
Mae’r adolygiad a ganlyn wedi’i sgwennu gan Buddug Watcyn Roberts.
Gwlad sydd ‘ar ei hôl hi’. Casgliad hawdd wrth edrych ar Gymru heddiw, ac am wlad sy’n hoffi hoelio’i hun yn y gorffennol yn yr ofn o ‘golli’ rhywbeth ydyw. Yn enwedig ym myd rhyw. Mae yna hen gysyniad o ymwrthod ag unrhyw beth sy’n mynd yn groes i’r graen, a cheisio bodloni ar gydymffurfio, plygu a derbyn y drefn. Tan rwan, beth bynnag. Dyma ymgais cwbl hyderus gan awdur sydd yn ymfalchïo yn ei amharchusrwydd, a gwrthod ufuddhau i ffiniau’r naratif sydd wedi’i ‘sgrifennu ar ei chyfer. Dyma awdur sy’n agor ei breichiau llydan i’w ffrindiau, i’w theulu, i ferched Cymru, i unrhyw un sy’n teimlo nad oes ganddyn nhw syniad. Fe’i disgrifir gan Marged Tudur fel ‘rhodd o gyfrol’ ac yn ‘lythyr cariad i deulu, ffrindia, merched…’– yn wir – yn gysur o gyfrol – yn ffrind.
Cawn sedd gefn gyfforddus-wyllt yn dilyn hynt yr awdur o’i harddegau cynnar, ble cydnabyddir effaith rhaglenni a chylchgronau afrealistig Americanaidd, ac i’r rhain fwydo’r meddylfryd patriarchaidd. Yna, awn ymlaen drwy’r ysgol lle uniaethwn ag atgofion chwerw-felys, hyd ryddid cyfnod coleg. Yn olaf down at y presennol ble mae’r effeithiau tocsig oll yn parhau i’w chyflyru. Rydym yn dyst i straeon cwbl bersonol – o’r ffrindiau ffyddlon at y bechgyn anobeithiol, at alar a sut mae rhywun yn delio efo hyn. Rydym yn cyd-fyw’r profiadau, yn cyd-chwerthin a chyd-grïo gyda’r awdur.
Ar ddechrau pob pennod cawn restr o’r pethau sy’n bwysig yn yr oedran dan sylw megis datblygiad hyfryd o bethau materol, yr awydd i fod yn hardd, yn denau, yn hapus, i roi ei hun gyntaf yn y pen draw. Ffactor holl-bresennol yw pwysigrwydd ffrindiau a chyfeillgarwch, sy’n beth ‘anfeidrol’ yn ei thyb hi. Disgrifia un ohonynt, Mali – ‘yn eu cyflwyno i ddarpar-gariadon unnos, fel tasa hi’n fam o Oes Fictoria…’ ac mae rhyw hyfrydwch yn rhyddid cysyniadol y gymhariaeth, a cheidwadaeth y gwrthrych.
Un o rinweddau’r gyfrol ydi’r ymdriniaeth o bwnc sensitif – bwyd. Mae’r awdur yn rhannu ei thrawma, y cystadlaethau bach ei hymennydd yn meddwl ei bod yn gwallgofi, ond yn sylweddoli ei bod yn gynnyrch cymdeithas sydd wedi’i thrwytho i feddwl fel hyn. Ychwanegiad effeithiol yw’r ryseitiau a geid mewn ambell i bennod o hoff fwydydd yr awdur, a’u pwysigrwydd wrth lunio pwy ydi hi heddiw. Gwêl sut mae bwyd yn cysylltu pobl, ac yn ateb – byrdymor – i lawer o broblemau.
Fel rhan o broses ail-ymweld â’i gorffennol darganfu elfen arall o Gymreictod drwy symud i fyw dros y ffin a noda gymaint mae Cymreictod yn llunio rhywun. Pryderodd yr awdur oedd ei Chymraeg yn ddigon da – oedd o’n mynd i ‘daro tant’. Ond am ei bywyd hi, ei phrofiadau hi mae hi’n ysgrifennu, felly hi yw awdur ac awdurdod y geiriau!
Ond hwyrach mai forte y gyfrol yw mai dyma’r tro cyntaf i ryw gael ei drafod yn y fath fodd yn Gymraeg. A’r awdur ei hun sy’n rheoli’r naratif. Rydym wedi bod angen cynnal y sgyrsiau yma ers cryn amser ac mae’r gyfrol yn hyrwyddo a normaleiddio hyn. Clyfrwch y gwaith yw ei fod yn gytbwys o ran y pwnc trafod, ac yn rhoi ystyriaeth i’r elfen gorfforol a’r meddyliol. Dydi hi ddim yn trafod rhyw er mwyn trafod rhyw. Mae’n trafod y teimlad, a phopeth ddaw yn ei sgîl. Ond nid llyfr i ferched yn unig mohono. Llyfr am ferch, ond ar gyfer pawb. Mae geiriau fel ‘perthnasu’ a ‘gonestrwydd’ yn cael eu crybwyll yn gyson gan ddarllenwyr, a dw i’n teimlo fod gen i ffrind gorau newydd. Diolch am y sioc a’r cysur. Fel barddoniaeth Llio Elain Maddocks, diolch am gydnabod y themâu roedd ar bawb ofn eu trafod. Na, does gen innau ddim syniad chwaith ynghylch llawer o gynnwys y gyfrol, ond mae’n gysur gwybod nad ydw i ar fy mhen fy hun.
Mae ‘Sgen i’m Syniad – Snogs, Secs, Sens‘ gan Gwenllian Ellis ar gael nawr (Y Lolfa, £9.99)