Prolog – ‘Efa’ gan Bethan Gwanas

efablog copy

Prolog o ‘Efa’ gan Bethan Gwanas – y gyntaf yn nhrioleg Y Melanai. Ar ei phen-blwydd yn 16 oed, rhaid i Efa, tywysoges y Melanai, ladd ei mam, y frenhines. Dyna’r drefn yng ngwlad Melania ers milenia; trefn sy’n sicrhau mai brenhines ifanc, iach a chryf sy’n rheoli.Ond fu Efa erioed yn un am ddilyn y drefn.


Mae’r mab yn fab nes bydd yn priodi.
Mae’r ferch yn ferch nes bydd hi’n trengi.’
Dihareb Wyddelig

O FLAEN Y dorf o filoedd, mae’r fam yn wynebu’r ferch am y tro olaf. Maen nhw mor ofnadwy o debyg: yr un taldra, yr un gwallt du a melyn, yr un osgo. Maen nhw’n debycach i ddwy chwaer.

Mae’r fam yn edrych mor wahanol i’r arfer, wedi ei gwisgo mewn gwn gwyn, syml sy’n dangos ei thraed a’i fferau noeth. Ond mae hi’n sefyll yn urddasol a chefnsyth fel erioed, a’i choron yn dal ar ei phen – am y tro.

Mae’r ferch mewn gwisg hir, drawiadol o aur a du, a’i chlogyn yn disgleirio bob cam o’r goler uchel at y bwtsias duon ar ei thraed. Mae un o’r Meistri yn sefyll y tu ôl iddi, yn dal clustog coch â chyllell finiog yn gorwedd arno. Mae lleisiau’r côr a fu’n canu ers y dechrau yn codi’n uwch ac yn atseinio dros furiau’r palas. Mae’r diwn yn hypnotig, yn codi croen gwydd.

Mae’r fam yn codi ei breichiau yn araf ac yn tynnu ei choron oddi ar ei phen. Mae’n dal y goron o’i blaen, gan edrych i fyw llygaid y ferch. Mae’n datgan mewn llais cryf, llawn hyder:

‘Rhoddaf i ti fy nghoron, fy ngwlad a fy mywyd.’

Mae’r ferch yn datgan mewn llais sydd ddim eto wedi arfer cael ei glywed gan y miloedd:

‘Derbyniaf dy goron.’

Mae’r fam yn camu ymlaen a’r ferch yn penlinio o’i blaen. Mae’r fam yn rhoi’r goron ar ben y ferch, ac yna’n dal ei dwylo allan i gynorthwyo’r ferch ar ei thraed. Does dim angen cymorth ar y ferch i godi; y symboliaeth sy’n bwysig. Mae’r ferch a’r fam yn parhau i gyffwrdd dwylo am rai eiliadau cyn i’r fam gamu’n ôl. Mae’r ferch yn teimlo’r goron yn drwm ar ei phen, ond mae’n gweddu’n berffaith iddi. Mae hi wedi ei geni, ei magu i wisgo’r goron hon. Mae’n tynnu anadl ddofn.

‘Derbyniaf dy wlad, gan ddiolch i ti am y gwasanaeth ffyddlon a roddaist iddi,’ meddai mewn llais cryf.

Mae’r Meistr yn camu ymlaen gyda’r clustog coch a’r gyllell, ac mae’r ferch yn troi ato. Mae’n syllu ar y gyllell, ar y gemau rhuddem coch sy’n addurno’r carn. Mae’n gyllell hardd, hynafol. Dyma’r gyllell sydd wedi ei defnyddio yn y seremoni hon ers cyn cof.

Mae’r ferch yn cydio ynddi yn araf ac yn ei dal i fyny o’i blaen fel croes, fel bod y gemau’n fflachio yng ngolau’r lleuad lawn. Mae’r miloedd yn dal eu hanadl.

‘Ac yn awr,’ meddai’r ferch mewn llais clir sy’n canu dros y cerrig, yn llifo dros y muriau i’r coed a’r afonydd, ‘derbyniaf dy fywyd.’

“Hir oes i Felania!” cana’r côr.

“Hir oes i Felania!” cana’r miloedd, ac mae’r fam a’r ferch yn teimlo’r geiriau yn crynu drwy’r ddaear ac i fyny i’w cyrff drwy sodlau eu traed. Mae swn y côr yn codi a chodi eto fel ton ar ôl ton, yn uwch ac yn uwch. Mae’r nodau yn ysu, yn mynnu. Mae’r drymiau’n curo’n rhythmig dawel, yn dal yn ôl, yn aros, aros eu tro.

Mae gweithwyr mewn gwisgoedd aur yn ymddangos i hebrwng y fam at y Maen Coch. Mae hi’n cerdded tuag ato â’i gên yn uchel, ei hysgwyddau yn ôl. Mae’n troi ei chefn at y maen ac yn dal ei breichiau i fyny er mwyn i’r gweithwyr gael eu clymu, fel ei choesau, drwy’r tyllau yn y maen. Does neb yn disgwyl iddi geisio dianc na phrotestio ar y funud olaf ond mae’n well osgoi unrhyw symud anffodus ar yr eiliad dyngedfennol, rhag i’r gyllell fethu’r man priodol ac achosi marwolaeth hirach a mwy poenus nag arfer. Mae defnydd ei gwn gwyn yn cael ei dynnu’n barchus, ofalus i’r ochr fel nad yw’n gorchuddio lleoliad ei chalon. Mae’r fam yn teimlo’i chalon yn curo’n uwch na’r drymiau.

Mae’r gweithwyr yn camu’n ôl, ac mae’r drymiau’n curo’n uwch ac yn gyflymach. Mae’r fam yn gaeth i’r Maen Coch a dim ond y rhai agosaf ati all weld bod ei hanadlu wedi  cyflymu, ei chorff yn crynu, ei dannedd yn brathu ei gwefus isaf, yn tynnu gwaed, a bod canhwyllau ei llygaid yn fawr a thywyll wrth weld y ferch yn  camu’n araf, urddasol tuag ati.

Mae’r dorf yn canu i rythm y drymiau: ‘Me-la-ni-a. Me-lani- a. Me-la-ni-a.’

Mae’r ferch yn codi’r gyllell yn yr awyr gyda’i dwy law, ac yn oedi.

‘Me-la-ni-a. Me-la-ni-a. Me-la-ni-a!’

Mae’r fam yn edrych i fyw llygaid ei merch ac yn sibrwd:

‘Gwna fo – rwan!’

‘Me-la-ni-a! Me-la-ni-a! Me-la-ni-a!’

Mae dagrau’n cronni yn llygaid y ferch ac mae ei dwylo’n crynu.

Mae’r côr wedi newid ei sain; mae’r nodau swynol wedi troi’n un nodyn hir, main sy’n trywanu’r glust, sy’n berwi’r gwaed, ac mae’r drymiau’n fyddarol. Maen nhw’n mynnu, yn gorfodi.

Mae’r ferch yn hoelio ei llygaid ar ochr dde calon y fam. Mae’n tynnu anadl ddofn a chyda sgrech o boen yn plannu’r gyllell yng nghalon y fam, ac wrth syllu i’w llygaid mae’n tynnu’r gyllell allan o’i chnawd, i’r gwaed gael llifo’n rhydd. Roedd yr annel
yn berffaith.

Mae’r fam yn gelain o fewn eiliadau.


Mae Cyfres Y Melanai: Efa gan Bethan Gwanas ar gael nawr (£5.99, Y Lolfa)

9781784615024

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s