‘OPERATION TÂN’

Yn 1980 cafodd Robat Gruffudd, sylfaenydd gwasg Y Lolfa, a’i wraig Enid, ill dau eu harestio ar gam a’u cyhuddo o losgi tai haf. Daw’r darn hon am yr hanes o’r gyfrol ‘Lolian’ sef dyddiaduron hanner canrif Robat Gruffudd.


Pythefnos wedi pasio ers ‘Operation Tân’; wedi methu sgwennu dim tan nawr. Mae’r holl beth wedi fy ysgwyd. Y peth mwyaf gwarthus oedd carcharu Enid ac anfon y plant i gartrefi yn y pentre. Ond cawsom wers dda ar sut mae’r system yn gweithio.

Twyll yw bywyd bob dydd. Mae dwrn o ddur yn y faneg felfed, a thrais y wladwriaeth yn gorwedd yn fythol barod dan wyneb bywyd ‘normal’.

Dechreuodd y cyfan â churo trwm ar ddrws y ty tua phump o’r gloch ar fore Sul, Sul y Blodau. Es i lawr yn fy mhyjamas, heb feddwl mwy na, ‘wel, dyna beth od’. Yno roedd un ar ddeg o heddlu: tri mewn iwnifform, dwy yn ferched. Dangosodd un ohonyn nhw warant yn fy nghyhuddo o ‘ddifrod troseddol’ mewn perthynas â thai haf. Ond hyd yn oed wedyn, wnes i ddim cymryd y peth o ddifri. Ro’n i’n gwybod nad oedd ’da nhw dystiolaeth – ond nid y basen nhw’n treulio’r dyddiau a’r wythnosau nesaf yn chwilio amdani.

Aethon nhw â fi i Swyddfa’r Heddlu, Llanelli, ac Enid i’r celloedd yn Aberystwyth, gan adael y plant mewn tai ffrindiau yn y pentre. Ond wrth i fi gael fy ngwthio i mewn i gar yr heddlu, do’n i’n gwybod dim am hyn, nac iddyn nhw fynd â tua 50 o eitemau mewn bocsys o’r ty a’r Lolfa, gan gynnwys disgiau meddal, llyfrau cyfeiriadau, setiau cemeg y bechgyn, ac eitemau o’r stafell wely hyd yn oed – yn ogystal â’r ddau gar Volvo.

“Mae dwrn o ddur yn y faneg felfed, a thrais y wladwriaeth yn gorwedd yn fythol barod dan wyneb bywyd ‘normal’.”

Gallen i weld nad oedd pob un o’r plismyn yn hollol hapus â’r sefyllfa. Ond nid felly Pat Molloy, pan holodd fi yn nes ymlaen yn y gell yn Llanelli. Chwipiodd fy sbectol i ffwrdd, a’m taflu i lawr ar y gwely caled, a dweud: “You fucking Nashie arsonist, get this into your head. When you get out of here you’ll get the most unforgettable interrogation you ever got in your life.” Yna gofynnodd i fi dynnu fy sgidiau. Pan wrthodais, cymeron nhw oddi wrtha i hefyd fy wats a fy ngwregys, a’m gadael gyda dim ond dwy hen flanced a phot piso.

Dywedon nhw fod ’da fi’r hawl i gysylltu ag un person, ond eu bod nhw’n gwrthod yr hawl yna i fi nawr gan y byddai’n ‘impeding the course of justice.’ Felly, dyna roi hawliau dynol yn eu lle.

Roedd y solitary confinement yn wahanol iawn i’r noson ges i gyda Dafydd Iwan yng  ngharchar Abertawe. Mae’n dechneg hen ac effeithiol iawn. Yn dawel fach ro’n i wastad wedi ffansïo ’mod i’n weddol wydn yn feddyliol, ond gwelais mai ffantasi oedd hynny.

Wrth i’r dydd droi’n araf iawn yn nos, triais gadw’n gall trwy siarad a chynnal noson lawen â fi’n hunan. O’r diwedd daeth y bore, a phlatiad o ‘fwyd’ llwyd i frecwast. Ond tua diwedd y pnawn, clywais y gadwyn allweddi yn cloncian yn y drws, a ches i fy arwain at gar yr heddlu.

Â’m harddwrn wedi ei glampio wrth fraich heddwas wrth fy ochr, rasiodd y car tua Chaerfyrddin. Roedd hi’n nosi erbyn hyn. Trwy’r ffenest, pasiai’r byd heibio i mi yn chwyrligwgan o liwiau llachar, seicedelaidd. Roedd fel bod ar LSD ac yn brofiad diddorol os ychydig yn arswydus. Er ’mod i’n uffernol o falch i fod allan o’r gell, roedd llais bach yn fy mhen yn fy rhybuddio: bydd yn ofalus – fe fyddi fel pwti yn nwylo’r bygars yma!

teulu-sul-y-blodau

Yn Aberystwyth, holwyd fi am tua awr gan dri phlismon, un ohonyn nhw yn sarjant amlwg yn y dre. Y dechneg fan hyn oedd good cop, bad cop. Wedi cyfres o gwestiynau medal i wneud i chi ymlacio, byddech yn cael cwestiwn sydyn, cas gan un o’r lleill. Roedd y cwestiynau cyntaf yn ymwneud â phobl ro’n i’n eu nabod – yn fwyaf arbennig, aelodau’r mudiad Cofiwn. Wedyn, holon nhw fi am fy symudiadau yn ystod yr wythnos ddiwethaf gan ddangos gwybodaeth bersonol fanwl pryd o’n i yn y pwll nofio neu ym mwyty Corners.

Do’n i ddim yn gwybod ar y pryd iddyn nhw gael yr wybodaeth yma gan Enid – na hyd yn oed ei bod dan glo. “Chi’n gweld, ffrind,” meddai’r Sarjant gan graffu dros ei feiro, “does dim lot amdanoch chi nad y’n ni’n wybod. Cystal i chi gyfadde’r cyfan i ni nawr. Bydde hynny’n haws i bawb – ac yn arbennig i chi, pan fyddwch chi yn y cwrt. Ugain mlynedd yw arson fel arfer. Ond gallen ni ddadlau gyda’r barnwr dros  ddim ond deng mlynedd, os byddwch chi wedi cydweithio gyda ni …”

Wnes i ddim ateb. Gofynnodd un o’r lleill, “Chi’n gwybod am Angler’s Retreat?”

“Ydw’n iawn, bwthyn ar y ffordd i Nant-y-moch.”

“So chi’n gwybod am yr arson attack bwytu fis yn ôl?”

“Ydw.”

Gwenodd y plismon yn slei ar yr un nesa ato.

“Ond roedd yr hanes dros y papurau i gyd,” dywedais.

“Ni’n gwbod ’ny …”

Nawr ro’n i’n dechrau teimlo’r pwysau – a’r pwysau oedd arnyn nhw. Roedd cannoedd o dai haf wedi’u llosgi, a neb wedi’i ddal, mewn ymgyrch hynod lwyddiannus. Roedd heddlu Cymru yn destun sbort ymhell ac agos. Byddai’n demtasiwn gref iddyn nhw ffugio – neu, ddywedwn ni, lanw ambell i fwlch yn y dystiolaeth – er mwyn dod â’r holl embaras i ben …

“Roedd y solitary confinement yn wahanol iawn i’r noson ges i gyda Dafydd Iwan yng  ngharchar Abertawe…”

Yna’n sydyn roedd rhyw fwstwr yn y coridor. Cododd y Sarjant ac un o’r plismyn. Roedd neges frys wedi cyrraedd y brif ddesg. Pan ddaethon nhw ’nôl i mewn, clywais y newyddion: roedd rhywun wedi llosgi ty haf yn ardal Tal-y-bont neithiwr – tra o’n i dan glo yn Llanelli!

Roedd hyn yn gwbl anhygoel, ac yn gwneud fy sefyllfa’n fwy swreal fyth. Tra o’n i’n fewnol yn gwenu fel cath – rhaid eu bod nhw nawr yn gwybod ’mod i’n ddieuog – sobrais wrth sylweddoli fod hyn yn rheswm iddyn nhw fy holi’n galetach fyth am ‘eithafwyr’ lleol – a dyna ddigwyddodd. Llwyddais i gau fy ngheg fawr, ond roedd yn amlwg eu bod nhw’n gwybod mwy am y bechgyn yma – bois go galed – nag oedden nhw’n barod i gyfadde. Pam fy nhynnu i i mewn, felly, yn hytrach na nhw?

Ofn corfforol, tybed?

Ces i fy ngollwng o’r diwedd ar y palmant tu fas lle roedd Heini, fy mrawd, yn fy nisgwyl. Cafodd wybod fy mod i yno trwy Enid, a gawsai’r wybodaeth gan yr heddlu. Roedd e a nifer o gyfreithwyr wedi trio cysylltu â fi yn ystod y dydd, ond heb lwyddiant. Ac rwy’n sylweddoli nawr mai’r rheswm dros garcharu Enid – heb unrhyw dystiolaeth yn ei herbyn – oedd i wasgu gwybodaeth allan ohoni amdana i, a’i defnyddio wedyn ar gyfer yr ‘unforgettable interrogation’.

Mae’r heddlu erbyn hyn wedi dychwelyd pedair yn unig o’r 50 eitem a ddwynon nhw, ynghyd â’r ddau Volvo.

Cafodd hanner cant o bobl eu harestio a’u cadw i mewn yn anghyfreithlon yn ystod cyrch ‘Operation Tân’, ond ni chyhuddwyd neb hyd yma.

O.N. Ymhen dwy flynedd byddai Enid wedi ennill £1,000 o iawndal gan yr heddlu am ei harestio a’i charcharu ar gam. Aeth â’i hachos ymlaen wedi i Huw Lawrence herio’r heddlu’n llwyddiannus ar yr un cyhuddiadau.


lolian-robat-gruffudd

Mae Lolian gan Robat Gruffudd (£9.99) ar gael nawr gan Y Lolfa.

3 comments

Gadael sylw