Holi’r awdur – Heulwen Davies

BLOGHOLIHEULWEN copy

A hithau newydd gyhoeddi ei chyfrol gyntaf, Mam – Croeso i’r Clwb, llyfr ffeithiol i famau newydd fydd yn arwain y fam trwy’r beichiogrwydd, hyd ddiwedd blwyddyn gyntaf y plentyn, fe aethom ni i fusnesu i fyd yr awdur, Heulwen Davies


O le wyt ti’n dod? Glantwymyn neu Cemaes Road fel mae rhai yn ei adnabod, sef pentref ger Machynlleth.

Yn gryno, disgrifia dy lyfr diweddaraf. Fy llyfr cyntaf! Yikes! Llyfr ffeithiol a llawn hiwmor sy’n cynnig cymorth i bob mam (a thad) newydd yng Nghymru yn ystod beichiogrwydd a’r flwyddyn gyntaf efo’r babi. Mae’n cynnwys fy mhrofiad i a phytiau o brofiadau gan tua 50 o famau a thadau eraill yng Nghymru, yn ogystal a chyngor proffesiynnol gan dwy fydwraig a meddyg teulu. Mae cartwnau doniol y tad a’r cartwnydd Huw Aaron yn dod â’r cyfan yn fyw!

Mam - Croeso i'r Clwb - Heulwen Davies

Beth oedd y sbardun I ysgrifennu’r llyfr? Doedd dim llyfrau nag adnoddau Cymraeg nag unrhywbeth yn trafod profiadau rhieni Cymru yn bodoli pan ro’n i’n feichiog ac yn profi bywyd fel mam newydd. Ro’n i’n gweld bwlch ac yn awyddus i helpu wrth ysgrifennu llyfr a sefydlu gwefan ddwyieithog; mamcymru.wales

Beth fyddai y cyngor gorau i roi i rieni sydd yn disgwyl babi? I ddilyn eich greddf a gwneud yr hyn sy’n iawn i chi ac i ddysgu bod yn rhaid cydweithio o’r cychwyn a manteisio ar bob cyfle i gysgu! Mae’n bwysig cymdeithasu gyda rhieni eraill sy’n mynd trwy’r un profiad hefyd.

Heulwen ac Elsi

Beth yw’r peth gorau am fod yn riant? Y cariad di ben draw a’r fraint o gael magu plentyn a gweld y byd trwy lygaid eich plentyn. Mae pob dydd yn antur ac mae pawb sydd yn y clwb yma yn uffernol o lwcus. Dyma’r swydd orau erioed!

“Doedd dim llyfrau nag adnoddau Cymraeg nag unrhywbeth yn trafod profiadau rhieni Cymru yn bodoli pan ro’n i’n feichiog ac yn profi bywyd fel mam newydd…”

i-botany-bay-bethan-gwanas

Pwy yw dy hoff awdur? Bethan Gwanas! Mae hi’n ysgrifennu mor naturiol ac mae’n hawdd i ddarllen ac ymgolli yn ei llyfrau. Mae Gwrach y Gwyllt a I Botany Bay wedi creu argraff fawr arnai.

Beth oedd dy hoff lyfr(au) yn blentyn? Llyfrau Sali Mali a Jac y Jwc a Wil Cwac Cwac a dwi’n mwynhau darllen rhain gyda Elsi rwan a gweld hi’n cael yr un mwynhad.

Yn olaf, beth yw dy gyngor di i rywun sydd eisiau ysgrifennu a chyhoeddi llyfr? Ewch amdani! Mae sawl un ohonom yn gor feddwl am bethau yn hytrach na bwrw ati! Ysgrifennwch dudalen yn crynhoi’r syniad a’i anfon at y wasg ac wedyn mynd o fana! Mae’r gweisg yn awyddus i gefnogi awduron newydd a byddan nhw gyda chi bob cam o’r ffordd.


Mae Mam – Croeso i’r Clwb gan Heulwen Davies (£6.99, Y Lolfa) ar gael nawr.

Mam - Croeso i'r Clwb - Heulwen Davies

1 comments

  1. […] A hithau newydd gyhoeddi ei chyfrol gyntaf, Mam – Croeso i’r Clwb, llyfr ffeithiol i famau newydd fydd yn arwain y fam trwy’r beichiogrwydd, hyd ddiwedd blwyddyn gyntaf y plentyn, fe aethom ni i fusnesu i fyd yr awdur, Heulwen Davies! […]

    Hoffi

Gadael sylw