Adolygiad | Yn Fyw yn y Cof gan John Roberts

Yn Fyw yn y Cof gan John Roberts

Ni ddylir beirniadu llyfr wrth ei glawr, ond mae’r ddelwedd hyfryd o fachlud yn gwaedu dros dyddyn gwledig yn cynhesu’r galon. Mae gwaith arbennig Valériane Leblond yn gwneud hynny i rywun yn aml iawn.

Bu Yn Fyw yn y Cof yn agos i gipio gwobr Daniel Owen yn yr Eisteddfod AmGen a gynhaliwyd yn 2021, a da o beth bod cymaint o’r nofelau sy’n cael eu gyrru i’r cystadlaethau hyn yn cael eu cyhoeddi.

Hynt, helynt a threialon bywyd tair cenhedlaeth o’r un teulu a gawn yn y nofel, sef Anti Glad, Iorwerth ei nai a Bethan ei ferch yntau. Mae strwythur y nofel yn ein harwain drwy’r gwahanol genedlaethau gan ddilyn hanesion Heddiw, Ddoe ac Echdoe. 

Wedi marwolaeth Anti Glad mae Iorwerth yn penderfynu newid cyfeiriad. Mae’n gadael ei swydd ddidiolch fel athro hanes a symud gyda’i deulu i Dyddyn Bach i drio gwneud bywoliaeth yno gyda’i wraig Margaret a Bethan ei ferch. Ceir darlun rhamantus o gefn gwlad ac erstalwm – o’r ocsiwn a’r dynion sy’n cael eu hadnabod wrth enwau eu ffermydd, i’r anturiaethau ar y ffyrgi bach llwyd. Mae’r ffyrgi bach fel petai’n ymgorffori gwir hapusrwydd y teulu newydd yn Nhyddyn Bach, ond yn anffodus i’r cymeriadau dim ond ambell i fflachiadau o wir hapusrwydd a geir.

Mae sawl perthynas yn cael eu rhoi dan y chwyddwydr, o berthynas Glad a Gruff yn ystod dyddiau cythryblus yr Ail Ryfel Byd i berthynas byrhoedlog Bethan a Gwynfor. Mae perthynas Bethan a Gwynfor yn adleisio un Glad a Gruff gan bod digwyddiadau allweddol yn digwydd ar yr un traeth, ond nid yw’r un o’r ddwy berthynas yn diweddu’n hapus, ac yn hytrach na bod yn harbwr diogel i gariadon ifanc, gadael ias oer mae’r traeth.

Heb os y garwriaeth fwyaf clos a real yw’r un rhwng Bethan a’r ferch gwallt pinc, Greta. Mae Greta yn angor i Bethan ac ‘Yncl Iorwerth’, yn enwedig yn ystod dyddiau anodd yr ‘Heddiw’.

Mae’r clefyd dementia yn cymryd lle canolog yn y stori, ac wrth bortreadu Iorwerth yn byw o ddydd i dydd gyda’r cyflwr mae’r awdur ar ei orau, gyda sawl golygfa ddirdynnol yn codi gwên a pheri i rywun golli deigryn. Wrth i Iorwerth lithro fwyfwy yn ôl i’w blentyndod mae golygfeydd cyfochrog ‘Heddiw’ a ‘Ddoe’ wedi eu strwythuro’n gampus.

Mae ei ferch, Bethan fel petai wedi colli’i ffordd yn llwyr – nid yw’n gallu wynebu’r ffaith ei bod yn colli’r tad roedd hi’n ei adnabod. Mae penderfyniad Bethan tuag at ddiwedd y nofel yn sicr o godi cwestiynau gan y darllenydd am ei chymeriad. Mae Greta ar y llaw arall yn gweld rhai fflachiadau o’r hen Iorwerth, ond mae hefyd yn gallu gwerthfawrogi’r Iorwerth newydd.

Yn ganolog i’r stori mae’r hen Dyddyn Bach. Mae’n hafan i Iorwerth yn fachgen bach wrth dreulio amser gyda’i Anti Glad annwyl, ac mae’n hafan iddo ef, Margaret a Bethan am gyfnod hefyd. Ond mae teulu arall â’i llygaid ar yr hen dyddyn hefyd, a’r teulu hwnnw’n gysgod tywyll, gan boeri ei gwenwyn, reit hyd at frawddeg olaf y nofel.

Wrth edrych ar y clawr unwaith eto, dwi’n sylwi ar yr hen giatiau, y goeden â’i changhennau noeth sy’n ddigon i godi croen gŵydd ar rhywun, a’r cyfuniad o’r rhamantus a’r sinistr sy’n gweddu cynnwys y nofel i’r dim.

Mae Yn fyw yn y cof gan John Roberts (£8.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

www.ylolfa.com

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s