Adolygiad | Babel gan Ifan Morgan Jones

Babel

Nofel ddirgelwch ddarllenadwy a chyffrous, wedi ei lleoli mewn tref ddiwydiannol yn ail hanner y 19eg ganrif.

Mae’r prif gymeriad Sara yn dianc o afael ei thad sy’n weinidog alcoholig, ac yn dod i’r dre, wedi gweld hysbyseb am swydd newyddiadurol yng ngwasg Joseph Glass, dyn busnes rhyddfrydol a golygydd papur newydd Llais y Bobol.

Dyma adolygiad Llŷr Gwyn Lewis o nofel Ifan Morgan Jones, Babel.


 
Sara, merch o gefn gwlad yw prif gymeriad y nofel unigryw hon, sydd yn rhoi cychwyn go ddi-droi’n-ôl i bethau drwy ladd ei thad a dianc i’r ddinas fawr ddiwydiannol sy’n gymysgedd ffantasïol o Ferthyr Tudful, Dinbych a chorneli tywyllaf Llundain yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Drwy ei chanol llifa’r afon ddu, ac o’i hamgylch mae’r gweithfeydd haearn a dur, y pyllau glo, y capeli a’r swyddfeydd argraffu a’r siopau crand a’r slymiau. I ganol y prysurdeb mwdlyd hwn y teflir Sara gan gwrdd â chast niferus o gymdogion a chydweithwyr a phlant a dihirod. Wrth iddi geisio hawlio bywoliaeth fel newyddiadurwr, codir sawl trafodaeth ddiddorol am le’r ferch yng nghymdeithas y cyfnod; rhagrith a chelwydd; cyfiawnder cymdeithasol; natur newyddiadura, newyddion ffug a phropaganda; datgysylltu’r Eglwys a methiant Anghydffurfiaeth; ac effaith diwydiant, technoleg, cyfalafiaeth ronc ac imperialaeth ar fywydau pobl.

Yn wir, mae gwyntyllu pynciau a syniadau yn un o gryfderau’r nofel hon, ac fe’u cyflwynir ar y cyfan mewn dull cyffrous, hygyrch a dealladwy. Weithiau mae perygl bod Sara yn cael ei phledu ag esboniadau hirfaith o’r syniadau hyn gan gymeriadau gwrywaidd y nofel. Dro arall fe’u mynegir mewn ffyrdd difyrrach, fel drwy’r dyfeisgarwch disglair sydd wedi’i seilio ar ddealltwriaeth graff o’r cyfnod – enghraifft nodweddiadol yw’r amrywiol enwadau sydd wedi eu creu yma. Manteisir ar y cyfnod i ddyfnhau’r dyfeisgarwch a’r arswyd, gydag elfennau gothig neu drwy efelychu ffasiwn y Cymry Fictoraidd o fathu geiriau. Ceir golygfeydd dirdynnol hefyd, sy’n cyfleu mewn ffordd ingol deimladwy effaith y peiriant cyfalafol didrugaredd ar fywydau pobl gyffredin.

Daw’r elfen ‘steampunk’, neu ‘agerstalwm’, ag estheteg ffres, dyfeisgar a swreal i fyd y nofel, a chynnig ffyrdd o fyfyrio yn ddyfodolaidd ar effaith datblygiadau diwydiannol a thechnolegol carlamus heb eu ffrwyno na’u rheoleiddio, a’r gost ddynol ac amgylcheddol enbyd all ddod yn eu sgil. Mae’r ffin rhwng realaeth hanesyddol a gwyddonias ddyfodolaidd yn un denau yma; rhwng y dynol a’r peiriannol hefyd. Ai pobl o gig a gwaed yw trigolion y ddinas, ynteu ai dim ond olwynion sy’n troi yn y peiriant mawr diwydiannol? Ac ai trwy ysgrifennu – boed yn newyddiadurol neu’n ffuglennol – y gallwn ddianc rhag ein ffawd?

Mae gen i bryderon am rai elfennau o’r cymeriadu a’r plot: diffyg cydwybod ac edifeirwch Sara ei hun, a’r ffaith mai digwydd iddi hi (neu felly yr ymddengys, o leiaf) y mae pethau – cyfres faith ohonynt – nid cael eu cyflawni ganddi, heb newid ei chymeriad ryw lawer. Ond mae’n bosibl y gallai’r tro yn y gynffon ar ddiwedd y nofel gynnig gwedd arall ar y ‘gwendidau’ hyn. Dro arall, mae’r gystrawen ac arddull rhai brawddegau a chymalau braidd yn drwsgl.

Ond rwy’n annog pawb i fynd i’r afael â Babel. Mae hi’n swmpus, ond yn ein tynnu i mewn i’w byd yn fedrus. Nid yw fyth yn brin o antur a difyrrwch a digrifwch, ac mae hi hefyd yn trin a thrafod ystôr eang o syniadau a chwestiynau deallusol difyr mewn modd na fydd yn colli neb. Yn hynny o beth, mae hi’n cyflawni cryn gamp.


Adolygiadau eraill:

“Werth ei ddarllen heb unrhyw amheuaeth.” – Catrin Beard, Trydar 

***

“Nefi, dwi’n mwynhau hon. Stori sy’n gwau a throi corneli annisgwyl. Clincar o nofel agerstalwm (steampunk)” – Bethan Gwanas, Trydar 

***

“Newydd orffen darllen y drên wib yma o nofel ac yn teimlo’n reit fyr fy ngwynt! Llongyfarchiadau fil Ifan Morgan Jones. Sgwennu disglair, a chymaint i gnoi cil arno. Wrth fy modd efo’r elfen newyddiadurol ynddi.“ – Annes Glynn, Trydar 

***

Mae’n ddifyr tu hwnt, yn gyffrous… bobl bach mae hi’n carlamu ymlaen. – Ion Thomas, Y Silff Lyfrau, BBC Radio Cymru 

***

“Ar wahan i’r mwynhad pur o ddarllen nofel swmpus mewn Cymraeg cyhyrog, fe ddysgais gymaint am y cyfnod… Mae gen i barch mawr at [yr awdur], a dwi wedi gwirioni ar ei gampwaith diweddaraf, fy mlas cyntaf o ‘agerstalwm’.” – Angharad Tomos, Yr Herald Cymraeg 

***

“The book is cleverly and knowingly constructed along the lines of a Russian doll, with reality contained within fantasy which then peels back to reveal another layer of reality… a playful, sprawling tale, animated by people railing against social injustice and trying to right political wrongs. It underlines the growing status of its young author as a sort of Daniel Owen for our times, telling tales with an ebullient narrative gift, but always finding something which connects with the contemporary, making his stories properly and meaningfully relevant.” – Jon Gower, Nation.cymru


Mae Babel gan Ifan Morgan Jones ar gael nawr (Y Lolfa, £9.99)


www.ylolfa.com

Gadael sylw