrach nag ar lwyddiannau allanol. Roedd angen i mi lanhau’r llechen – a gwneud hynny fy hun. Roedd rhaid bod yn onest, cymryd cyfrifoldeb, ond hefyd dechrau bod yn garedig gyda mi fy hun, a rhoi fy ngofynion i’n gyntaf yn hytrach na cheisio plesio pawb. Wrth gwrs, rwy’n barod i wneud unrhyw beth i’m gwraig a ’mhlant annwyl, ac roedd dal angen i mi ddarparu ar eu cyfer ond ro’n i’n gwybod nad o’n i’n werth dim iddynt chwe throedfedd o dan y ddaear.

Do’n i ddim am ychwanegu mwy o straen at fy mywyd, ond yn hytrach am symleiddio pethau am gyfnod a cheisio lleihau unrhyw ffynonellau negatif. Ro’n i wedi edrych ar y byd fel un gystadleuaeth fawr rhwng pawb – dylanwad y byd pêl-droed, heb os. Ond nid dyma oedd y ffordd orau i fyw bellach. Ar y llaw arall, llwyddodd y gêm i feithrin y ddisgyblaeth a’r dyfalbarhad fyddai o fudd i mi yn ystod y cyfnod yma – pan oeddwn ei wir angen. Roedd angen glanhau’r lens a ddefnyddiwn i edrych ar y byd, a dod i ddeall y meddwl o ddifri drwy astudio, ymarfer a synfyfyrio.

Dydw i ddim am fanylu ar yr hyn a oedd o gymorth i mi. Does dim byd gwaeth na darllen llyfr sydd yn awgrymu’r atebion – y gwir yw does dim llawlyfr ar sut i fyw bywyd – er enghraifft byddai rhai pobl yn darllen llyfrau Stoiciaeth ac yn teimlo dim budd o’u darllen. Tydi’r holl grefyddau ddim yn cytuno ar un ffordd o fyw hyd yn oed. Y gwir yw does gan neb yr ateb i fywyd…

Yr hyn wnaeth wahaniaeth mawr i mi oedd dysgu ildio a derbyn popeth sy’n digwydd. Tydi hynny ddim yn golygu rhoi’r gorau iddi, yn hytrach mae’n golygu peidio â gwrthsefyll pethau. Am flynyddoedd ceisiais reoli popeth yn fy mywyd, gan obeithio cyrraedd pwynt yn y dyfodol lle byddai popeth yn iawn. Ro’n i’n ceisio edrych am sicrwydd mewn byd sydd yn ansicr ei natur ac yn newid ar gyflymder gwahanol. Dyma yw llif bywyd.

Wedi perfformiad da ar y cae pêl-droed, dyhëwn am fedru storio’r perfformiad a’i ailadrodd ar bob achlysur – ond tydi bywyd ddim yn gweithio felly. Gallwn baratoi union yr un ffordd yr wythnos ganlynol a pheidio cael perfformiad cystal. Weithiau, dydi’r bêl ddim yn dod i gyfeiriad rhywun, er gwaetha’r holl baratoi ac ymdrech.”

Mae Meddwl am Man U gan Rhodri Jones ar gael nawr am £9.99 (Y Lolfa).

www.ylolfa.com

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s