Adolygiad ar ‘Y Wal Goch’, Ffion Eluned Owen.

Mae’r adolygiad a ganlyn wedi ei ysgrifennu gan Begw Elain, sy’n aelod o’r Wal Goch ei hun.

Fel un o aelodau y Wal Goch, cefais fodd i fyw yn darllen y gyfrol yma gan Ffion Eluned Owen. Teimlaf ei bod yn gyfrol sy’n crynhoi’r holl elfennau sy’n gysylltiedig â’r Wal Goch ac yn cynnig rhywbeth i bawb. Credaf nad oes rhaid i chi lwyr ymddiddori mewn pêl-droed, hyd yn oed, oherwydd mi wnewch chi ddysgu cymaint o bethau am ein cefnogwyr a beth sy’n gwneud ein Wal mor arbennig. Heb os, byddwch yn fodlon mynd drwy wal o frics ar gyfer eich gwlad ar ôl ei darllen! Er gwaethaf y perfformiad yng Nghwpan y Byd, mae’r gyfrol hon yn eich atgoffa o le mae gwreiddiau ein tîm cenedlaethol ac yn eich arwain i ymfalchïo ym mhob elfen o’n Wal Goch.

Yma, cawn fewnwelediad ar brofiad 18 o gyfranwyr, gydag enwau adnabyddus megis Gwennan Harries, Dafydd Iwan a Bryn Law, a chlywn am gefnogwyr fel Tommie Collins, Rhian Angharad a  Penny Miles. Mae’r gyfrol yn dechrau gyda hanes tîm pêl-droed Cymru gan yr hanesydd, Meilir Emrys, cyn symud ’mlaen at Tommie Collins, sydd â storiâu diddorol am ei dripiau Wales Aŵe. Beth sy’n plethu’r cyfan yn y gyfrol hon yw, yn ystod y penodau, cawn negeseuon gan aelodau’r Wal Goch. Er enghraifft, cawn ddyfyniadau gan Caleb Grove, sy’n blentyn 9 oed o Waunfawr, i Andrew Parker o’r Groeslon sydd wedi dilyn Cymru ers 1992, pan roedd yn y chweched dosbarth. Mae’r gyfrol hon yn gynrychiolaeth o bob aelod ac yn cynnig lle i bawb rannu eu straeon.

Aiff y gyfrol ymlaen at straeon eraill, fel pennod gan y gohebydd pêl-droed Bryn Law, a phennod gan Rhian Angharad Ferch Dai am ei magwraeth, a sut roedd tyfu i fyny yn gwylo’i thad yn chwarae pêl-droed wedi dylanwadu arni. Hefyd trwy’r gyfrol, cawn gyfraniadau barddoniaeth a cherddoriaeth sydd yn llwyddo i ddal yr hyn sy’n ein plethu ni fel y Wal Goch, gyda geiriau gan y beirdd anhygoel Rhys Iorwerth a Llion Jones, a thalent ifanc hefyd, fel Sage Todz. Cawn lawer mwy o gyfranwyr yn rhannu eu barn, gan gynnwys cefnogwyr di-Gymraeg yn trafod beth wnaeth eu hatynnu nhw at yr iaith megis Graig Cane, a’r bennod gan y Trydarwr o fri, Iolo Cheung: ‘Y Wal Goch ar y We’, lle mae’n  trafod yr elfen o newid mewn perthynas â sut mae’r cefnogwyr yn cysylltu gyda’i gilydd a dylanwad cyfryngau cymdeithasol. Yna, awn ymlaen at glywed profiad y sylwebydd a’r cyn-chwaraewr pêl-droed, Gwennan Harries, yn ei phennod cyffrous hi sy’n dwyn y teitl: ‘Rhannu Angerdd’,cyn gorffen gyda’r bennod emosiynol gan Dafydd Iwan: ‘Rhywbeth Mawr ar Droed”.A pheidiwch ag anghofio bod cyfranwyr eraill yn eu plith hefyd, megis Garmon Ceiro, Sarah Mcreadie a llawer mwy i chi eu mwynhau.

Heb amheuaeth, un dyfyniad a darodd fy nghalon wrth ddarllen y gyfrol hon yw’r dyfyniad gan Dafydd Iwan yn ei bennod ‘Rhywbeth Mawr ar Droed.’  Geiriau mor syml, ond sydd wir yn dangos effaith Y Wal Goch ar y gymdeithas. “Beth bynnag fydd y canlyniad ar y cae, fe wyddom na fydd Cymru a’r Gymraeg fyth yr un fath ar ôl hyn”. Teimlaf fod ein cenedl wedi uno yn sgil y misoedd diwethaf a bod y gyfrol hon yn ddathliad o’r cyfan.

Mae hon yn gyfrol i rywun – i’r cefnogwyr ffyddlon er blynyddoedd, i rai newydd.  Byddwch yn disgyn mewn cariad gyda’r hanesion ac yn colli ambell ddeigryn wrth gymharu’r blynyddoedd. Gobeithio cewch chi fodd i fyw yn ymddiddori trwy’r penodau hyn – fel y byddwch yr agor y dudalen cyntaf, ni fyddwch yn gallu rhoi’r llyfr i lawr. Llongyfarchiadau Ffion ar gyfrol wych sy’n dangos arwyddocâd gwirioneddol pêl-droed i ni aelodau o’r Wal Goch! Braf iawn yw gweld awdur arall o Ddyffryn Nantlle a llun eiconig yr artist Owain Fôn Williams, hefyd o Ddyffryn Nantlle, ar y clawr. Ewch amdani a darllenwch!

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s