Mae’r adolygiad a ganlyn wedi’i sgwennu gan Lois Llywelyn Williams.

Nofel ffres a chyfoes sydd wedi ei lleoli rhwng cymuned gefn gwlad arfordirol yng Nghymru a Llundain, ble mae’r prif gymeriad Lydia yn byw a gweithio, yw Cwlwm. Mae’n nofel ifanc a chyffrous, ac yn bell o fod yn arwynebol wrth i’r awdur drafod themâu o gendedlaetholdeb, ffeministiaeth a chyfiawnder cymdeithasol. Mae tipyn o sylwebaeth gymdeithasol yma a chaiff y darllenydd gipolwg ar frwydr fewnol Lydia wrth iddi fyfyrio ac ystyried i ble ac ymysg pwy mae hi’n perthyn.
Mae’r mwyafrif o’r nofel wedi ei lleoli yn Llundain, ac o gwmpas gweithle’r prif gymeriad yn ardal Marylebone. O bennod gyntaf y nofel a thrwyddi gwelwn Lydia yn ymgartrefu yn y ddinas, wrth iddi fagu perthnasau clòs gyda’r sawl yr oedd hi’n eu hedmygu ar ddechrau’r nofel am eu gwisgoedd trwsiadus a’u mynegiant huawdl tra’i bod hithau’n teimlo braidd yn ddi-raen wrth faglu dros riniog Portland House yn ei dillad beicio – ac yn hwyr! Yn Llundain mae hi’n dêtio, yn cinawa, yn gwrando ar bodcasts ar y ffordd i’r gwaith, yn mynd i wylio gemau rygbi a phartïo mewn dillad sgleiniog.
A phan mae Lydia’n mynd adref i Gymru fach, mae hi’n swpera gyda’i theulu, yn mynd am dro i edrych yn hiraethus ar y môr, yn ymlwybro i lawr i’r dafarn yn y pentref ac yn canu nerth ei phen gyda chyfoedion o’r ysgol – rhai yn ffrindiau iddi ac eraill yn ei chythruddo. Rhan mawr o’r hyn sy’n ei thynnu tuag adref yw Deio, ei chyfaill pennaf sydd driw i’w gymuned leol ac yn danllyd am weld Cymru annibynnol. Mae perthynas Lydia a Deio yn linyn – ac yn gwlwm – arbennig sydd yn rhedeg drwy gydol y nofel.
Nid yn unig ydym ni’n cael cipolwg ar y presennol yn Llundain a Chymru ond i gydbwyso pob pennod mae ôl-fflach i adegau yng ngorffennol Lydia sydd wedi siapio ei gwerthoedd a’i hargyhoeddiadau. Rhwng doethineb myfyriol a sensitifrwydd ei thad ac ergydion amharchus a di-chwaeth ei chyfoedion yn yr ysgol, mae yma gyfres o fyfyrdodau cynnil ar gymdeithas y Chymreictod sydd yn gwneud i’r darllenydd ystyried ei safbwyntiau ei hun yn ogystal.
Un o agweddau mwyaf trawiadol y nofel a ble mae Ffion Enlli yn serenu yw’r ffordd y mae hi’n llwyddo i roi cymaint o hygrededd i’w chymeriadau drwy ysgrifennu golygfeydd a deialog mor rhwydd a naturiol. Yn dra anarferol ar gyfer nofel Gymraeg, mae’r ddeialog rhwng Lydia a’i chydweithwyr a ffrindiau dros y ffin mewn Saesneg, ac o ganlyniad, mae rhan sylweddol o’r ddeialog mewn Saesneg. Fodd bynnag nid yw hyn yn tarfu ar lif y naratif o gwbl. I’r gwrthwyneb, mae’r ddeialog Saesneg yn llifo yn hawdd i’r naratif Gymraeg, ac fel darllenydd teimlais ei fod yn ychwanegu at y profiad wrth i mi gael fy nhrochi yn llwyr ym myd dwyieithog, rhyngddiwylliannol y prif gymeriad.
Mae clo clogwyn i’r nofel sydd yn peri i’r darllenydd awchu am fwy – a chael gwybod i ba gyfeiriad yn union y bydd bywyd Lydia yn mynd. A gawn ni ddilyniant i hanes Lydia – neu a yw’r cwlwm wedi ei gau yn rhy dynn?
Pleser pur oedd darllen Cwlwm nid yn unig am ei bod yn nofel fyrlymus, ddarllenadwy ond am ei bod yn cynnig ymdriniaeth o themâu pwysig ac amserol i ni gnoi cil drostynt, hyd yn oed os nad ydym ni ‘i fod i ddallt pob dim.’ Dwi’n siwr y bydd cryn alw am nofel arall gan Ffion Enlli yn fuan, ac mi fydda i’n sicr yn rasio i’w bachu yn fy siop lyfrau leol.