
Mae’r adolygiad a ganlyn wedi ei ysgrifennu gan Alice Jewell.
Fel merch sydd bellach yn fy arddegau hwyr, wrth ddarllen y gyfrol, trist oedd wynebu mor boenus o ymwybodol mae Beca a’i gyd-ddisgyblion ym mlwyddyn 9 o’r delfrydau harddwch cyfoes. Yn fwy na hynny, mae bwlis Beca yn mesur eu hunanwerth a gwerth eraill yn ôl cydymffurfiad i’r delfrydau yma. Golyga hyn fod Beca druan yn profi profocio cyson am ei bod hi’n fwy na’r merched eraill yn ei blwyddyn.
O ddechrau’r gyfrol, mae elfennau naturiol glasoed, megis stretch marks, yn destun gwawd i gyfoedion Beca. Cyflea stori Beca, fod cymdeithas wedi cyflyru merched ifanc i ffieiddio at elfennau annatod o’r corff benywaidd. Mae’r golygfeydd torcalonnus o Beca yn crio, yn dilyn sylwadau creulon Siwan a’i chriw, yn datgelu’r niwed emosiynol sy’n ganlyniad i ymddygiad bwlio. Teimla Beca yn annymunol, ac mae pob gweithgaredd, o siopa am ddillad gyda’i ffrind gorau, i fwyta yn yr ysgol, yn achosi straen a phryder iddi.
Dengys fod bwlio, yn enwedig am olwg corfforol, yn treiddio i bob rhan o fywyd yr unigolyn ac yn chwalu hunanhyder, felly mae’r gyfrol yn wers i ni i gyd i fod yn fwy ystyriol o’r ffordd rydym ni’n siarad am edrychiad eraill. Diolch byth, mae ffrind gorau Beca, Ela, yn aml yn neidio i amddiffyn Beca rhag creulondeb Siwan ac yn rhoi cefnogaeth gyson iddi. Yn wahanol i’r merched eraill yn ei blwyddyn, nid oes ddiddordeb gan Beca i gael cariad, a braf gweld mai un o’r perthnasoedd sydd yn serennu yn y gyfrol yw’r cyfeillgarwch rhwng Beca ac Ela.
Caiff Beca ddihangfa o fywyd ysgol yn y pwll nofio, a dyma lle mae Beca’n disgleirio. Mae’r ffocws ar gryfder a dawn Beca yn y pwll yn dangos i ddarllenwyr fod modd cyflawni’n uchel ym maes corfforol, megis nofio cystadleuol, hyd yn oed os nad ydy eich corff yn gonfensiynol ‘athletaidd’. Dyma neges holl bwysig i ddarllenwyr Sblash!; sef i edrych y tu hwnt i olwg arwynebol y corff, a dysgu i werthfawrogi’r hyn mae’r corff yn gallu ei gyflawni.
Ynghyd a’i chryfder corfforol yn y pwll, rhaid edmygu cryfder meddwl Beca erbyn diwedd y gyfrol. Nid colli pwysau sy’n arwain at ei bodlonrwydd gyda’i chorff, ond yn hytrach, newid y ffordd mae hi’n mesur ei hunanwerth. Dros yr wythnos diwethaf, ers darllen Sblash!, teimlaf fod stori Beca wedi llwyddo i newid fy meddylfryd personol am hunanddelwedd. Efallai bod geiriau cas Siwan yn adleisio’r hyn rydym ni’n dweud wrth ein hunain wrth gymharu ein cyrff i gyrff eraill, neu wrth ddyheu am fod yn siâp gwahanol. Ond anodd yw darllen Sblash! heb ail-ystyried y ffordd rydym ni’n meddwl am ein cyrff, gan bwysleisio mor ddi-nod yw safonau harddwch cyfoes fel dull o asesu hunanwerth. Yn sicr, dyma gyfrol fyddwn i’n ei hargymell i bob merch ifanc, gyda’r gobaith y byddwn ni i gyd yn mabwysiadu egwyddor Beca ac edrych yn ddyfnach na golwg arwynebol.