
Dros gyfnod o bedair blynedd, aeth yr awdur Gareth Evans-Jones ati i gerdded o amgylch Cymru, gan ddilyn llwybr yr arfordir a Chlawdd Offa. Cylchu Cymru ydi ffrwyth y teithiau hynny. Mae’r gyfrol yn cynnig inni fewnwelediad cryno i’r lleoliadau, ac yng ngeiriau’r awdur ei hun, mae’n cwmpasu ‘eu straeon, eu hanes, eu chwedloniaeth, a’u cyfaredd’ – a hynny drwy gyfrwng llenyddiaeth greadigol, lluniau trawiadol a dylunio lliwgar Olwen Fowler. Isod, ceir adolygiad gan Mared Llywelyn ar lafur yr awdur.
Ambell dro mae rhywun yn awchu am gael darllen rhywbeth byr, i lenwi hanner awr dros ginio, neu os ydi’r llygaid ar fin cau cyn ei throi hi am y gwely. Fel hyn dw i wedi ymdrin â darllen llên meicro erioed. Tydyn nhw ddim fel arfer yn ddarnau i’w llyncu un ar ôl y llall, ond yn hytrach yn ddarnau bach cyfoethog i gnoi cil drostynt. Dyna’n union gewch wrth ddarllen Cylchu Cymru, cyfrol hyfryd sy’n haeddu ei lle ar bob bwrdd coffi neu silff lyfrau.
Mae’r gyfrol yn cyfuno llun a llên wrth i’r awdur, Gareth Evans-Jones grwydro a chylchu Cymru wrth ymateb yn greadigol i’r lleoliadau, a dyma gynnyrch ei bererindod.
Er mai ymateb yn greadigol i’r lleoliadau hudolus o Fôn i Fynwy mae’r awdur, ni ddylid hynny rwystro’r rhai sy’n ffafrio llyfrau ffeithiol serch hynny. Teimlai fel cyfuniad o ffuglen a ffaith, ac yng nghefn y gyfrol mae’r awdur yn rhoi gair o eglurhad ar yr hyn sydd wedi ysbrydoli’r darnau drwy roi cyd-destun i’r lleoliadau. Yn ogystal â hynny, mae darluniau a diwyg y gyfrol yn hardd iawn i’r llygaid, o oleuadau Nadolig Stryd Fawr Bangor yn wincio, i ehangder machlud oren Bae Rhosili – mae rhywbeth sy’n mynd i fod yn apelgar i bob math o ddarllenydd.
Wrth bori drwy’r gyfrol mae’n codi’r cwestiwn: faint o’n gwlad yr ydym wedi’i gweld mewn gwirionedd? Hyd yn oed os ydym wedi trafeilio i sawl cornel o’n gwlad, faint ohoni yr ydym wir wedi ei gwerthfawrogi? Mae’n debyg mai dyma gymhellodd yr awdur i ddechrau ar y daith hon, a noder mai cylchu Cymru y mae, nid trafeilio mewn llinell syth o Fôn i Fynwy! Taith ar hyd arfordir Cymru a Chlawdd Offa sydd yma, yr oll yn dechrau a gorffen yn Ynys Môn, cartref yr awdur. Yn naturiol, mae blas yr heli ar sawl stori gan bod y rhan fwyaf o Gymru wedi’i hamgylchynu gan y môr, ac mae’r lleoliadau hyn wir yn nodweddu yr hyn sy’n arbennig am ein gwlad. Gwyddwn bod ymwelwyr yn heidio i arfordiroedd gorllewin Cymru, ond llawn cystal yw’r mewnwelediad cawn yn straeon lleoliadau’r dwyrain. Lleoliadau sydd, o bosib yn fwy dieithr i ni – mae’r straeon am y sgwennwr yn cael writer’s block yn y Gelli Gandryll, ond yna’n cael fflach o ysbrydoliaeth yng ngwaddod ei gwpan goffi yn aros yn y cof.
Straeon gafaelgar sydd wedi eu hysbrydoli’n uniongyrchol o’r lleoliadau ydynt, ac fel soniwyd eisoes mae’r eglurhad tu ôl i’r darnau yr un mor ddifyr. Er enghraifft, mynega’r awdur i gymeriad Capten Trefor o’r nofel Enoc Huws ddod yn glir i’w feddwl pan welodd gerflun Daniel Owen yn Yr Wyddgrug am y tro cyntaf – a dyna ysbrydoliaeth y darn arbennig hwnnw.
Mae arddull gynnes yr awdur yn nodweddu’r gyfrol, ond mae cic mewn ambell i stori, megis y golffwr yn y stori ‘Cymylau Llechi’ sy’n mynnu galw Porth Llechog yn ‘Bull Bay’.
Mae ambell stori o bersbectif y lleoliad ei hun, megis afon Daron yn Aberdaron, a’r gadeirlan yn Nhyddewi sy’n ‘tawel wylio’. Roedd rhyw hud a pharhad i’w teimlo’n gryf yn y darnau hyn.
Mae straeon, hanes a chwedloniaeth yn frith drwyddo draw, a dyma’r allwedd sydd wir yn ein galluogi i ddeall a gwerthfawrogi’r mannau eithriadol hyn yn ein gwlad fach-fawreddog ni.