Blas o nofel | Pennod 1 Cadi Goch a’r Ysgol Swynion gan Simon Rodway

Mae Cadi Goch yn ferch naw oed sy’n byw gyda’i thad a’i llysfam mewn pentref bach yng Ngheredigion. Ar ôl i’w hysgol leol gau, mae’n cael cynnig lle yn Academi Gwyn ap Nudd.

Mae’r nofel yn trafod themâu sy’n berthnasol i’r Gymru gyfoes – cau ysgol y pentref, y berthynas rhwng pobl leol a mewnfudwyr, gwleidyddiaeth iaith a lle lleiafrifoedd ethnig yn y Gymru Gymraeg.

Meddai’r awdur, Simon Rodway:

“Yn ogystal â defnyddio hen chwedlau i greu byd dychmygol, roeddwn i moyn gwreiddio’r stori yn y Gymru Gymraeg gyfoes, yn fwy penodol yng ngogledd Ceredigion, sy’n gartref i fi nawr ers dros chwarter canrif. Roeddwn i am ddangos nad yw’n baradwys o bell ffordd, gan gyffwrdd â’r wasgfa economaidd yng nghefn gwlad, a’r tensiynau ieithyddol a chymdeithasol yn sgil dyfodiad pobl ddi-Gymraeg i’n cymunedau ni. Hefyd, roeddwn i eisiau pwysleisio bod yna Gymry Cymraeg o wahanol grwpiau ethnig, a bod eu profiad o Gymreictod rywfaint yn wahanol. Mae hyn yn bwysig i fi, am fod fy mhlant innau o dras gymysg, ac nid ydynt yn groenwyn. Eto i gyd, does dim moeswers, fel y cyfryw: ymgais i bortreadu byd cymhleth yw’r nofel, lle mae cyfeillgarwch a pharodrwydd i wrando ar stori pobl eraill yn bwysig.”

Dyma flas o Cadi Goch a’r Ysgol Swynion:

1

Miss Cilcoed

Un pnawn, a Cadi newydd gyrraedd adre ac yn bwyta afal wrth ford y gegin, dwedodd Sandra wrthi:

‘Newyddion drwg, Cadi. Mae’r Ysgol yn mynd i gau wedi’r cwbwl. Ges i alwad gan Mrs Thomas neithiwr.’

Teimlai Cadi fel petai rhywun wedi ei bwrw yn ei stumog. Rhoddodd hi’r afal i’r naill ochr. Yn sydyn, doedd dim chwant bwyd arni. Roedden nhw wedi brwydro i achub Ysgol Llanfair ers misoedd. Roedd cyfarfodydd wedi’u cynnal yn lolfa Cadi gyda’r nos, a rhieni a ffrindiau wedi tyrru yno, wedi’u cynhyrfu’n lân, gan daeru na fydden nhw byth yn gadael i’r fath beth ddigwydd, dim i’w hysgol nhw, byth. Roedd Cadi wedi gwrando o’r landin ar leisiau’r oedolion, rhai’n flin, ac eraill dan deimlad. Codai hynny ofn arni, rywsut, ond bob tro y siaradai hi â Sandra neu Dad, bydden nhw’n dweud:

‘Paid becso bach: maen nhw wedi bygwth cau’r ysgol o’r blaen, ond wnaethon nhw ddim. Bydd pob dim yn iawn, gei di weld.’

Byddai hi wastad yn teimlo’n well wedyn. Un noson cafodd hi a’i brawd bach Gethin aros lan yn hwyr i helpu i lunio placardiau’n dweud ‘Peidiwch â Chau ein Hysgol’, ‘Leave Our School Alone’ a phethau felly gyda phinnau ffelt. Roedd y plant a’r rhieni wedi mynd â’r placardiau mewn bws mini i Aberaeron i brotestio o flaen Adeilad y Cyngor Sir. Roedd hynny wedi bod yn gyffrous: pawb yn canu ‘Bing Bong’, ‘Sosban Fach’ a ‘Calon Lân’ ar y bws, gyda Miss Jones Cae’r Allt yn cyfeilio ar y gitâr. Roedden nhw wedi gweld heddlu mewn siacedi llachar, a newyddiadurwyr â chamerâu. Cafodd Cadi a’i ffrind gorau eu llun yn y Cambrian News uwchben y geiriau ‘Llanfair pupils Cadi Williams, 9, and Cadi Jenkins also 9, say “hands off our school”.’

Ie, Cadi oedd enw ffrind gorau Cadi: Cadi Jenkins, a fod yn fanwl, ond byddai pawb yn ei galw hi’n Cadi Ddu, oherwydd bod ei gwallt fel plu’r frân, a’n Cadi ni, Cadi Williams, y Cadi Goch, am fod ei gwallt hi fel gwallt y tegan leprechaun gafodd Gethin gan Dad pan aeth i Ddulyn i wylio’r rygbi un flwyddyn. Gwallt brown oedd gan Sandra a Gethin, a doedd dim gwallt o gwbl gyda Dad. ‘Shiny’ roedd bois y clwb rygbi yn ei alw fe. Torrodd Mam-gu’r llun allan o’r papur newydd a’i sticio ar y wal â blw-tac. Yna daeth rhywun enwog – doedd Cadi erioed wedi clywed amdani o’r blaen – i siarad mewn rali yn y pentre: roedd Dad wedi’i gyffroi’n lân a chafodd e selfie gyda hi ar y sgwâr. Aeth Sandra i mewn i’r stiwdio radio yn Aberystwyth un diwrnod i siarad. Roedd hi’n rhyfedd clywed ei llais ar y radio, meddyliodd Cadi. Roedd hi wedi gwrando ar y rhaglen ar y we gyda Dad ar ôl ysgol. Aeth Sandra drwodd i’r gegin.

‘Mae’n gas gen i glywed fy llais fy hunan,’ meddai hi.

Roedd Cadi wedi mwynhau’r ymgyrch yn fawr. Roedd pawb yn y pentre wedi bod yn fwy cyfeillgar â’i gilydd na’r arfer: wel, pawb ond Mr James Pen-y-Banc, oedd wedi bod yr un mor sarrug ag erioed. Roedd y cyfan wedi bod fel antur fawr, a doedd hi erioed wedi ystyried o ddifri y byddai’r ysgol yn cau go iawn. ‘Bydd pob dim yn iawn’, dyna beth oedd Sandra a Dad wedi’i ddweud o hyd. A nawr, dyma Sandra yn cyhoeddi bod popeth wedi bod yn ofer.

‘Ond all hi ddim cau,’ meddai Cadi. ‘All hi ddim!’

‘Dwi’n gwbod, cariad,’ meddai Sandra, gan fwytho ei chefn. ‘Mae’n siomedig iawn, ond ‘na ni, mae’r penderfyniad wedi’i neud. Sdim byd allwn ni neud nawr.’

‘Ond wedest ti bydde popeth yn iawn!’ meddai Cadi, ei bochau’n fflamio. Yn sydyn roedd hi’n gandryll â Sandra, er y gwyddai nad oedd hynny’n deg o gwbl.

‘Bydd popeth yn iawn,’ meddai Sandra, ‘gei di weld. Ffindiwn ni ysgol newydd i ti. Galli di fynd i’r ysgol yn Aberystwyth: gall Dad fynd â ti yn y bore ar ei ffordd i’r gwaith. Byddai hynny’n ddigon handi, a gweud y gwir.’

‘Sai moyn mynd i ysgol arall,’ gwaeddodd Cadi. ‘Dwi moyn mynd i Ysgol Llanfair.’

A chyda hynny, cododd a rhuthro lan staer i’w stafell gan gau’r drws yn glep y tu ôl iddi. Taflodd ei hunan ar ei gwely, cydio yn ei hoff dedi a llefain y glaw. Allai hi ddim dychmygu mynd i ysgol arall. Ysgol Llanfair oedd ei hysgol hi, a dyna ni. Roedd hi’n nabod pob twll a chornel, roedd hi’n nabod pob un o’r deunaw o blant, a phob un aelod o’r staff. Roedd Mr Ebenezer yn hen, yn dew, yn farfog, ac yn garedig, yn union fel Siôn Corn, ac wedi dysgu tad Cadi flynyddoedd maith yn ôl. Doedd e ddim mor hen bryd hynny. Roedd meddwl am ysgol fawr, gyda channoedd o ddisgyblion a dwsinau o athrawon, yn ddigon i wneud iddi deimlo’n sâl.

Yn sydyn, clywodd sŵn rhyfedd, fel petai rhywbeth yn crafu’n erbyn ffenest ei stafell wely. Sychodd ei llygaid â chefn ei llaw, ac edrych i fyny. Roedd jac-do yn sefyll ar sil y ffenest, ei blu mor ddu â gwallt Cadi Ddu, yn syllu arni â llygad gwelw, craff. Rywsut, aeth Cadi i deimlo’n anghyfforddus, felly cododd ar ei heistedd a chwifio ei breichiau i’w ddychryn i ffwrdd. Ond, er mawr syndod iddi, ni symudodd fodfedd. Arhosodd yn union lle roedd e, gan rythu arni o hyd.

‘Shŵ!’ meddai Cadi, gan chwifio ei breichiau eto, ond roedd yr aderyn yn hollol lonydd.

Y funud honno, clywodd Cadi gnoc tawel ar y drws, a llais caredig Sandra yn dweud:

‘Ga i ddod i mewn, Cadi?’

Snwffiodd Cadi, a sychi ei hwyneb yn frysiog.

‘Cei,’ meddai’n floesg.

Taflodd gip sydyn ar y ffenest, ond roedd y jac-do wedi mynd. Agorodd y drws, a dyna lle roedd Sandra, a golwg bryderus ar ei hwyneb pert. Roedd hi’n edrych yn flinedig hefyd, meddyliai Cadi. Llysfam Cadi oedd Sandra. Bu farw mam go iawn Cadi, Gwen, pan oedd hi’n fabi, a doedd Cadi ddim yn ei chofio o gwbl. Doedd hi ddim hyd yn oed yn gwybod sut oedd hi’n edrych, achos doedd hi erioed wedi gweld llun ohoni. Roedd wedi gofyn i’w thad unwaith pam nad oedd dim lluniau o’i mam, ac edrychodd Dad arni’n syn fel pe na bai wedi meddwl am y peth o’r blaen.

‘Mae’n rhaid bod rhai yn rhywle,’ meddai’n ddryslyd. ‘Doedd Gwen ddim yn lico cael tynnu ei llun, dwi’n gwbod hynny. Eto, mae’n rhaid bod ambell i un i gael yn rhywle…’

Ond doedd dim. Y cwbl roedd Cadi’n gwybod oedd bod gan Gwen wallt coch fel gwallt Cadi, a’i bod yn hardd iawn. Doedd Dad ddim yn hoff o siarad amdani: roedd yn ei wneud yn drist, siŵr iawn. Roedd Cadi’n teimlo’n drist hefyd bod ei mam wedi marw, er nad oedd yn ei chofio. Byddai hi’n breuddwydio amdani weithiau, er na fyddai byth yn gweld ei hwyneb yn y breuddwydion. Roedd ei thad wedi ailbriodi pan oedd Cadi’n dal yn blentyn bach. Doedd hi ddim yn cofio bywyd heb ei llysfam o gwbl, mewn gwirionedd. Roedd Sandra bob tro’n garedig ac yn famol tuag at Cadi. Eto i gyd, ar ôl i Gethin gael ei eni, teimlai Cadi weithiau bod Sandra’n ei ffafrio fe, gan mai ei phlentyn go iawn hi oedd Gethin. Gallai Gethin fod yn gas ambell waith hefyd yn ei dymer, yn ei hatgoffa nad oedd ganddi fam go iawn. Pan ddwedai hynny byddai Cadi’n teimlo fel petai pwll mawr o dristwch wedi cronni tu mewn iddi, ond doedd hi ddim yn dangos hynny. Weithiau byddai mor grac gyda Gethin fel y byddai’n anelu cic ato, ac wedyn byddai’n cael row.

Daeth Sandra i mewn i’r ystafell, ac eistedd gyda Cadi ar y gwely. Pwysodd Cadi yn ei herbyn a gwynto ei phersawr, yr un roedd hi wastad yn ei wisgo. Roedd hyn yn gysur iddi.

‘Dwi’n gwbod bod ti’n siomedig,’ meddai Sandra. ‘Ni gyd yn siomedig. Ond fydd pethe ddim yn ddrwg i gyd. Cyfle i neud ffrindie newydd. Ac wrth gwrs bydd Cadi a’r lleill yn symud gyda ti.’

‘Beth am Tom Jarvis?’ meddai Cadi.

Roedd Tom Jarvis yn hen fwli cas. Byddai Tom, a’i ffrind Kevin Burgess, yn plagio’r merched yn ddi-baid. Roedd Kevin yn iawn ar ei ben ei hunan, mewn gwirionedd, pan oedd Tom yn absennol o’r ysgol, ond pan oedd Tom yno, byddai’n ei ddilyn fel ci bach ffyddlon a’i gopïo bob cam.

‘O, sdim isie becso amdano fe, cariad,’ meddai Sandra. ‘’Sen i’n meddwl bydd ei fam yn ei hala fe i Ysgol Saesneg. Roedd hi wastod yn conan bod gormod o Gymrâg yn ysgol ni. Beth bynnag, dim ond am flwyddyn fyddi di yno, cyn symud i’r Ysgol fawr.’

Roedd Cadi’n gwybod bod Sandra yn trio ei chysuro, ond rywsut gwnaeth hyn iddi deimlo’n waeth. Doedd hi ddim yn hoff o newid. Roedd hi’n dymuno i bethau aros yn union fel yr oedden nhw am byth. Doedd dim modd iddi wybod bryd hynny bod popeth ar fin newid yn llwyr.

‘iawn ‘te, blodyn,’ meddai Sandra. ‘Beth am i ni gael pitsa a hufen iâ i swper heno? Bydd hynny’n helpu, bydd?’

Nodiodd Cadi yn fud. Cusanodd Sandra dop ei phen. Cododd a gadael yr ystafell. Oedodd wrth y drws.

‘Dere lawr pan ti’n barod, cariad,’ meddai.

Gorweddodd Cadi ar y gwely, a syllu ar y nenfwd. Ond yn sydyn, clywodd sŵn a barodd iddi godi ar ei heistedd: sŵn crafu wrth y ffenest eto. A dyna lle roedd y jac-do, yn pipo arni ag un llygad gwelw.

*** 

Gwelodd Cadi’r jac-do’n aml dros y dyddiau nesaf. Rywsut, roedd hi’n siŵr mai’r un un oedd e, er bod pob jac-do’n edrych yr un fath. Pan agorai’r llenni yn y bore, byddai’n eistedd ar y lein ddillad yn yr ardd. Pan gyrhaeddai’r ysgol yn y bore, byddai’n eistedd ar gangen yr hen onnen ar bwys y gât, ac un diwrnod, pan aeth am dro ar ei beic ar ôl ysgol, roedd hi’n sicr ei fod e’n ei dilyn hi. Ddwedodd hi ddim gair wrth neb amdano.

                ‘Bydden nhw’n meddwl bo’ fi wedi colli ‘mhwyll,’ dwedodd wrthi’i hunan wrth feddwl am y peth.

                Beth bynnag, roedd digon o bethau eraill yn digwydd. Aeth Cadi a Gethin i edrych ar yr ysgol yn Aberystwyth. Roedd y staff i gyd yn gyfeillgar, a gwnaeth rhai o’r merched ymdrech i siarad â Cadi, ond doedd Cadi ddim wedi arfer â gweld cymaint o blant, ac aeth hi yn swil ac i’w chragen. Prin y dwedodd air yr holl amser roedd hi yno. Wrth adael, gwelodd jac-do’n hel trychfilod yn y gwely blodau.

                Un bore dydd Sadwrn, roedd hi’n bwyta ei chreision ŷd yn y gegin. Roedd Gethin yn gorwedd ar ei fola yn y lolfa’n gwylio Stwnsh Sadwrn, roedd Sandra’n smwddio, ac roedd Dad yn yfed coffi ac yn darllen y papur. Yn sydyn, dechreuodd Pero’r ci chwyrnu’n isel. Roedd yn edrych i gyfeiriad y drws, ac roedd ei wrychyn wedi codi. Edrychodd Dad i fyny o’r tudalennau chwaraeon.

                ‘Be sy’n bod ar y twpsyn o gi ‘na, dwed?’ meddai.

                Y funud nesaf, canodd y gloch. Neidiodd Cadi, ac wedyn teimlo embaras. Roedd Pero wedi sleifio’n ôl i’w wely. Rhoddodd Dad ei bapur i lawr ac agor y drws. Ar y stepen roedd menyw dal, osgeiddig mewn sgert a siaced wyrdd tywyll. Roedd ei hwyneb main yn olygus, ond braidd yn llym .Roedd ei gwallt du yn dechrau britho, ac roedd ei llygaid yn welw ac yn graff.

                ‘Fydden i ddim moyn croesi honna,’ meddyliodd Cadi.

                ‘Mr Williams?’ meddai wrth Dad. Roedd ei llais yn glir ac yn awdurdodol.

                ‘Um, yes, that’s me,’ meddai Dad. ‘How can I help you?’

                ‘Siaradwch Gymraeg, os gwelwch yn dda,’ meddai’r fenyw. ‘Dwi ddim yn siarad yr iaith fain.’

                ‘O,’ meddai Dad. ‘Popeth yn iawn. Shwt alla I’ch helpu chi?’

                ‘dwi wedi dod i siarad am ei eich merch, Cadi,’ meddai. ‘Ga i ddod i mewn?’

                Neidiodd calon Cadi’n annifyr wrth glywed y geiriau. Pam fod y fenyw ddiarth hon eisiau siarad amdani hi? Oedd hi wedi gwneud rhywbeth o’i le? Oedd hi mewn trwbwl?

                ‘Wrth gwrs, wrth gwrs,’ meddai Dad, ac wrth weld ei olwg bryderus, gwyddai Cadi ei fod e’n meddwl yr un peth. ‘Dewch mewn! Eisteddwch. Coffi?’

                ‘Dim diolch,’ meddai’r fenyw wrth eistedd yn hoff gadair Dad a symud ei bapur i’r ochr. Doedd Dad ddim yn gwybod beth i’w wneud: estynnodd am gadair arall ac eistedd arni, ond neidiodd i fyny’n syth gan regi dan ei wynt. Roedd un o ddeinosoriaid Gethin, gyda chyrn reit gas, eisoes yn eistedd ar y gadair. Pwysodd Dad yn erbyn cownter y gegin yn anesmwyth, wedi’i fwrw oddi ar ei echel, braidd. Rhoddodd Sandra y smwddiwr i lawr a dod i sefyll wrth ei ymyl.

                Roedd y fenyw ddiarth wedi gwylio hyn i gyd yn ddi-wên. Pan oedd pawb wedi setlo, cliriodd ei llwnc a dweud:

                ‘Fy enw i yw Morfydd Cilcoed, Dirprwy Brifathrawes Academi Gwyn ap Nudd. Mae’n siŵr bo’ chi wedi clywed amdano ni…’

                Edrychodd yn ddisgwylgar ar Sandra a Dad, ond roedden nhw’n syllu ar ei gilydd yn ddryslyd.

                ‘Yyyym… na,’ meddai Dad o’r diwedd. ‘Mae’n ddrwg gen i, ond dwi erioed wedi clywed am ys… Beth oedd yr enw eto Mrs Cilcoed?’

                ‘Miss Cilcoed,’ meddai Miss Cilcoed, gan wgu arno. ‘Academi Gwyn ap Nudd. Sefydlwyd yr Academi gan ŵr busnes lleol i roi addysg o’r safon orau i blant mwyaf disglair y fro. Mae e wedi bod yn cadw llygad ar eich Cadi chi, ac mae wedi gofyn i fi gynnig lle iddi yn yr Academi.’

                Neidiodd calon Cadi yn ei brest. Roedd Sandra a Dad yn syllu’n gegagored ar Miss Cilcoed.

                ‘Ym…’ meddai Sandra, ‘mae hyn yn annisgwyl iawn. Ym, ydych chi’n siŵr bo’ chi ddim wedi neud camgymeriad. Dyw Cadi… Wel, nid hi yw’r disgleiriaf yn y dosbarth o ran darllen a sgrifennu a phethau. Nid bo’ fi’n dweud… Ond, mae hynny’n wir on’d yw e, cariad?’

                Nodiodd Cadi yn ddigalon. Roedd Sandra yn llygad ei lle. Roedd Cadi Ddu ac Elin Parry wastad yn rhagori arni hi ym mhob pwnc, ac roedd Tom Jarvis, hyd yn oed, yn well mathemategydd na hi. Rhaid bod rhyw gamgymeriad. Taflodd gip sydyn ar y calendr i wirio nad Ebrill y cyntaf oedd hi.

                ‘Dydyn ni ddim yn talu llawer o sylw i ganlyniadau profion a phethau felly,’ meddai Miss Cilcoed. ‘Mae gyda ni’n ffordd ein hunain o asesu gallu plentyn. Does dim camgymeriad. Byddai’n hysgol ni’n siwtio Cadi i’r dim.’

                ‘O,’ meddai Sandra. Agorodd ei cheg i siarad eto, ond doedd hi ddim yn gallu meddwl am unrhyw beth i’w ddweud, felly caeodd hi’n glep.

                ‘Ife ysgol breifat yw’r Academi ‘ma?’ meddai Dad. ‘Dwi ddim yn siŵr…’

                ‘Peidiwch â becso am arian,’ torrodd Miss Cilcoed ar ei draws. ‘Does dim ffioedd. Mae ein noddwyr yn talu am bopeth.’

                ‘O,’ meddai Dad. ‘Hael iawn. Ym, pwy yw’ch noddwr chi, os ga i ofyn?’

                ‘Mae’n well ganddo aros yn ddienw,’ meddai Miss Cilcoed.

                ‘Dwi’n gweld,’ meddai Sandra yn ddrwgdybus. ‘Wel, mae hyn i gyd yn dipyn o sioc. Bydd rhaid i ni drafod fel teulu cyn neud unrhyw benderfyniad. Mae’n siŵr bo’ chi’n deall, Mrs – ym, Miss Cilcoed. A beth bynnag bydd Cadi’n mynd i’r ysgol uwchradd ymhen blwyddyn. Mae’ch ysgol chi’n swnio’n… wel, yn wahanol. Byddai un flwyddyn yn rhy fyr, falle, iddi hi ddod i arfer cyn mynd i ysgol norm–, ym, ysgol arall.’

                ‘Rydych chi’n iawn, Mrs Williams,’ meddai Miss Cilcoed, gan droi ei llygaid gwelw arnai. ‘Mae’n hysgol ni yn wahanol. A fyddai dim cwestiwn o newid i ysgol arall ar ôl bwlyddyn: os daw Cadi aton ni, byddai hi’n aros gyda ni nes ei bod hi’n barod.’

                ‘Yn barod i beth?’ meddai Sandra.

                ‘Yn barod i fynd allan i’r byd mawr, wrth gwrs,’ meddai Miss Cilcoed.

                ‘A beth am arholiadau TGAU?’ meddai Dad. ‘All hi eu neud nhw gyda chi? Bydd angen cymwysterau arni cyn mynd mas i’r byd mawr.’

                ‘Wrth gwrs,’ meddai Miss Cilcoed. ‘Ac fe gaiff hi gymwysterau, peidiwch â becso dim. Bydd cymwysterau’n diferu o’i chlustiau cyn i ni orffen â hi!’

                Doedd gan Cadi ddim syniad beth oedd cymwysterau, ond roedd hi’n siŵr nad oedd hi eisiau iddyn nhw ddiferu o’i chlustiau, beth bynnag oedden nhw.

                ‘Dyma fy ngharden,’ meddai Miss Cilcoed, gan dwrio yn ei bag, ac estyn un yr un i Dad a Sandra. ‘Gallwch chi edrych ar ein gwefan am ragor o fanylion.’

                Wrth y ffordd dwedodd hi’r gair ‘gwefan’, roedd Cadi’n siŵr nad oedd Miss Cilcoed yn gwybod beth oedd e, yn fwy nag yr oedd Cadi yn gwybod beth oedd ‘cymwysterau’.

                ‘Diolch,’ meddai Dad gan graffu ar y garden. ‘Edrychwn ni ar y wefan a thrafod y cynnig.’

                Roedd e a Sandra wedi codi, gan ddisgwyl i Miss Cilcoed ddeall ei bod hi’n amser iddi fynd, ond aros yn hoff gadair Dad wnaeth hi, heb ddangos unrhyw arwydd ei bod hi am adael. Edrychodd Sandra a Dad heb flincio, nes i’r ddau ohonyn nhw gochi.

                ‘Wel,’ meddai hi o’r diwedd, ‘ydych chi’n mynd i roi llonydd i Cadi a fi? Mae gennym lawer i’w drafod.’

                ‘O,’ meddai Dad. ‘Ym, iawn.’

                Aeth y ddau i’r lolfa, braidd yn anfodlon. Edrychodd Dad ar Cadi’n ddiymadferth wrth iddo fynd, gan godi ei ysgwyddau. Yn syth ar ôl iddyn nhw adael, cododd Miss Cilcoed, croesi i’r drws, gwrando am funud a’i chlust yn erbyn y pren, ac yna dweud rhywbeth o dan ei gwynt. Clywodd Cadi sŵn rhyfedd fel swigod yn byrstio, ond doedd hi ddim yn gwybod o ble’n union.

                ‘Reit,’ meddai Miss Cilcoed, gan droi ati a gwenu am y tro cyntaf, ‘wyt ti’n gallu cadw cyfrinach?’

                ‘Odw,’ meddai Cadi.

                ‘Mae’n bwysig iawn nad wyt ti’n yngan gair am yr hyn dwi’n mynd i ddweud. Nid wrth dy Dad, na Sandra, na dy frawd, na dy ffrind Cadi, nid wrth neb. Wyt ti’n deall?’

                ‘Odw,’ meddai Cadi, oedd ar bigau’r drain erbyn hyn.

                ‘Mae Academi Gwyn ap Nudd yn ysgol i dylwyth teg.’

Mae Cadi Goch a’r Ysgol Swynion gan Simon Rodway ar gael nawr, am £7.99

www.ylolfa.com

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s