Blas o nofel Mared Lewis – Treheli

Treheli copy

Mae nofel newydd gan yr awdures Mared Lewis yn mynd i’r afael â phwnc sy’n broblem gynyddol yn y Gymru gyfoes, sef y pegynnu barn mewn cymdeithas. Mae’r nofel Treheli yn olrhain cyfnod mewn tref glan y môr a’i thrigolion ac yn edrych ar ymateb pobl i ddigwyddiad penodol sydd yn effeithio ar bawb yno.

Dyma flas o’r bennod gyntaf…


Rhaid gweithio’n chwim. Ac yn ddirgel fel gwenwyn. Gall unrhyw smic fradychu, gall unrhyw ochnaid ddatgelu. Dal pob dim yn dynn, yn effeithiol. Cadw pob dim dan reolaeth. Ac fe weithith pethau fel wats.

Brath oerni’r gwynt ar war noeth. Bysedd menyg yn cau allan min awel y nos. Gweithio’n chwim, yn ddirgel. Yn effeithiol.

Unwaith mae bolltiau’r colfachau wedi’u llacio, mae’r giât yn llithro’n rhyfeddol o rwydd i rym y bysedd, yn codi’n hawdd i orchymyn y dwylo. Edrych yn sydyn i gyfeiriad y ty, y ffenestri yn syllu yn llygaid tywyll cyhuddgar. Ond does ‘na’m enaid byw y tu ôl i’r sylli. Does ‘na neb wedi gweld.

Ac yna’r glec. Clec fel gwn yn rhwygo awyr y nos. Rhewi. Gwrando. Ust. Usssssst. Mae cloddiau’r ardd yn tyfu, yn chwyddo, yn cau i mewn, fel plismyn sgwâr yn closio am eu prae. A metel y giât yn drwm, yn sigo dan y dwylo, yn treiddio drwy wlân y menyg duon. 


Richard

Roedd y swn yn cynyddu yn y neuadd, rhyw gwmwl o fwmian isel oedd yn chwyddo’n raddol mewn cryfder wrth i faer Treheli, Richard E Preis, syllu allan ar y dorf. Wrth iddo syllu roedd eu hedrychiad, yn ogystal â’u swn, yn toddi’n un.

Roedd blwyddyn neu ddwy o brofiad dan ei felt wedi dysgu i Richard fod edrych ar y dorf yn un fel hyn yn mynd i wneud pethau’n haws iddo fo mewn munud pan fyddai’n rhaid iddo godi ac annerch y gynulleidfa. Doedd siarad yn gyhoeddus ddim yn dwad yn hawdd iddo, hyd yn oed ar ôl yr holl flynyddoedd o gapel, ysgol a swyddi. Roedd o’n dal i deimlo cledrau ei ddwylo’n dechrau chwysu wrth feddwl am godi ar ei draed, a theimlo’r gwrid yn amdo coch dros ei wyneb a’i wddw, nes ei fod yn teimlo’n un talp annigonol, nerfus.

Ond roedd y strategaeth o feddwl am y bobl o’i flaen fel rhyw fath o fôr amryliw homogenaidd yn gwneud pethau rywfaint yn haws. Byddai cyflymder ei lais yn arafu, ei dôn yn mynd yn ddyfnach ac yn fwy gwastad, a’i bengliniau yn crynu ychydig bach llai. Fel hyn, byddai’n gallu annerch ei gynulleidfa mewn modd oedd yn briodol i faer tref ei wneud.

Pan amneidiodd cadeirydd neuadd y dref arno i gamu mlaen at y pulpud bach, roedd Richard yn barod, a chamodd ymlaen gydag arddeliad dyn oedd yn medru llenwi neuadd ar noson oer o hydref.

Tawelodd y dorf yn syth o’i weld yn sefyll o’u blaenau, a llyncodd Richard ei boer.

Ar ôl iddo eistedd yn ôl i lawr, ryw chwarter awr yn ddiweddarach, gallai Richard daeru fod ei lais yn dal i ddiasbedain o un pen y neuadd i’r llall. Roedd yr hyn roedd ganddo i’w ddeud wedi cael cryn effaith ar bobl, wrth gwrs, ac roedd hynny’n naturiol. Er bod Richard wedi bod yn ofalus iawn i gadw ei eiriau’n gymedrol a’i lais yn wastad ac awdurdodol, roedd clywed bod rhywun diarth yn prowlan strydoedd Treheli yn siwr o godi ofn, os nad panig, yn y gymdogaeth.

Camodd cadeirydd y cyfarfod at flaen y llwyfan a dechrau ar ei ddiolchiadau. Dyn byr o gorfforaeth oedd Edwin Parry, dyn a edrychai fel tasai wedi cael ei eni mewn gwasgod a siwt. Gwisgai sbectol gron a wnâi iddo edrych yn hynod o debyg i’r bard T H Parry-Williams hwnnw yr oedd Richard dysgu amdano yn yr ysgol ers talwm. Ond dyn trin ceir ac nid geiriau oedd Edwin, a dyn trin cychod cyn hynny. Cymerodd Edwin gip yn ôl ar Richard cyn dechrau siarad, a gwenu’n dadol arno.

‘Wel, dwi’n siwr bod pawb ohonan ni’n ddiolchgar i’r maer am ddwad draw yma heno i…”

Ond torrwyd ar ei draws gan lais o gefn y neuadd.

‘Wel, pwy ydi o, ‘ta? Sgynnoch chi syniad pwy ‘di’r person ‘ma sy’n prowlan hyd ein strydoedd ni?’ Croesawyd cwestiwn yr hen wàg â murmur o gydsynio a ledodd fel tân drwy’r lle.

Edrychodd Edwin Parry yn ôl ar Richard mewn ychydig bach o benbleth a chodi ei aeliau’n awgrymog.

Rhoddodd yr ychydig eiliadau yma o ansicrwydd y cyfle i’r dorf ddechrau sisial siarad â’i gilydd, a damiodd Richard na fyddai’r cadeirydd wedi gwneud ei waith yn iawn a rhoi taw arnyn nhw’n reit sydyn.

Edrychodd Richard ar Edwin unwaith eto, a nodiodd hwnw bron yn ymbilgar, gan roi ystum i gyfeiriad y pulpud. Doedd gan Richard ddim dewis ond codi ar ei draed drachefn ac annerch y bobl unwaith eto.

Cododd ei law er mwyn gofyn am dawelwch, gweithred a roddodd ryw gymaint o bleser iddo fo gan ei fod yn atgoffa Richard o lun rhyw arweinydd yn twelu torf mewn sgwâr byrlymus. Ufuddhaodd pawb yn y neudd i’w ystum yn syth.

Cliriodd ei wddw.

‘Mae gynnon ni reswm I feddwl mai… mai gwryw ydi o,’ meddai Richard yn bwyllog. ‘Dyn,’ ychwanegodd, rhag ofn bod ambell un ddim cweit yn siwr be oedd gwryw. Aeth yn ei flaen. ‘A ‘dan ni’n meddwl ei fod o’n gweithredu ar ei ben ei hun. Ond fedrwn ni ddim bod yn berffaith siwr eto, wrth gwrs.’

Mwmian braidd yn anfodlon.

‘Sgynnon ni ddim enw, a wel, dim disgrifiad ohono chwaith, tasa hi’n dwad i hynny, dim byd fydda’n —’

‘Ond sut dach chi’n gwbod ma dyn ydi o, ta?’ gofynodd rhywun o’r cefn eto, y geg fawr oedd wedi dechrau’r holi yn y lle cyntaf, tybiodd Richard.

‘Ma gynnon ni reswm i gredu oherwydd… ym… natur y…’ Teimlai Richard ei hun yn mynd i gors, gan ddechrau ymbalfalu am unrhyw eiriau swyddogol i roi rhyw fath o fframwaith i wagle ei dystiolaeth.

‘Sens yn deud, tydi!’ gwaeddodd llais arall, llais yn nes at y tu blaen y tro hwn.

‘Pam?’ meddai rhywun arall. Roedd y dorf yn dechrau magu adenydd, yn dechrau sgwrsio ymhlith ei gilydd.

‘Sa dynas byth yn medru codi giatia haearn fel ‘na a’u taflu nhw i’r ardd, na fasa?’

Cymerodd y dorf, fel un corff, un anadl o fraw.

‘Ma dynas yn ddigon tebol i fedru gneud unrhyw beth ma dyn yn neud!’ protestiodd rhyw lais main, ond anwybyddwyd ei phrotest gan adael iddi ddilyn trywydd y sgwarnog arbennig hwnnw ar ei phen ei hun.

‘ Y petha ‘ma o ffwr’ ydyn nhw, saff chi!’ meddai rhywun arall.

‘Ia!’ cytunodd rhywun arall wedyn. ‘Rhyw hen bobl o’r tu allan yn dwad yma i greu stwr!’

Chwyddodd y mwmian siarad drachefn. Trawodd Richard ei ddwrn ar y lectern i ofyn am dawelwch, rhywbeth a greodd gymaint o syndod iddo fo ag i bawb arall.

‘Gyfeillion,’ meddai, a’i dôn yn gymodlon heb lacio ei awdurdod. ‘Gyfeillion, y peth pwysica allwn ni ei wneud rwan, fel aelodau cyfrifol o’n cymuned ni yma yn Nhreheli…’ (Llongyfarchodd ei hun ar yr effaith a gafodd y ‘ni’ cynhwysol ar ei gynulleidfa) ‘… ydi bod yn wyliadwrus, cadw llygad barud am unrhyw … unrhyw beth anghyffredin, unrhyw beth sydd allan o’i le. Fel ein bod i gyd yn medru sefyll i fyny dros ein cymuned a herio unrhyw un sy’n ei bygwth!’

Ysbrydolwyd rhywun yn y sêt flaen i ddechrau clapio, ac ymunodd sawl un arall hefyd. Ond roedd y rhan fwyaf o’r dorf wedi troi at y person oedd y drws nesa iddyn nhw, a’u pennau’n llawn o’r diethryn oedd yn prowlan yn eu plith.


Treheli - Mared Lewis


Treheli gan Mared Lewis (£8.99) – ar gael nawr!

www.ylolfa.com

 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s