Amdanom – About Us

Sefydlwyd Y Lolfa yng nghanol y chwedegau, mewn cyfnod cyffrous pan oedd cenhedlaeth o Gymry ifainc yn credu mewn chwyldro ac mewn ymestyn yr iaith i bob ffrwd o fywyd. Pethau go ddiflas oedd llyfrau Cymraeg ar y pryd ac roedd yn rhan o weledigaeth Y Lolfa i greu math newydd o gyhoeddi bywiog a heriol — yn gardiau doniol a phosteri pop yn ogystal â llyfrau.

Yn raddol ehangodd y cwmni mewn maint ac mewn cynnyrch gan arloesi â chyfresi poblogaidd fel Y Llewod, Rwdlan a Chyfres y Beirdd Answyddogol. Dechreuodd hefyd gyhoeddi llyfrau Saesneg i ddysgwyr ac ymwelwyr. Ond blaenoriaeth y cwmni, fel heddiw, oedd sbarduno creadigrwydd Cymreig a Chymraeg

Yr un yw’r weledigaeth heddiw o greu deunydd bywiog a gwreiddiol fydd yn herio’r Gymru gorfforaethol sydd ohoni ac yn paratoi’r ffordd ar gyfer gwlad a fydd yn feddyliol a gwleidyddol rydd.

hyfryd-iawn-llyfr-cyntaf

Y Lolfa was established in the mid-sixties, an exciting period of fun and protest. The company acted as unofficial printers to the new, activist Welsh Language Society, while also producing its own irreverent brand of popular and political material, including the satirical magazine Lol (meaning ‘fun’ or ‘nonsense’), from which the company’s name was derived.

The company evolved gradually, producing an ever widening range of popular books in both Welsh and English. In a world dominated by large corporations and bureaucracies, Y Lolfa believes that ‘small is beautiful’ in publishing as in life. It was Andre Gide who said, “I like small numbers. I like small nations. The world will be saved by the few.”