Adolygiad | O Glust i Glust gan Llwyd Owen

“O’r diwedd, mae’r amser wedi dod i weithredu. I ymddial. I wneud yn iawn am yr hyn ddigwyddodd.”

Yny dyfodol agos, mewn gwlad debyg iawn i’r Gymru gyfoes, mae yna lofrudd yng Ngerddi Hwyan. Un sy’n barod i ddial. Un noson, mae’n taro ac mae’r dioddefwr cyntaf yn teimlo min y gyllell.

Dair mlynedd ar ôl iddi ddod yn agos at farw ar lethrau Mynydd Parys, mae’r profiad arswydus yn dal i aflonyddu ar DS Sally Morris. Ond rhaid edrych ymlaen wrth iddi arwain yr archwiliad newydd.

Mae’r weithred gyntaf yn waedlyd, ond y dystiolaeth yn brin. A fydd y ditectif dibrofiad yma yn gallu dod o hyd i’r llofrudd cyn iddo daro eto… ac eto…?

Dyma adolygiad Mared Llywelyn o O Glust i Glust gan Llwyd Owen:

Mae sawl pensiynwr yng Ngerddi Hwyan yn wên o glust i glust… ond bod y wên honno ar eu gyddfau. Dyna i chi flas cychwynnol ar y nofel afaelgar hon sy’n ein harwain ar drywydd person sy’n benderfynol o ddial, ac o’r diwedd gwneud iawn am ddigwyddiadau’r gorffennol. Mae yma lofrudd cyfresol sydd â sgiliau medrus, glân. Maen nhw hefyd yn gadael cliwiau cryptig ar eu holau yn lleoliad y drosedd, neges sy’n codi dau fys olaf ar y dioddefwyr celain. Mae gan DS Sally Morris a’i phartner Dafydd Benson dasg a hanner ar eu dwylo.

O Glust i Glust yw’r chweched nofel gan Llwyd Owen yng nghyfres tref ddychmygol Gerddi Hwyan. Mae’r awdur bellach wedi ysgrifennu pedair nofel ar ddeg, ond mae’r gyfres hon yn sefyll ar wahân i’r nofelau eraill. Maent yn cynnwys yr holl nodweddion y dylai nofel drosedd dda eu cynnwys; cymhelliant, yr annisgwyliadwy, cymeriadau gafaelgar, cymhleth a datrysiad.

Yr hyn a fy nharodd ai am y nofel hon yn enwedig oedd sut yr oedd rhai cymeriadau yn diffinio ac yn ymateb i’w moesoldeb eu hunain. O’r herwydd roeddwn yn cydymdeimlo’n ddwys â’r llofrudd wrth i’r nofel redeg yn ei blaen o un digwyddiad dadlennol i’r llall, ac yn dechrau cwestiynu fy moesoldeb fy hun.

Dilyniant i Rhedeg i Parys yw o Glust o Glust, ond ni fydd hynny’n effeithio ar fwynhad y darllenydd o’r nofel gyfredol o gwbl. Mae’r awdur yn sicrhau bod digon o gyd-destun ar gyfer pob cymeriad heb i hynny deimlo’n astrus – o brofiadau hunllefus Sally Morris ar lethrau Mynydd Parys i hanes trawma o ddyddiau ieuenctid dirprwy yr adran dditectifs, Rolant Price.

Wedi iddi adfer o’i hanafiadau a dechrau dygymod â’r bwganod sy’n parhau i’w phoenydio, dair mlynedd yn ddiweddarach mae Sally Morris wedi ailafael â’i gyrfa fel ditectif yng Ngerddi Hwyan ac yn benderfynol o wneud ei marc.

Mae dwy edefyn stori yn cael ei dilyn. Y cyntaf yw’r stori gyfredol, a’r brif nod yw dal y llofrudd cyn iddynt daro eto, ac eto. Mae’r ail naratif yn mynd â ni yn ôl i 1994, ac ar yr olwg gynta byd nostalja Magi, gyda cherddoriaeth pop perffaith East 17 a Wet Wet Wet yn drac sain i’w bywyd. Dihangfa yw hyn wrth gwrs, a hynny o’r byd slebogaidd, seedy mae’n trigo ynddo.

Does dim dwywaith mai merched yw sêr y nofel hon – mae Sally yn amlwg yn gymeriad cryf a galluog, ond mae’r portread o gyfeillgarwch agos Magi a Cadella yn un gofalus a sylwgar a phan mae’r berthynas honno’n dechrau mynd o chwith mae’n torri’ch calon yn deilchion.
Mae mam Magi ar y llaw arall yn eich cythruddo, ond eto rydych am iddi achub ei hun o’r sefyllfaoedd mae wedi cael ei gorfodi iddynt.

Mae datrysiad i’r llofruddiaethau, oes. Ond tydi pethau byth mor syml â hynny. Unwaith y byddwch wedi cael eich dannedd yn y nofel hon, bydd yn anodd iawn ei rhoi i lawr.

Mae O Glust i Glust gan Llwyd Owen ar gael nawr (£8.99, Y Lolfa).

www.ylolfa.com

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s